Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Alun. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynnig ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn fecanwaith ar gyfer cynllunio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn ymgynghori ar ddull newydd o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd drwy gyflwyno cynlluniau 10 mlynedd a thargedau mesuradwy uchelgeisiol.