1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2019.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ54155
Diolch yn fawr, Alun. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynnig ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn fecanwaith ar gyfer cynllunio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn ymgynghori ar ddull newydd o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd drwy gyflwyno cynlluniau 10 mlynedd a thargedau mesuradwy uchelgeisiol.
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am yr ateb. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yr ateb hefyd i Huw Irranca-Davies yn gynharach y prynhawn yma. Dwi’n gwybod bod gyda chi ymrwymiad personol i sicrhau bod addysg Gymraeg yn cynyddu ar draws y wlad a dwi’n gwybod eich bod chi wedi bod yn gwthio hynny drwy gydol eich amser yn y swydd fan hyn. Ond dwi wedi bod yn delio gydag etholwyr ac eraill, a dwi wedi clywed straeon o gwmpas y wlad, ble mae pobl wedi bod yn ffeindio problemau cynyddol o ran cael trafnidiaeth i ysgolion Cymraeg i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn addysg Gymraeg a hefyd cwblhau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Oes yna fodd i’r Llywodraeth wneud datganiad clir fod gennym ni i gyd hawl i dderbyn ein haddysg, reit drwy gydol yr ysgol, yn y Gymraeg, a bod gan gynghorau gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl yn gallu gweithredu’r hawl i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg?
Wel, Alun, ie yn wir. Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt hwy a'u rhieni'n dewis hynny. Yn sicr, weithiau, mae rhieni a phlant yn wynebu anfantais logistaidd sylweddol wrth arfer yr hawl honno, ac maent yn aml yn gorfod teithio pellteroedd sylweddol i allu manteisio arni. Rwy'n ymwybodol iawn o rai o'r newidiadau mewn perthynas â theithio ôl-16 y mae awdurdodau lleol yn ymgynghori yn eu cylch. Un o'r pethau rhyfedd am Lywodraeth yw'r ffaith nad fi sy'n gyfrifol am y polisi teithio i ddysgwyr. Rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl yn synnu nad fi fel Gweinidog addysg sy'n gyfrifol amdano, ac mai fy nghyd-Aelod, Ken Skates, sydd â chyfrifoldeb, a gallaf sicrhau'r Aelod fod fy staff a'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith yn gyffredinol mewn trafodaethau â Ken Skates ar sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn. Oherwydd mewn llawer o ardaloedd, gwyddom nad oes mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 mewn ffordd ddaearyddol debyg i'r hyn a fyddai ar gael ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Saesneg, ac nid wyf eisiau i neb golli'r cyfle i sicrhau'r continwwm hwnnw oherwydd rhai o'r newidiadau hyn. Ac mae trafodaethau ar y gweill yn y Llywodraeth ynglŷn â sut y gallwn ddatrys hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chwestiwn Alun. A yw'n hawl, mewn gwirionedd, pan fo gallu awdurdod lleol i ddweud 'na' i gludiant yn ei rhwystro mor hawdd? Ac nid wyf yn sôn am gludiant ôl-16 yn unig, er, yn amlwg, mae honno'n broblem ar hyn o bryd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i. Rydych chi wedi cyfeirio at hyn—roeddwn eisiau gofyn i chi: a ydych yn credu bod yr amser wedi dod i ddisodli Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a sicrhau bod darpariaeth ar gyfer cludiant am ddim i'r addysg cyfrwng Cymraeg agosaf yn cael ei chynnwys fel hawl, yn ogystal â sicrhau bod mater cludiant myfyrwyr yn cael ei gynnwys yn y portffolio addysg, yn hytrach na phortffolio'r economi?
Wel, Lywydd, dylwn ddatgan buddiant. Bu'n rhaid i fy nheulu fy hun apelio yn erbyn penderfyniad cludiant yn ymwneud â gallu fy mhlant i gael mynediad at eu haddysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â grŵp arall o rieni ym Mhowys. Felly, rwy'n gyfarwydd iawn â rhai o'r problemau y mae rhieni'n eu hwynebu wrth geisio gwneud y dewis cadarnhaol iawn hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn os ydym eisiau annog mwy o bobl i wneud y dewis hwnnw. Oherwydd, os nad oes mynediad hawdd at addysg cyfrwng Cymraeg, na chontinwwm eang drwy bob cam dysgu, mae'n bosibl na fydd llawer o rieni, yn enwedig rhieni o gartrefi di-Gymraeg, yn cymryd y cam cyntaf ar y daith honno, ac rwyf eisiau galluogi mwy o rieni i wneud hynny. Fel y dywedais, mae trafodaethau ar y gweill rhyngof i, y Gweinidog, a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth mewn perthynas â'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Nid wyf yn gwybod a oes amser ar hyn o bryd i adolygu'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth yn llwyr, sydd, wrth gwrs, yn golygu nad oes gan neb yr hawl i deithio ôl-16 ni waeth beth fo iaith y dysgu—mae'r trafodaethau hynny'n parhau, oherwydd rwy'n cydnabod bod problemau penodol yn gysylltiedig ag addysg cyfrwng Cymraeg sydd, o bosibl, yn rhoi rhieni a disgyblion o dan anfantais.