Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Yn ystod pum mlynedd gyntaf y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, bydd £87 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y gwaith o ailadeiladu ac ailwampio ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Mae £129.5 miliwn arall wedi'i glustnodi ar gyfer ail gam y rhaglen o fis Ebrill 2019, yn amodol, wrth gwrs, ar y broses arferol o ymdrin ag achosion busnes.