– Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar uchelgais y strategaeth 'Cymraeg 2050' o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth. Dwi'n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7111 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth.
2. Yn cydnabod bod llwyddiant y strategaeth yn ddibynnol, yn rhannol, ar:
a) creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned;
b) argyhoeddi busnesau bod mantais fasnachol o ran hyrwyddo hunaniaeth ddwyieithog;
c) sicrhau cydbwysedd a hyblygrwydd rhwng camau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i gyflawni hyn, a chydnabod bod 99 y cant o fentrau Cymru yn fusnesau micro, bach, neu ganolig o ran maint;
d) nodi a darparu gwerth am arian drwy gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yn hytrach na chyflwyno gofynion nad ydynt yn cyflawni hyn ac nad ydynt yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gan siaradwyr Cymraeg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad drwy ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Cymraeg 2050.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad cyn diwedd 2019 ar effeithiolrwydd ei gwaith hyrwyddo presennol o'r Gymraeg i fusnesau, ar wahân i waith Comisiynydd y Gymraeg.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg i hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau micro, bach a chanolig eu maint.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg ymhellach o ran caniatau i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn perthynas â thorri eu hawliau iaith.
Diolch yn fawr, Llywydd. Jest gaf i ddiolch i Aelodau ymlaen llaw am eu cyfraniadau yn y ddadl flasu—taster session—heddiw ar un maes bach o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Fel y gwelwch o'r cynnig, doeddwn i ddim am sgubo’n eang dros y strategaeth na deifio'n ddwfn. Mae'n gyfle inni drafod sut i wella'r broses o graffu ar y strategaeth a syniadau ychwanegol ar sut i gryfhau'r rhan ohoni sy'n ymwneud â busnesau micro, bach a chanolig, sef y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru o bell ffordd.
Gwnaf i ddelio â'r gwelliannau wrth grynhoi, os gallaf i, ond gaf i ddechrau gan symud y cynnig a dechrau ystyried sut y gallem helpu ein busnesau bach i dderbyn manteision dwyieithrwydd, gan edrych ar bwyntiau 2 a 5? Rydym dair blynedd i mewn i strategaeth y Llywodraeth erbyn hyn, a dywed y Llywodraeth ei bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged addysg blynyddoedd cynnar erbyn 2021, ond mae hi'n dawel iawn am bob targed arall.
Gan ystyried y mater o weithio gydag oedolion mewn gwaith heddiw, mae'r gwaith a wnaed gan y Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg wedi bod yn bennaf gyda'r sector cyhoeddus. Mae'r comisiynydd blaenorol wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth newid diwylliant a darpariaeth busnesau preifat mwy, ac mae hynny’n haeddu cydnabyddiaeth, ond wnaeth ei braich ddim ymestyn i gwmnïau llai. Mae mentrau iaith yn wahanol iawn yn eu sgiliau, cyllid, profiad ac uchelgais, ond dyw hi ddim yn hawdd mesur eu llwyddiant wrth greu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned.
Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod pob peth, unrhyw beth efallai, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ariannu neu ei gefnogi wedi gwneud unrhyw ddatblygiad sylweddol a hirbarhaol wrth berswadio ein busnesau llai o fanteision dwyieithrwydd. Mae yna ymchwil i ategu'r honiad bod cynnig dwyieithog, gweithle dwyieithog, yn fuddiol, ond sut mae hynny'n cael ei rannu gyda'n siambrau masnach, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI a'r sefydliadau aelodaeth eraill, er enghraifft—cyrff sydd ddim yn llawn o benodedigion y Llywodraeth neu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf?
Mae gan reolwyr busnesau llai ewyllys da tuag at yr iaith Gymraeg, ond mae angen cymhelliad arnynt i weithredu ar ei defnyddio. Gallai hynny fod yn alw gan staff neu gwsmeriaid, gallai fod yn ariannol uniongyrchol, gallai fod yn ddeddfwriaethol, ac mae angen inni fod yn ofalus iawn yno, fel y mae'r cynnig yn ei awgrymu, neu gallai newid llais eiriolaeth. Mae'n rhaid i fi ddweud nad yw llais yr establishment Cymraeg iaith gyntaf o reidrwydd yn llais sy'n mynd i berswadio cwmnïau llai i wrando ar y dadleuon o blaid croesawu dwyieithrwydd—'Rwy'n siŵr bydd y syniad yn dda, ond i bobl eraill'—oni bai eu bod nhw'n gallu gweld y budd sydd o werth iddyn nhw.
Mae angen, yn fy marn i, i fusnes siarad yn uniongyrchol â busnes. Dyna pam rydym ni am weld hyrwyddwyr iaith y tu fewn i'r byd busnes: co-production, trosi; dysgwyr sy'n gwybod pa mor anodd yw hi i fwrw ymlaen gyda’r iaith ac sy'n deall y llinell waelod hefyd. Efallai y bydd gennym boblogaeth fwy dwyieithog ymhen 20 mlynedd, ond mae'n rhaid inni feddwl am y gweithle a gweithlu a chwsmeriaid heddiw hefyd. Mae gan eich 14 o swyddogion frwydr ar i fyny, Weinidog, os nad ydynt yn fewnweledwyr, ac mae'n drueni eich bod wedi diystyru hyn trwy ddileu'r rhan hon y cynnig. Mae’n debyg, wrth ddileu pwyntiau 3 a 4 hefyd, nad ydych chi'n barod i gael eich craffu ar eich cynnydd, chwaith. Does dim ots faint o swyddogion busnes sydd gennych neu faint o sefydliadau cymunedol yr ydych yn eu cefnogi os nad yw defnyddio'r Gymraeg yn tyfu fel profiad y gweithle, neu os nad ydym yn darbwyllo busnesau o'i botensial fel USP. Ond, ar ôl eich gwelliant, mae'n amlwg nad ydych chi am inni ofyn cwestiynau ichi am hynny o gwbl.
I orffen, diben pwynt 6. Rydym yn aml yn pasio cyfraith yn y lle hwn sy’n creu hawliau a dyletswyddau heb unrhyw rhwymedi am ddiffyg cydymffurfio. Ond, yn anarferol, wnaethom ni ddim hynny gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Rhoesom bwerau ymchwilio a gorfodi iddi pan na ddefnyddir safonau a thorrir hawliau. Ond does dim ateb o'r fath os torrir hawliau rhywun di-Gymraeg. Os bydd safonau'r Gymraeg yn cael eu cymhwyso'n anghymesur fel bod y gweithredoedd hynny yn eithrio rhywun nad yw'n siarad Cymraeg rhag cael cyfle, nid yw'r person hwnnw ond yn gallu troi at y llysoedd. Rydym i gyd wedi clywed cwynion lle mae rhai hysbysebion swyddi, er enghraifft, yn y sector cyhoeddus ddim yn gofyn am lefel benodol o Gymraeg pan ddylent, ac, wrth gwrs, mae pawb yn gallu mynd at y comisiynydd yn y sefyllfa yna, ond mae potensial yna yn y ffordd arall hefyd. Felly, gofynnaf i Aelodau jest i feddwl am sut y gallem drin y ddwy sefyllfa'n deg o ran rhwymedi pan ddylid trin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal. Dyw ein hawgrymiad ni ddim yn tanseilio hawliau siaradwyr Cymraeg. Os ŷch chi am ddweud nad mater i gomisiynydd yw hyn, ffein, ond dywedwch beth yw'ch syniad chi, a chreu rhwymedi cyfartal o safbwynt gwahaniaethu anymwybodol.
Y rheswm rwyf wedi codi hyn yn y ddadl hon yw hyn: gall y gweithle fod yn lle perffaith i ddatblygu a defnyddio sgiliau Cymraeg. Edrychwch ar Aelodau fan hyn, er enghraifft, yn y Siambr sydd ddim wedi defnyddio'r Gymraeg erioed o'r blaen, yn arbennig yn y gweithle. Edrychwch ar staff y Cynulliad. Hoffwn i weld cyflogwyr yn meddwl tipyn bach yn fwy am gyfleoedd i ddysgwyr uchelgeisiol, ymroddgar yn ogystal â siaradwr rhugl pan fyddan nhw’n ystyried hysbysebion swyddi, achos os collwn ni ffydd y dysgwyr, fe gollwn ni’r Gymraeg.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
A gaf fi ofyn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwyntiau 2 – 6 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod tair elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef:
a) cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
b) cynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned;
c) darparu seilwaith cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol, a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd.
Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd a ganlyn:
a) cynyddu nifer y Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg;
b) symud o asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
c) lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg;
d) cyllido’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y sector prentisiaethau;
e) darparu bron £60 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog;
f) cyllido 14 Swyddog Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i ddarparu cyfieithiadau cryno;
Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel cenedl ddwyieithog agored.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Delyth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gweithredu dyhead y strategaeth yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu ymarferol bwriadus ym mhob maes, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol, statws ac isadeiledd y Gymraeg, y gweithle, a’r teulu.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno a gweithredu amserlen i ganiatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau’r Gymraeg ac ehangu hawliau i ddefnyddio’r iaith ym maes cymdeithasau tai, dŵr, gwasanaethau post, trafnidiaeth, ynni, telathrebu ynghyd ag ychwanegu cyrff newydd at reoliadau a basiwyd eisoes.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel unrhyw ddatganiad uchelgeisiol o fwriad ynghylch y math o genedl yr ydym ni am ei chreu yng Nghymru, boed hynny yn datgan argyfwng hinsawdd neu geisio sicrhau dyfodol yr iaith, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y ddelfryd yn cael ei hatgyfnerthu yn ein gweithredoedd ac yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n rhaid cydnabod nad ar chwarae bach y mae gwyrdroi sefyllfa'r Gymraeg, ac mae'n bwysig peidio gorsymleiddio maint yr her sydd yn ein hwynebu wrth sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Rydym ni'n credu bod ceisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu cadarn ym mhob maes, ac mae'r meysydd lle mae hyn yn bwysig yn cynnwys addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol, a statws ac isadeiledd yr iaith, y gweithle a'r teulu. Byddwn i'n annog Aelodau, felly, i gefnogi gwelliant 2.
Aeth cynlluniau'r Llywodraeth o ran Mesur y Gymraeg i'r wal, sydd yn anffodus yn adlewyrchu'r llanast cyffredinol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ceisio llywodraethu'r tymor hwn, gyda blaenoriaethau a chynlluniau yn mynd a dod gyda'r Gweinidogion. Roedd hyn yn beth da yn yr achos hwn, gan y byddai'r cynigion i ddileu'r comisiynydd wedi bod yn gam yn ôl i 1993, yn hytrach nag ymlaen i 2050. Tra bod galw am fwy o dryloywder i'w groesawu, mae angen i'r pwyslais nawr ddychwelyd at weithredu'r strategaeth.
Felly, rhaid i mi ddweud fy mod i wedi rholio fy llygaid wedi gweld agwedd olaf cynnig y Ceidwadwyr, sydd yn ymwneud â dychwelyd eto at drafod pwrpas rôl y comisiynydd. Roeddwn i wedi siomi y bore yma wrth glywed sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr ar Radio Cymru ac sydd wedi cael eu dweud eto prynhawn yma yn y Siambr, a oedd yn tanseilio diben y ddadl hon. Mae'n gwbl anhygoel mai blaenoriaeth y Blaid Geidwadol mae'n debyg yw gwanhau mesurau i gynyddu nifer y siaradwyr trwy alluogi unigolion i gwyno pan fydd swyddi yn gofyn am sgiliau yn y Gymraeg.
Rwy jest wedi esbonio does dim rheswm o gwbl i feddwl mai ein pwrpas ni yw i danseilio hawliau'r Gymraeg a phwrpas y comisiynydd. Beth rwy am wneud yw ehangu hynny er mwyn bod yn siŵr does dim bygythiad i hawliau'r Gymraeg mewn ffordd anwybyddus.
Diolch am hynny. Mi fuaswn i'n dweud, gyda pharch, mai pwrpas swyddfa'r comisiynydd yw i ddiogelu ac atgyfnerthu statws y Gymraeg, nid y di-Gymraeg, ac rwy'n meddwl byddai hynny yn cymhlethu pethau efallai, yn tanseilio y swyddogaeth hynny yn gyffredinol pe byddem ni'n ei wneud e trwy'r un peth. Ond diolch am yr ymyriad yna.
Efallai fod hyn ddim yn llawer o syndod—ac mi fuaswn i yn dweud hyn—pan fo ymgeiswyr y blaid Geidwadol mewn seddi targed yn cwyno'n gyhoeddus am arwyddion dwyieithog ac yn galw am ddiddymu'r Senedd hon a, thrwy hynny, wrth gwrs, unrhyw obaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mi fuaswn i'n annog y blaid Geidwadol plîs i gael gair gyda'r rheini.
Wrth gloi, mi fuaswn i eisiau dweud hefyd fod angen i ni edrych ar beth sydd angen digwydd nawr. Mae angen gweithredu gan y Llywodraeth yn hytrach na mwy o lusgo traed, sef sail gwelliant 3. Rwy'n credu ein bod ni wedi disgwyl yn ddigon hir am gyflwyno safonau'r Gymraeg yn yr holl feysydd sy'n weddill, sef cymdeithasau tai, bysiau a threnau, dŵr ac ynni, cwmnïau telathrebu, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ble maen nhw? Fe fyddwn i'n erfyn ar y Gweinidog i roi addewid y prynhawn yma ar lawr y Senedd y bydd amserlen gynhwysfawr yn cael ei chyhoeddi cyn y toriad wrth ymateb i'r ddadl hon. Diolch.
Dwi eisiau dechrau fy nghyfraniad i gan ddweud ein bod ni yr ochr hon i'r Siambr wedi cyflwyno'r ddadl yma oherwydd rŷm ni'n credu bod yr iaith Gymraeg yn ased enfawr i'n pobl ac i'n cymdeithas. Yn wir, mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn gefnogol iawn o gynyddu mynediad i'r Gymraeg am ddegawdau. Mae gan Gymru hanes hir a chyfoethog, ac mae cadw'r iaith yn fyw yn rhan o hynny. Dyna pam rŷm ni'n cefnogi'r uchelgais o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyna pam rŷm ni'n cefnogi creu mwy o gyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu a'r gymuned, a dyna pam rŷm ni'n cefnogi defnyddio mwy o'r iaith ym myd busnes. Mae'n hollbwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, gyda'n cymunedau, gyda'n busnesau a gyda'r gymdeithas oll i fagu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd. Fel gwleidyddion, ein dyletswydd ni ydy perswadio ac argyhoeddi pobl o rinweddau a manteision dysgu a defnyddio'r Gymraeg tu fewn a thu allan i fusnes, ond rŷm ni fel gwlad yn mynd i syrthio'n fyr o'r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 os na allwn ni gael pobl i addysgu'r genhedlaeth nesaf.
Fel soniais i wrth y Prif Weinidog fis yn ôl, mae nifer yr athrawon dan hyfforddiant sy'n medru dysgu yn y Gymraeg ar ei isaf ers degawd, ac, yn anffodus, ar hyn o bryd nid oes digon o athrawon yn dewis dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n rhaid i ni newid hynny. Os yw'r duedd yma yn parhau, yn anffodus fyddwn ni ddim yn cyrraedd y targed pwysig yma erbyn 2050, ac efallai yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni ba drafodaethau mae hi'n eu cael gyda'r Gweinidog Addysg a sut gallwn ni newid y sefyllfa fregus yma a sicrhau bod mwy o athrawon yn mynd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod ni yn perswadio mwy o athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd, os na allwn ni wneud hyn, bydd perswadio’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a dynion a menywod busnes i wneud hyn hyd yn oed yn fwy o her.
Nawr, mae ymchwil gan swyddfa comisiynydd y Gymraeg wedi ffeindio bod y diwydiant bwyd a diod wedi dangos bod defnyddio'r Gymraeg yn werth masnachol i'r diwydiant, ac mae'n denu ac yn cadw cwsmeriaid. Mae'n cyflawni'r nodwedd hanfodol o natur unigryw mae busnesau ei hangen. Dyna pam rŷm ni eisiau gweld datganiad llafar ddwywaith y flwyddyn yn y Siambr hon, oddi wrth y Gweinidog sy'n gyfrifol, fel y gallwn ni fonitro datblygiad y strategaeth, oherwydd allwn ni ddim sgrwtineiddio'r Llywodraeth yma mewn tri degawd am fethiannau Llywodraeth heddiw.
Felly, sut allwn ni rymuso'r genhedlaeth nesaf i adeiladu busnesau dwyieithog? Dwi wedi cyffwrdd ar addysg, ond mae hefyd angen i ni weithio gyda busnesau. Y ffordd orau i annog gweithle wir ddwyieithog yw drwy ddatblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg sy'n cael ei redeg gan bobl fusnes ar gyfer pobl fusnes. Trwy hyn, gellir perswadio busnesau o'r manteision economaidd a chymdeithasol o ddwyieithrwydd yn y gweithle, a bydd hyn hefyd yn rhoi hyder i'r busnesau hynny ddatblygu dwyieithrwydd tu fewn i'w busnesau.
Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, mae'n rhaid i ni gynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ar sail gwerth am arian a chyflwyno tystiolaeth empirig dros pam y byddai'n well ac o fudd i fusnesau pobl. Wrth gwrs, mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn gorwedd yn nwylo y rhai sydd eto i ddod i ddysgu'r iaith, ac mae hefyd yn gorwedd yn ein dwylo ni, sydd â dyletswydd i sicrhau bod yr hen iaith yn parhau.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol? Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau croesawu'r cyfle i gynnal dadl ar y Gymraeg. A gaf i ddweud pa mor falch ydw i i nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer strategaeth iaith Gymraeg 2050? Mae dwy flynedd wedi pasio ers lansio Cymraeg 2050 ac mae llawer o waith da eisoes wedi'i wneud. Dwi'n meddwl bod pawb yn ymwybodol bod hon yn strategaeth uchelgeisiol a heriol ond hefyd yn un sy'n gwbl realistig. Beth dŷn ni wedi gwneud yw rhoi camau pendant i mewn. Dŷn ni ddim yn aros tan 2050 i fesur y cynnydd; mae gyda ni gamau pendant ar y ffordd i gyrraedd hynny.
Achos mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac i bob plaid, a dwi eisiau'n wirioneddol ddiolch i'r Blaid Geidwadol am arwain y ddadl yma heddiw. Dwi eisiau ei gwneud hi'n glir, wrth gynnig y gwelliannau i'r cynnig, nad ŷn ni'n ceisio tanseilio'r cynnig adeiladol gan y Torïaid; rŷn ni'n wirioneddol yn croesawu'r gefnogaeth. Dŷn ni ddim chwaith eisiau cuddio o sgrwtini, ond dŷn ni eisiau rhoi darlun efallai ehangach sy'n adlewyrchu’r gwaith rŷn ni eisoes yn ei wneud.
Nawr, mae lot o'r pethau rŷn ni'n eu gwneud yn cynnwys yr enghraifft yn y blynyddoedd cynnar. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y cylchoedd meithrin er mwyn dechrau mwy o blant ar y daith yna at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae yna 12 o gylchoedd meithrin wedi'u sefydlu yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen i gynyddu nifer y grwpiau hyn, a bydd rhagor yn agor eleni.
O ran addysg, trwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, rŷn ni wedi symud o fesur y galw ac ymateb iddo i greu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr. Rŷn ni wedi darparu cyllid cyfalaf o bron £60 miliwn ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Ac, ar ben hynny, rŷn ni wedi rhoi arian i adnewyddu neuadd eiconig Pantycelyn a chyfleusterau'r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.
O ran sgiliau, rŷn ni wedi ariannu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i redeg cynllun Cymraeg Gwaith. Mae'r cynllun yn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau penodol, gan gynnwys y sectorau gofal plant a phrentisiaethau. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod pobl o'r sector preifat hefyd wedi ymgymryd â rhai o'r cyrsiau sy'n cael eu rhoi gerbron. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar gymorth y ganolfan i'r sector addysg bellach yn ystod 2018-19.
O ran technoleg, ym mis Hydref y llynedd fe wnaethom ni lansio cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, sy'n gosod allan ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn rhwydd ym maes technoleg. Ac o ran busnes, dwi eisiau tynnu sylw'r Senedd at y ffaith ein bod ni eisoes wedi penodi rhwydwaith o bencampwyr i'r Gymraeg ym myd busnes. Rŷn ni'n ariannu 14 o swyddogion busnes ledled Cymru, a beth maen nhw'n ei wneud yw cynnig cyngor a chymorth ymarferol i helpu busnesau ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu'r ffaith ein bod ni'n cytuno bod angen taro cydbwysedd addas rhwng rheoleiddio a hybu er mwyn helpu busnesau, yn arbennig busnesau bach, i fod yn ddwyieithog. Achos rŷn ni'n gwybod—a dwi'n cytuno gyda Suzy—nad y sefydliad sy'n mynd i berswadio cwmnïau bach i ymgymryd â defnyddio’r Gymraeg, ond efallai y bydden nhw yn ymateb i'r ffaith bod darpariaeth ddwyieithog yn gallu denu mwy o fusnes iddyn nhw. Rŷn ni'n gwybod bod hynny'n wir.
Rŷn ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gwasanaethau Cymraeg yn rhwydd ac o'r un ansawdd â rhai Saesneg, ond mae'n ofynnol wedyn bod siaradwyr Cymraeg yn gwneud defnydd o'r gwasanaeth yma, a dyw hynny ddim yn digwydd i'r graddau efallai y dylai fod yn digwydd yn bresennol.
Mae rôl y comisiynydd, wrth gwrs, yn hollbwysig. Dechreuodd Aled Roberts yn ei swydd fel comisiynydd newydd ar 1 Ebrill eleni. Rŷm ni hefyd wrthi'n penodi aelodau newydd i'r panel cynghori. Mae eisiau gofyn y cwestiwn sydd wedi ei ofyn gan Suzy: a ddylem ni edrych ar swydd y comisiynydd yn cael ei ehangu? Wel, rôl statudol y comisiynydd yw hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg, a byddai angen newid deddfwriaeth i ymchwilio i gwynion ynglŷn â ieithoedd eraill, a dŷn ni ddim eisiau mynd lawr y trywydd yna.
Nawr bod Aled yn ei swydd a'r Bil wedi ei roi o'r neilltu, dwi wedi ymrwymo i edrych eto ar rôl y Llywodraeth, comisiynydd y Gymraeg a'r prif bartneriaid fel bod pawb yn gwbl glir beth yw cyfraniad pob un, fel bod gyda ni strwythurau addas i weithredu Cymraeg 2050.
O ran Llywodraeth Cymru, mae 2050 yn perthyn i bob is-adran yn y sefydliad. Mae nifer o'r prif gamau yn y strategaeth, wrth gwrs, yn nwylo'r Gweinidog Addysg, felly mae angen i'r Llywodraeth i gyd fod yn ymwybodol o'r rhan rŷm ni i gyd yn ei chwarae. Gallaf ei gwneud hi'n glir i Paul Davies fy mod i a'r Gweinidog Addysg yn cael trafodaethau yn aml ynglŷn â sut rŷm ni'n mynd i gynyddu nifer y bobl sy'n mynd mewn i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac un o'r pethau rŷm ni wedi'i wneud yw rhoi £150,000 i drio annog pobl i ymgymryd â lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithio y bydd hwnna wedyn yn bwydo trwyddo i bobl sydd eisiau mynd i mewn i ddysgu Cymraeg.
O ran gwelliannau, rŷm ni'n cytuno gyda'r gwelliant cyntaf, sy'n ailddatgan nifer o'r blaenoriaethau strategol sydd eisoes yn cael eu gweithredu trwy ein strategaeth. Y rhai wedi sydd wedi dod o Blaid Cymru—dwi'n meddwl ei bod yn deg i ddweud, yn yr ail welliant, ar ôl penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda'r Bil newydd, fe wnes i ymrwymo i ailddechrau'r drefn safonau. Dwi wedi dechrau ymgynghori gyda'r prif fudiadau a fydd yn cael eu heffeithio gan y safonau rŷm ni'n debygol o ffocysu arnynt nesaf.
I ddod yn ôl, i orffen, at y pwynt trawsbleidiol, mae yna gefnogaeth i'r Gymraeg, gydag arolygon yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl Cymru, p'un ai'n siaradwyr Cymraeg ai peidio, o'r farn bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, ac mae eisiau inni ddathlu hynny. So, ein neges ni yw bod ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn un cynhwysol, mae'n un eang, ac rŷm ni'n awyddus i groesawu pobl newydd i'r Gymraeg. Trwy wneud hynny, rwy'n ffyddiog y gallwn ni symud ymlaen yn hyderus tuag at y filiwn o siaradwyr yna.
Diolch. Galwaf yn awr ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Does dim lot o amser gen i, yn anffodus, felly a allaf i jest ddechrau gan ddiolch i Blaid am eu cefnogaeth i rai o'n pwyntiau? Edrychaf ymlaen atoch yn cyflwyno dadl eich hunain yn nhermau eich gwelliannau. Hoffwn gymryd rhan mewn dadl fwy eang nag un heddiw. Mae'n siomedig eich bod wedi dileu'r pwynt olaf yn hytrach nag ychwanegu pwynt newydd. Mae'n amhosib inni gytuno oherwydd hynny, ond rwy yn cytuno y dylid cael amserlen ar gyfer y safonau, er y posibilrwydd efallai o anghytuno ar ble y dylai arwain.
Dyna pam ein bod yn cael ein drysu gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu ein cynnig yn llwyr. Wrth gwrs nad yw strategaeth yn ymwneud â'r ffrwd gwaith hon yn unig. Rwy'n ceisio dadansoddi, trwy ddadleuon unigol fel hyn, lle gallwn ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am eu methiannau ar agweddau penodol ar y strategaeth. Heddiw, mae'n fusnesau llai, nid addysg, achos mae'n ymddangos i mi nad yw'r Llywodraeth yn fodlon cynnig y cyfle i ni ei hun.
Unwaith eto, mae wedi dangos amarch, yn anffodus—mae'n rhaid i mi ddweud hynny—arferol i'r Senedd hon trwy ddileu rhan sylweddol o gynnig gwrthblaid a'i disodli, yn ei hanfod, gyda'i chynnig ei hun. Wel, na: os oes gennych hyder yn eich strategaeth, Weinidog, cyflwynwch ddadl yn eich amser eich hun. Mae pwyntiau 3 a 4 yn ymateb i’ch ymgysylltiad truenus â’r Cynulliad hwn ar gynnydd eich strategaeth a’i heffeithiolrwydd. Pam dŷch chi ddim yn adrodd i’r lle hwn ddwywaith y flwyddyn ar gynnydd cyffredinol? Pam dŷch chi ddim eisiau adrodd yn ôl i ni ar lwyddiant neu fel arall gwaith eich Llywodraeth gyda busnesau bychain? Beth yw’ch cynnydd sylweddol, Weinidog? Tair blynedd, a ble yn union mae'ch strategaeth wedi llwyddo? Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.