Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Llywydd. Jest gaf i ddiolch i Aelodau ymlaen llaw am eu cyfraniadau yn y ddadl flasu—taster session—heddiw ar un maes bach o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Fel y gwelwch o'r cynnig, doeddwn i ddim am sgubo’n eang dros y strategaeth na deifio'n ddwfn. Mae'n gyfle inni drafod sut i wella'r broses o graffu ar y strategaeth a syniadau ychwanegol ar sut i gryfhau'r rhan ohoni sy'n ymwneud â busnesau micro, bach a chanolig, sef y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru o bell ffordd.