Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau croesawu'r cyfle i gynnal dadl ar y Gymraeg. A gaf i ddweud pa mor falch ydw i i nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer strategaeth iaith Gymraeg 2050? Mae dwy flynedd wedi pasio ers lansio Cymraeg 2050 ac mae llawer o waith da eisoes wedi'i wneud. Dwi'n meddwl bod pawb yn ymwybodol bod hon yn strategaeth uchelgeisiol a heriol ond hefyd yn un sy'n gwbl realistig. Beth dŷn ni wedi gwneud yw rhoi camau pendant i mewn. Dŷn ni ddim yn aros tan 2050 i fesur y cynnydd; mae gyda ni gamau pendant ar y ffordd i gyrraedd hynny.
Achos mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac i bob plaid, a dwi eisiau'n wirioneddol ddiolch i'r Blaid Geidwadol am arwain y ddadl yma heddiw. Dwi eisiau ei gwneud hi'n glir, wrth gynnig y gwelliannau i'r cynnig, nad ŷn ni'n ceisio tanseilio'r cynnig adeiladol gan y Torïaid; rŷn ni'n wirioneddol yn croesawu'r gefnogaeth. Dŷn ni ddim chwaith eisiau cuddio o sgrwtini, ond dŷn ni eisiau rhoi darlun efallai ehangach sy'n adlewyrchu’r gwaith rŷn ni eisoes yn ei wneud.
Nawr, mae lot o'r pethau rŷn ni'n eu gwneud yn cynnwys yr enghraifft yn y blynyddoedd cynnar. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y cylchoedd meithrin er mwyn dechrau mwy o blant ar y daith yna at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae yna 12 o gylchoedd meithrin wedi'u sefydlu yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen i gynyddu nifer y grwpiau hyn, a bydd rhagor yn agor eleni.
O ran addysg, trwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, rŷn ni wedi symud o fesur y galw ac ymateb iddo i greu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr. Rŷn ni wedi darparu cyllid cyfalaf o bron £60 miliwn ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Ac, ar ben hynny, rŷn ni wedi rhoi arian i adnewyddu neuadd eiconig Pantycelyn a chyfleusterau'r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.
O ran sgiliau, rŷn ni wedi ariannu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i redeg cynllun Cymraeg Gwaith. Mae'r cynllun yn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau penodol, gan gynnwys y sectorau gofal plant a phrentisiaethau. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod pobl o'r sector preifat hefyd wedi ymgymryd â rhai o'r cyrsiau sy'n cael eu rhoi gerbron. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar gymorth y ganolfan i'r sector addysg bellach yn ystod 2018-19.
O ran technoleg, ym mis Hydref y llynedd fe wnaethom ni lansio cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, sy'n gosod allan ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn rhwydd ym maes technoleg. Ac o ran busnes, dwi eisiau tynnu sylw'r Senedd at y ffaith ein bod ni eisoes wedi penodi rhwydwaith o bencampwyr i'r Gymraeg ym myd busnes. Rŷn ni'n ariannu 14 o swyddogion busnes ledled Cymru, a beth maen nhw'n ei wneud yw cynnig cyngor a chymorth ymarferol i helpu busnesau ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu'r ffaith ein bod ni'n cytuno bod angen taro cydbwysedd addas rhwng rheoleiddio a hybu er mwyn helpu busnesau, yn arbennig busnesau bach, i fod yn ddwyieithog. Achos rŷn ni'n gwybod—a dwi'n cytuno gyda Suzy—nad y sefydliad sy'n mynd i berswadio cwmnïau bach i ymgymryd â defnyddio’r Gymraeg, ond efallai y bydden nhw yn ymateb i'r ffaith bod darpariaeth ddwyieithog yn gallu denu mwy o fusnes iddyn nhw. Rŷn ni'n gwybod bod hynny'n wir.
Rŷn ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gwasanaethau Cymraeg yn rhwydd ac o'r un ansawdd â rhai Saesneg, ond mae'n ofynnol wedyn bod siaradwyr Cymraeg yn gwneud defnydd o'r gwasanaeth yma, a dyw hynny ddim yn digwydd i'r graddau efallai y dylai fod yn digwydd yn bresennol.
Mae rôl y comisiynydd, wrth gwrs, yn hollbwysig. Dechreuodd Aled Roberts yn ei swydd fel comisiynydd newydd ar 1 Ebrill eleni. Rŷm ni hefyd wrthi'n penodi aelodau newydd i'r panel cynghori. Mae eisiau gofyn y cwestiwn sydd wedi ei ofyn gan Suzy: a ddylem ni edrych ar swydd y comisiynydd yn cael ei ehangu? Wel, rôl statudol y comisiynydd yw hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg, a byddai angen newid deddfwriaeth i ymchwilio i gwynion ynglŷn â ieithoedd eraill, a dŷn ni ddim eisiau mynd lawr y trywydd yna.
Nawr bod Aled yn ei swydd a'r Bil wedi ei roi o'r neilltu, dwi wedi ymrwymo i edrych eto ar rôl y Llywodraeth, comisiynydd y Gymraeg a'r prif bartneriaid fel bod pawb yn gwbl glir beth yw cyfraniad pob un, fel bod gyda ni strwythurau addas i weithredu Cymraeg 2050.
O ran Llywodraeth Cymru, mae 2050 yn perthyn i bob is-adran yn y sefydliad. Mae nifer o'r prif gamau yn y strategaeth, wrth gwrs, yn nwylo'r Gweinidog Addysg, felly mae angen i'r Llywodraeth i gyd fod yn ymwybodol o'r rhan rŷm ni i gyd yn ei chwarae. Gallaf ei gwneud hi'n glir i Paul Davies fy mod i a'r Gweinidog Addysg yn cael trafodaethau yn aml ynglŷn â sut rŷm ni'n mynd i gynyddu nifer y bobl sy'n mynd mewn i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac un o'r pethau rŷm ni wedi'i wneud yw rhoi £150,000 i drio annog pobl i ymgymryd â lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithio y bydd hwnna wedyn yn bwydo trwyddo i bobl sydd eisiau mynd i mewn i ddysgu Cymraeg.
O ran gwelliannau, rŷm ni'n cytuno gyda'r gwelliant cyntaf, sy'n ailddatgan nifer o'r blaenoriaethau strategol sydd eisoes yn cael eu gweithredu trwy ein strategaeth. Y rhai wedi sydd wedi dod o Blaid Cymru—dwi'n meddwl ei bod yn deg i ddweud, yn yr ail welliant, ar ôl penderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda'r Bil newydd, fe wnes i ymrwymo i ailddechrau'r drefn safonau. Dwi wedi dechrau ymgynghori gyda'r prif fudiadau a fydd yn cael eu heffeithio gan y safonau rŷm ni'n debygol o ffocysu arnynt nesaf.
I ddod yn ôl, i orffen, at y pwynt trawsbleidiol, mae yna gefnogaeth i'r Gymraeg, gydag arolygon yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl Cymru, p'un ai'n siaradwyr Cymraeg ai peidio, o'r farn bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, ac mae eisiau inni ddathlu hynny. So, ein neges ni yw bod ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn un cynhwysol, mae'n un eang, ac rŷm ni'n awyddus i groesawu pobl newydd i'r Gymraeg. Trwy wneud hynny, rwy'n ffyddiog y gallwn ni symud ymlaen yn hyderus tuag at y filiwn o siaradwyr yna.