Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chwestiwn Alun. A yw'n hawl, mewn gwirionedd, pan fo gallu awdurdod lleol i ddweud 'na' i gludiant yn ei rhwystro mor hawdd? Ac nid wyf yn sôn am gludiant ôl-16 yn unig, er, yn amlwg, mae honno'n broblem ar hyn o bryd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i. Rydych chi wedi cyfeirio at hyn—roeddwn eisiau gofyn i chi: a ydych yn credu bod yr amser wedi dod i ddisodli Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a sicrhau bod darpariaeth ar gyfer cludiant am ddim i'r addysg cyfrwng Cymraeg agosaf yn cael ei chynnwys fel hawl, yn ogystal â sicrhau bod mater cludiant myfyrwyr yn cael ei gynnwys yn y portffolio addysg, yn hytrach na phortffolio'r economi?