Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Ddirprwy Lywydd, heddiw, mae'n bleser gennyf amlinellu cynllun caredigrwydd wrth lunio polisïau fel rhan o fy ymrwymiad i ymgyrchu dros gymunedau caredicach ledled Cymru, ac wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod gydag ymdeimlad o ddyletswydd yr angen i drechu'r anghyfiawnder a'r broblem fwyaf oll, sef nad yw bywyd yr un mor deg i bawb. I mi, mae cymunedau caredicach yn dechrau drwy gydnabod bod yn rhaid i empathi fod yn rhan ganolog o'r hyn a wnawn. Mae'n golygu cael y gallu i weld y byd o safbwyntiau sy'n wahanol i'n rhai ni weithiau. Rhaid i hynny fod yn sylfaen inni. Mae hefyd yn golygu bod yn agored, yn onest ac yn dryloyw fel unigolion ac fel Llywodraethau, felly, os methwn ar rai pethau, bydd pobl yn gwybod ein bod wedi gwneud ein gorau. Ac mae'n golygu cydnabod bod ein heconomeg ein hunain wedi bod yn anghyfartal ers llawer gormod o amser a'r canlyniadau'n llym eithriadol. Rydym wedi gweld ymdeimlad cynyddol o arwahanrwydd, dryswch, ansicrwydd ac erydu gobaith, twf cymunedau angharedig. Felly, er mwyn ymdrin â'r pethau hyn, gallwn naill ai ymladd tân â thân, gan ddefnyddio atebion angharedig ar gyfer sefyllfaoedd angharedig, na fyddant ond yn arwain at fwy o boen a thaflu bai, neu gallwn gydnabod y problemau sydd gennym a cheisio eu datrys ag atebion newydd, atebion caredicach.
Yn gynharach eleni, roedd yn bleser gennyf gyfarfod ag Ymddiriedolaeth Carnegie. Maent yn cydnabod, fel y mae llawer ohonom yn ei wneud yma, fod yna bethau sydd o bwys i ni i gyd: y lleoedd rydym yn byw ynddynt, ein hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn, y bobl rydym yn byw gyda hwy, yn eu caru ac y gofalwn amdanynt, a'r ffordd yr edrychir ar ein holau ac y cawn ein trin a'n cefnogi pan fyddwn fwyaf mewn angen. Mae'r pethau hynny i gyd yn gysylltiedig â'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraethau eraill ledled y byd. [Torri ar draws.] Dyna fy oriawr Apple yn canu yn ystod y ddadl. [Chwerthin.] Rhaid i bolisïau ar gyfer ymdrin â'r pethau hynny ymwneud yn gyfan gwbl ag emosiynau. Maent yn ymwneud â'n cartrefi a'n cymunedau, ein heconomi a'n bywoliaeth, addysg ein plant a gofal y rhai sy'n dioddef o afiechyd. Dylent gysylltu â'n natur ddyngarol a'n hochr fregus, mynnu ein bod yn ymddiried ac yn rhannu, ac ennyn ymateb emosiynol felly gan y Llywodraeth bob amser ac ym mhob man.
Mae'r gwaith y mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn ei wneud yn arbennig o ddiddorol a phwysig am ei fod yn gwneud i ni feddwl mwy am garedigrwydd a llesiant yn ein gweithredoedd bob dydd fel seneddwyr a Llywodraethau. Yn ystod y 12 mis diwethaf yn enwedig, maent wedi bod yn cydlynu rhwydwaith arloesedd caredigrwydd gyda phobl o bob rhan o'r Alban yn ogystal â Chyngor Gogledd Ayrshire, a hynny er mwyn annog caredigrwydd drwy ardal yr awdurdod lleol. Mae'n rhaid i chi ddarllen eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'The Practice of Kindness', sy'n dweud sut y gallwn ddatblygu dysgu ymarferol a'r hyn y gallai ei gymryd i annog caredigrwydd yn ein cymunedau. Mae eu hadroddiad helaeth yn palu'n ddyfnach i'r rheswm pam y mae hyn mor anodd, gan fframio caredigrwydd fel rhywbeth radical, oherwydd mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn dweud yn gywir fod yn rhaid inni fod yn radicalaidd yn yr ystyr fod caredigrwydd yn rhywbeth i'w drafod yng nghyd-destun tlodi a chyni, nid fel rhywbeth i dynnu sylw oddi arnynt na hyd yn oed fel mesur lliniarol, ond fel rhywbeth sy'n annatod i'r broses o wneud penderfyniadau. Ac yn radicalaidd yn yr ystyr fod caredigrwydd yn galw am ailfeddwl ynglŷn â'r ffordd y caiff pethau eu rhedeg a'u rheoli.
Pan oedd Ymddiriedolaeth Carnegie yn meintioli caredigrwydd yma yng Nghymru, canfuwyd bod y rhan fwyaf o bobl yn teimlo caredigrwydd yn eu cymunedau ac yn ymateb i hyn yn eu hymddygiad. Mae llai o bobl yn teimlo'n gryf am hyn, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno'n gryf o hyd eu bod yn gwneud amser i siarad â'u cymdogion a'u bod yn gallu dibynnu ar rywun yn eu cymdogaeth am gymorth ymarferol neu i gadw llygad ar eu cartref os oeddent oddi cartref. Ceir darlun tebyg mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae dros 85 y cant yn cytuno bod pobl yn cael eu trin yn garedig gan yr heddlu, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Yn llai aml ac mae llai na thraean yn teimlo'n gryf am hyn. Felly, Ddirprwy Lywydd, sut mae gwneud i'r cyhoedd deimlo'n gryf am y mater hwn ac yn bwysicach na hynny efallai, sut y gallwn ni yma yn y Siambr hon ymgorffori caredigrwydd yn ein gwaith pan fyddwn yn llunio polisi, yn gwerthuso ei effaith ac yn meddwl am wella cydraddoldeb? Oherwydd, fel rhan o'r daith hon, rwyf am i sefydliadau allanol, elusennau, busnesau, y trydydd sector, ac eraill, weithio gyda ni. Mae'n bwysig eu hannog ar y daith, oherwydd mae maint ein her yn galw am ailfeddwl am y systemau a'r strwythurau sydd wedi dominyddu'r ffordd y gweithiwn ers degawdau. Nawr, er gwaethaf hyn, fel y mae Ymddiriedolaeth Carnegie wedi amlinellu, ceir pethau y gellir eu gwneud ar lefel sefydliadol i wneud caredigrwydd yn real yn ymarferol, ac yn arbennig mewn perthynas â rheoli, arweinyddiaeth, caffael a chomisiynu.
Nawr, os cytunwn fod ymdrin â'r materion hyn yn golygu cysylltu caredigrwydd â lles, rhaid i ni hefyd gydnabod rôl Deddf cenedlaethau'r dyfodol a'r rôl y bydd honno'n ei chwarae yn creu'r cymunedau caredicach yr ydym am eu gweld. Mae angen inni fynd ymhellach wrth wneud cyhoeddiadau polisi a deddfwriaeth, i siarad yn agored am y Ddeddf a'i nodau llesiant. Dylem gynnwys nodau caredigrwydd a llesiant ar wyneb Biliau, yn ein maniffestos—ar draws y pleidiau gwleidyddol—ac wrth wraidd rhaglenni llywodraethu yn y dyfodol a llywodraethau yn awr. Mae rôl caredigrwydd wrth lunio polisi cyhoeddus yn arbennig o bwysig wrth inni gychwyn ar y genhedlaeth nesaf o chwyldro gwyrdd a digidol. Mae'r hyn a ystyrir yn norm bellach mewn technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial eisoes wedi trawsnewid ein profiadau, ym maes bancio, manwerthu a chyfathrebu. Ond wrth i ni geisio mynd ymhellach fyth gyda'r newid hwnnw—ac yn bersonol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bleidiol iawn i'r newid hwnnw—mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn llunio'r datblygiadau yn y dyfodol o amgylch anghenion pobl, ac anghenion emosiynol.
Nawr, mae hon yn her uniongyrchol i'r rheini, gan gynnwys y pwerus, yn ein heconomi ac mewn bywyd gwleidyddol, ac mae rhai'n dal i fethu dychmygu bod caredigrwydd yn gweithio fel strategaeth wleidyddol. Ddirprwy Lywydd, unwaith eto, rwy'n dweud wrthynt, 'Rydych yn anghywir'. Yn y cyfnod dryslyd rydym yn byw ynddo, yr ateb gorau yn aml yw camu'n ôl a meddwl. Beth yw'r canlyniad syml rydym am ei weld? Heddwch, ffyniant, tegwch, swyddi, cyfoeth neu gyfleoedd? I mi, gellir cynnwys ein holl uchelgeisiau mewn un cysyniad, a rhaid i bob un ohonom fynd ar ei drywydd yn awr, a rhaid inni arwain ar hyn yma yng Nghymru. Fel y dywedais ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, mae angen inni droi geiriau'n weithredoedd go iawn yn awr. A'r un cysyniad hwnnw yw caredigrwydd. Diolch.