Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Weinidog, croesewais eich ymateb i Mick Antoniw ynglŷn ag awdurdodau lleol ledled Cymru. Cyngor Sir Fynwy oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gyflawni'r statws o dalu'r cyflog byw i'w holl staff. Fel y dywedasoch, dylai cynghorau fod yn gwneud hyn, dylai cyrff cyhoeddus fod yn gwneud hyn, a'r sector addysg yn ogystal. Felly, a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut rydych yn annog y sector addysg yng Nghymru i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yn awr, a sut rydych yn gwneud yn siŵr fod yr achrediadau cyflog byw hyn yn digwydd a'u bod yr un mor ddylanwadol ag y byddem yn ei honni?