Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel unrhyw ddatganiad uchelgeisiol o fwriad ynghylch y math o genedl yr ydym ni am ei chreu yng Nghymru, boed hynny yn datgan argyfwng hinsawdd neu geisio sicrhau dyfodol yr iaith, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y ddelfryd yn cael ei hatgyfnerthu yn ein gweithredoedd ac yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n rhaid cydnabod nad ar chwarae bach y mae gwyrdroi sefyllfa'r Gymraeg, ac mae'n bwysig peidio gorsymleiddio maint yr her sydd yn ein hwynebu wrth sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Rydym ni'n credu bod ceisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu cadarn ym mhob maes, ac mae'r meysydd lle mae hyn yn bwysig yn cynnwys addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol, a statws ac isadeiledd yr iaith, y gweithle a'r teulu. Byddwn i'n annog Aelodau, felly, i gefnogi gwelliant 2.
Aeth cynlluniau'r Llywodraeth o ran Mesur y Gymraeg i'r wal, sydd yn anffodus yn adlewyrchu'r llanast cyffredinol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ceisio llywodraethu'r tymor hwn, gyda blaenoriaethau a chynlluniau yn mynd a dod gyda'r Gweinidogion. Roedd hyn yn beth da yn yr achos hwn, gan y byddai'r cynigion i ddileu'r comisiynydd wedi bod yn gam yn ôl i 1993, yn hytrach nag ymlaen i 2050. Tra bod galw am fwy o dryloywder i'w groesawu, mae angen i'r pwyslais nawr ddychwelyd at weithredu'r strategaeth.
Felly, rhaid i mi ddweud fy mod i wedi rholio fy llygaid wedi gweld agwedd olaf cynnig y Ceidwadwyr, sydd yn ymwneud â dychwelyd eto at drafod pwrpas rôl y comisiynydd. Roeddwn i wedi siomi y bore yma wrth glywed sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr ar Radio Cymru ac sydd wedi cael eu dweud eto prynhawn yma yn y Siambr, a oedd yn tanseilio diben y ddadl hon. Mae'n gwbl anhygoel mai blaenoriaeth y Blaid Geidwadol mae'n debyg yw gwanhau mesurau i gynyddu nifer y siaradwyr trwy alluogi unigolion i gwyno pan fydd swyddi yn gofyn am sgiliau yn y Gymraeg.