11. Dadl Fer: Camau at Wleidyddiaeth Garedicach: Cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru

– Senedd Cymru am 6:24 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:24, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym? Rwy'n mynd i symud ymlaen i'r ddadl fer yn awr, a galwaf ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. I ddechrau, hoffwn gynnig munud o fy amser heddiw i gyd-Aelod ar y meinciau gyferbyn, Darren Millar.

Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf arwain y ddadl fer hon ar y pwnc a ddewsiais—camau at wleidyddiaeth garedicach: cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru. Ym mis Medi y llynedd, roeddwn yn falch iawn o arwain fy nadl fer gyntaf yn Siambr y Senedd, yn benodol ar garedigrwydd yn ein dadleuon gwleidyddol, ac ers hynny rydym wedi gweld cyfeiriadau at wleidyddiaeth garedicach yn y Siambr hon gan Aelodau o bob plaid wleidyddol, ac wrth gwrs, gan y Dirprwy Lywydd ei hun. Nawr, mae hynny'n dda iawn i'w weld. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rhaid inni droi geiriau'n weithredoedd oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod—hyd yn oed heddiw, hyd yn oed yn y Siambr hon—fod tystiolaeth o hyd o'r math o wleidyddiaeth nad ydym am ei gweld, ac rydym hefyd yn gweld hyn yn ein dadleuon gwleidyddol ehangach, yn aml dros y cyfryngau cymdeithasol.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 6:25, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, heddiw, mae'n bleser gennyf amlinellu cynllun caredigrwydd wrth lunio polisïau fel rhan o fy ymrwymiad i ymgyrchu dros gymunedau caredicach ledled Cymru, ac wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod gydag ymdeimlad o ddyletswydd yr angen i drechu'r anghyfiawnder a'r broblem fwyaf oll, sef nad yw bywyd yr un mor deg i bawb. I mi, mae cymunedau caredicach yn dechrau drwy gydnabod bod yn rhaid i empathi fod yn rhan ganolog o'r hyn a wnawn. Mae'n golygu cael y gallu i weld y byd o safbwyntiau sy'n wahanol i'n rhai ni weithiau. Rhaid i hynny fod yn sylfaen inni. Mae hefyd yn golygu bod yn agored, yn onest ac yn dryloyw fel unigolion ac fel Llywodraethau, felly, os methwn ar rai pethau, bydd pobl yn gwybod ein bod wedi gwneud ein gorau. Ac mae'n golygu cydnabod bod ein heconomeg ein hunain wedi bod yn anghyfartal ers llawer gormod o amser a'r canlyniadau'n llym eithriadol. Rydym wedi gweld ymdeimlad cynyddol o arwahanrwydd, dryswch, ansicrwydd ac erydu gobaith, twf cymunedau angharedig. Felly, er mwyn ymdrin â'r pethau hyn, gallwn naill ai ymladd tân â thân, gan ddefnyddio atebion angharedig ar gyfer sefyllfaoedd angharedig, na fyddant ond yn arwain at fwy o boen a thaflu bai, neu gallwn gydnabod y problemau sydd gennym a cheisio eu datrys ag atebion newydd, atebion caredicach.

Yn gynharach eleni, roedd yn bleser gennyf gyfarfod ag Ymddiriedolaeth Carnegie. Maent yn cydnabod, fel y mae llawer ohonom yn ei wneud yma, fod yna bethau sydd o bwys i ni i gyd: y lleoedd rydym yn byw ynddynt, ein hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn, y bobl rydym yn byw gyda hwy, yn eu caru ac y gofalwn amdanynt, a'r ffordd yr edrychir ar ein holau ac y cawn ein trin a'n cefnogi pan fyddwn fwyaf mewn angen. Mae'r pethau hynny i gyd yn gysylltiedig â'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraethau eraill ledled y byd. [Torri ar draws.] Dyna fy oriawr Apple yn canu yn ystod y ddadl. [Chwerthin.] Rhaid i bolisïau ar gyfer ymdrin â'r pethau hynny ymwneud yn gyfan gwbl ag emosiynau. Maent yn ymwneud â'n cartrefi a'n cymunedau, ein heconomi a'n bywoliaeth, addysg ein plant a gofal y rhai sy'n dioddef o afiechyd. Dylent gysylltu â'n natur ddyngarol a'n hochr fregus, mynnu ein bod yn ymddiried ac yn rhannu, ac ennyn ymateb emosiynol felly gan y Llywodraeth bob amser ac ym mhob man.

Mae'r gwaith y mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn ei wneud yn arbennig o ddiddorol a phwysig am ei fod yn gwneud i ni feddwl mwy am garedigrwydd a llesiant yn ein gweithredoedd bob dydd fel seneddwyr a Llywodraethau. Yn ystod y 12 mis diwethaf yn enwedig, maent wedi bod yn cydlynu rhwydwaith arloesedd caredigrwydd gyda phobl o bob rhan o'r Alban yn ogystal â Chyngor Gogledd Ayrshire, a hynny er mwyn annog caredigrwydd drwy ardal yr awdurdod lleol. Mae'n rhaid i chi ddarllen eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'The Practice of Kindness', sy'n dweud sut y gallwn ddatblygu dysgu ymarferol a'r hyn y gallai ei gymryd i annog caredigrwydd yn ein cymunedau. Mae eu hadroddiad helaeth yn palu'n ddyfnach i'r rheswm pam y mae hyn mor anodd, gan fframio caredigrwydd fel rhywbeth radical, oherwydd mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn dweud yn gywir fod yn rhaid inni fod yn radicalaidd yn yr ystyr fod caredigrwydd yn rhywbeth i'w drafod yng nghyd-destun tlodi a chyni, nid fel rhywbeth i dynnu sylw oddi arnynt na hyd yn oed fel mesur lliniarol, ond fel rhywbeth sy'n annatod i'r broses o wneud penderfyniadau. Ac yn radicalaidd yn yr ystyr fod caredigrwydd yn galw am ailfeddwl ynglŷn â'r ffordd y caiff pethau eu rhedeg a'u rheoli.

Pan oedd Ymddiriedolaeth Carnegie yn meintioli caredigrwydd yma yng Nghymru, canfuwyd bod y rhan fwyaf o bobl yn teimlo caredigrwydd yn eu cymunedau ac yn ymateb i hyn yn eu hymddygiad. Mae llai o bobl yn teimlo'n gryf am hyn, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno'n gryf o hyd eu bod yn gwneud amser i siarad â'u cymdogion a'u bod yn gallu dibynnu ar rywun yn eu cymdogaeth am gymorth ymarferol neu i gadw llygad ar eu cartref os oeddent oddi cartref. Ceir darlun tebyg mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae dros 85 y cant yn cytuno bod pobl yn cael eu trin yn garedig gan yr heddlu, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Yn llai aml ac mae llai na thraean yn teimlo'n gryf am hyn. Felly, Ddirprwy Lywydd, sut mae gwneud i'r cyhoedd deimlo'n gryf am y mater hwn ac yn bwysicach na hynny efallai, sut y gallwn ni yma yn y Siambr hon ymgorffori caredigrwydd yn ein gwaith pan fyddwn yn llunio polisi, yn gwerthuso ei effaith ac yn meddwl am wella cydraddoldeb? Oherwydd, fel rhan o'r daith hon, rwyf am i sefydliadau allanol, elusennau, busnesau, y trydydd sector, ac eraill, weithio gyda ni. Mae'n bwysig eu hannog ar y daith, oherwydd mae maint ein her yn galw am ailfeddwl am y systemau a'r strwythurau sydd wedi dominyddu'r ffordd y gweithiwn ers degawdau. Nawr, er gwaethaf hyn, fel y mae Ymddiriedolaeth Carnegie wedi amlinellu, ceir pethau y gellir eu gwneud ar lefel sefydliadol i wneud caredigrwydd yn real yn ymarferol, ac yn arbennig mewn perthynas â rheoli, arweinyddiaeth, caffael a chomisiynu.

Nawr, os cytunwn fod ymdrin â'r materion hyn yn golygu cysylltu caredigrwydd â lles, rhaid i ni hefyd gydnabod rôl Deddf cenedlaethau'r dyfodol a'r rôl y bydd honno'n ei chwarae yn creu'r cymunedau caredicach yr ydym am eu gweld. Mae angen inni fynd ymhellach wrth wneud cyhoeddiadau polisi a deddfwriaeth, i siarad yn agored am y Ddeddf a'i nodau llesiant. Dylem gynnwys nodau caredigrwydd a llesiant ar wyneb Biliau, yn ein maniffestos—ar draws y pleidiau gwleidyddol—ac wrth wraidd rhaglenni llywodraethu yn y dyfodol a llywodraethau yn awr. Mae rôl caredigrwydd wrth lunio polisi cyhoeddus yn arbennig o bwysig wrth inni gychwyn ar y genhedlaeth nesaf o chwyldro gwyrdd a digidol. Mae'r hyn a ystyrir yn norm bellach mewn technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial eisoes wedi trawsnewid ein profiadau, ym maes bancio, manwerthu a chyfathrebu. Ond wrth i ni geisio mynd ymhellach fyth gyda'r newid hwnnw—ac yn bersonol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bleidiol iawn i'r newid hwnnw—mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn llunio'r datblygiadau yn y dyfodol o amgylch anghenion pobl, ac anghenion emosiynol.

Nawr, mae hon yn her uniongyrchol i'r rheini, gan gynnwys y pwerus, yn ein heconomi ac mewn bywyd gwleidyddol, ac mae rhai'n dal i fethu dychmygu bod caredigrwydd yn gweithio fel strategaeth wleidyddol. Ddirprwy Lywydd, unwaith eto, rwy'n dweud wrthynt, 'Rydych yn anghywir'. Yn y cyfnod dryslyd rydym yn byw ynddo, yr ateb gorau yn aml yw camu'n ôl a meddwl. Beth yw'r canlyniad syml rydym am ei weld? Heddwch, ffyniant, tegwch, swyddi, cyfoeth neu gyfleoedd? I mi, gellir cynnwys ein holl uchelgeisiau mewn un cysyniad, a rhaid i bob un ohonom fynd ar ei drywydd yn awr, a rhaid inni arwain ar hyn yma yng Nghymru. Fel y dywedais ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, mae angen inni droi geiriau'n weithredoedd go iawn yn awr. A'r un cysyniad hwnnw yw caredigrwydd. Diolch.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:32, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, am roi munud o'i amser i mi? Darllenais innau hefyd drwy adroddiad Carnegie, ac roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o weld bod Cymru'n lle caredicach, efallai, nag y byddai llawer ohonom yn meddwl weithiau. Rydym yn gwybod ac yn gweld gweithredoedd o garedigrwydd a chwrteisi yn ein cymunedau ein hunain, ond yn aml iawn, credwn eu bod wedi'u cyfyngu i'n hardal uniongyrchol ni yn unig, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, o ystyried y canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom fel cynrychiolwyr etholedig ac arweinwyr lleol yn ein cymuned i geisio modelu caredigrwydd i eraill. Nid ydym yn ei gael yn iawn bob amser; mae anghytuno'n dda yn anodd weithiau, yn enwedig mewn gwleidyddiaeth. Ac rydych chi'n llygad eich lle yn tynnu sylw at ddifrïo pobl sy'n credu pethau gwahanol weithiau—boed yn gredoau gwleidyddol neu grefyddol, mewn gwirionedd—mewn pethau fel cyfryngau cymdeithasol. Gwn fy mod i, fel Ceidwadwr, weithiau'n wynebu angharedigrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd fel Cristion; weithiau, dywedir geiriau angharedig wrthyf, a darlunnir gwawdlun o'r math o Gristion y mae pobl yn tybio ydw i. Ond rwy'n credu bod angen i bob un ohonom gydweithio yn y Siambr hon. Mae'n bleser gennyf estyn fy nghefnogaeth i'ch ymgyrch, Jack, a gwn fod fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr—cewch eu cefnogaeth hwy hefyd i geisio gwneud y Siambr hon yn fodel o'r math o garedigrwydd yr ydym am ei weld ledled Cymru, ym mhob un o'n cymunedau. Ac rwy'n eich cymeradwyo am ddod â hyn gerbron heddiw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:34, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl? Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu y gall ac y dylai Cymru fod yn fan lle rydym yn arwain y ffordd ar hyrwyddo cymdeithas garedicach, lle nad oes lle i wahaniaethu, hiliaeth na rhagfarn. Gobeithio bod pob un ohonom yn rhannu'r dyheadau hyn yma heddiw, ac mae'n wych ein bod wedi cael y cyfraniad gan Darren Millar, a bod eraill wedi aros ar gyfer y ddadl fer hon. Rhaid i bob un ohonom rannu'r dyheadau hyn, am yr angen am oddefgarwch a charedigrwydd yn ein hymwneud o ddydd i ddydd ag eraill, yn enwedig fel cynrychiolwyr etholedig yn ein cymuned. Hoffwn ddiolch i Jack hefyd am wneud i wleidyddiaeth garedicach atseinio yma ers i chi ymuno â ni—testun eich dadl fer gyntaf erioed—ac rydych wedi gwneud cymaint o farc. Fe sonioch chi fod Aelodau'n cyfeirio at hyn yn gyson bellach ar draws y Siambr, a'r Prif Weinidog yn ogystal. Mae dyheadau, wrth gwrs, angen gweithredoedd, a dyna rydych yn galw amdano heddiw—cynllun, llwybr i symud ymlaen mewn gwirionedd mewn perthynas â gwleidyddiaeth garedicach sy'n arwain at gymunedau caredig. Er mwyn perswadio, ysgogi ac arwain drwy esiampl—ni allwn ddisgwyl ennyn caredigrwydd, goddefgarwch a dealltwriaeth yn ein cymunedau ac ar draws Cymru os na allwn eu dangos yma yn y Siambr, os na allwn eu harddangos. Ac fel y dywedwch, nid yw bywyd yr un mor deg i bawb.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 6:35, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i adeiladu pontydd a hyrwyddo dealltwriaeth, cynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus, mynd i'r afael â throseddau casineb, ymddygiad eithafol a brawychu, cefnogi dioddefwyr trais a chamdriniaeth, diogelu hawliau dynol, a chefnogi'r bobl fwyaf ddiamddiffyn yn ein cymunedau, fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Cenedl noddfa yw'r hyn rydym am fod, ac mae'r croeso hwnnw'n rhan o'r agenda garedigrwydd. Gwn fod ysbryd croesawgar y Cymry'n fyw ac yn iach yn ein cymunedau ledled Cymru, ac adlewyrchwyd hynny yn adroddiad Ymddiriedolaeth Carnegie, ond hoffwn ddweud ychydig mwy o eiriau am hynny hefyd. Mae'n ddefnyddiol iawn eich bod wedi ymgysylltu â hwy, a hoffwn fynd ar drywydd hyn. Ond gwelwn gymaint o weithredoedd caredig tuag at eraill, gan ein cymdogion yn rhedeg o gwmpas pobl mewn angen, dieithriaid yn dangos empathi a charedigrwydd tuag at ei gilydd ac at y rhai o'u hamgylch. Rhaid inni goleddu'r rheini, dysgu o'r enghreifftiau hynny, ac anelu tuag at ymdeimlad newydd o gymuned. Credaf ein bod i gyd yn teimlo hynny yn ein hetholaethau.

Credaf fod dod ynghyd wedi'i adlewyrchu dros benwythnos 21-23 Mehefin er cof am Jo Cox AS, a lofruddiwyd mewn gweithred o gasineb, ond ei gwaddol hi yw'r Great Get Together. Gwnaethom ei nodi yma yn y Senedd a ledled Cymru. Credaf fod yn rhaid inni weithio gyda'n gilydd fel Llywodraeth a chyda phartneriaid ar draws pob sector—ac rydych wedi sôn am y trydydd sector, ond y sector cyhoeddus a'r sector preifat hefyd—i annog cydlyniad, a dyna air am gymuned a ninnau'n gweithio gyda'n gilydd i fwrw gwreiddiau, oherwydd mae gennym hanes balch o groesawu cymunedau amrywiol sy'n ymestyn yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd, ond mae angen inni ddiogelu'r cryfder hwnnw.

Mae ein rhaglen cydlyniant cymunedol yn cael £1.5 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, ac mae hynny wedi cael ei groesawu, ac mae'n cefnogi timau bach ym mhob ardal o Gymru, gan ymgysylltu mwy â chymunedau lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r heddlu'n ymwneud llawer â hyn hefyd, ac yn dymuno bod yn rhan o'r datblygiad mewn ymateb i hynny, yn enwedig pan fydd tensiynau'n codi. Felly, rydym yn dathlu amrywiaeth yng Nghymru yn rheolaidd—Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Wythnos y Ffoaduriaid, Mis Hanes Pobl Dduon—ac mae'r rheini hefyd yn achlysuron sy'n rhoi cyfleoedd inni werthfawrogi a lledaenu ein hamrywiaeth a chroesawu amrywiaeth. Hoffwn sôn am ddigwyddiad Diwrnod Windrush a ddathlais ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd ddydd Sul diwethaf, sef gweithred o ddathlu a myfyrio yn cynnwys straeon am y trafferthion y mae hynafgwyr Windrush a'u disgynyddion wedi'u profi dros y 70 mlynedd diwethaf yng Nghymru. Wel, nid yw'r straeon hynny wedi cael eu clywed. Rydym wedi cael digwyddiadau Diwrnod Windrush ar draws Cymru gyfan bellach, ac mae hi mor bwysig ein bod yn dysgu gan yr hynafgwyr hynny a'u disgynyddion.

Wrth gwrs, rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â throseddau casineb, a dyna lle mae'n rhaid imi ddweud, pan oeddwn yn Weinidog o'r blaen yn cyflwyno ac yn hyrwyddo'r strategaeth troseddau casineb gyntaf yng Nghymru, nid oeddwn yn gallu credu ein bod yn y sefyllfa honno—roedd hyn 10 mlynedd yn ôl—pan oeddem yn dweud bod yn rhaid i ni gael strategaeth troseddau casineb yng Nghymru a bod yn rhaid inni roi arian tuag ati i gael adroddiad cenedlaethol ar droseddau casineb. Rhaid inni gefnogi cymorth i ddioddefwyr—dyna'r ganolfan troseddau casineb—a chodi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Rydym yn rhoi sylw i hyn. Mae wedi dod i'r amlwg. Rydym yn awyddus i fynd i'r afael ag ef ar gynifer o lefelau—yn ein hysgolion, yn ein cymunedau. Ond ni ddylem byth gael ein diffinio yng Nghymru gan y rhai sy'n casáu. Rydym yn unfryd yn ein penderfyniad i hyrwyddo heddwch, ac wrth gwrs dyna neges Jo Cox: gobaith nid casineb. Yn sicr, rhoddais y neges honno ar Ynys y Barri pan gawsom ddigwyddiad gyda thri chôr, gyda'r cyhoedd, wythnos neu ddwy yn ôl.

Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar bob lefel. Rwy'n credu bod polisi cyhoeddus yn bwysig a dyna lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod parch, goddefgarwch a charedigrwydd yn nodweddion sy'n diffinio ein hysgolion, ein cymunedau a diwylliant Cymru yn gyffredinol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â bwlio ar-lein neu fwlio personol. Mae'n cael cymaint o effaith ar fywyd plentyn, yn ogystal â phan fyddwn yn oedolion, a rhaid inni dorri'r cylch a gwneud yn siŵr y gallwn greu'r cyfleoedd hynny ar gyfer pobl ifanc. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n falch eich bod wedi sôn am fwlio ar-lein, gan fod hwnnw'n rym mor ddinistriol yn awr, mae'n gadael pobl yn agored iawn i niwed, heb unrhyw leoedd diogel neu bersonol i fynd, a gall cyfryngau cymdeithasol fod yn niweidiol iawn pan gaiff ei gam-drin, ond gall fod mor bwysig, fel y dywedwch, i hysbysu ac addysgu pobl. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd allweddol cadw'n ddiogel ar-lein, a dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i fyw'n ddiogel ac yn llwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain.

Credaf mai dyma lle mae'n rhaid inni gydnabod rôl bwysig y trydydd sector, gan gydnabod bod angen ein cefnogaeth ar y sefydliadau cymunedol a llawr gwlad hynny. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r trydydd sector i ganiatáu i'r sector ffynnu. Mae cymaint o'r caredigrwydd i'w weld drwy wirfoddoli, drwy ofalu—gweithgaredd a gyflawnir nid er budd personol. Rwy'n meddwl bod ystadegau'n dangos bod tua un o bob chwech o bobl yn gofalu am rywun arall, nid dim ond eu teuluoedd agos eu hunain. Mae'n fynegiant o ddinasyddiaeth, yn elfen hanfodol o'n democratiaeth. Ond hefyd, gall gwirfoddoli helpu i fynd i'r afael â'r ymdeimlad o arwahanrwydd y gall pobl ei deimlo, gan weithredu fel bloc adeiladu cymdeithasol pan fydd grŵp yn dod at ei gilydd dros achos cyffredin. Ac wrth gwrs, rydym yn datblygu strategaeth i fynd i'r afael â'r profiad o unigrwydd ac arwahanrwydd.

Credaf ei bod yn bwysig, felly, ein bod yn edrych ar y ffyrdd y gallwn gefnogi'r gymuned, trwch y bobl a'r trydydd sector fel hyn. Fel y dywedais, rwy'n falch iawn eich bod wedi codi gwaith Ymddiriedolaeth Carnegie, a Darren Millar hefyd heddiw. Roeddwn yn hoffi ei bwynt, 'A gawn ni ddysgu sut i anghytuno'n dda?' Mae honno, wrth gwrs, yn her wirioneddol, oherwydd mae arnom eisiau dadl fywiog, rymus, ond mae angen inni hefyd gael parch a goddefgarwch. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yng nghanfyddiadau Ymddiriedolaeth Carnegie yng Nghymru, a hoffwn eu cyfarfod yn awr, fel Gweinidog, gan edrych yn benodol ar eu hadroddiad ar garedigrwydd mewn polisi cyhoeddus, oherwydd dyna lle y gallaf weld bod yna dystiolaeth o lle mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn.

Ond yn olaf, mae creu cymunedau caredicach ledled Cymru yn rhywbeth lle mae cynnal Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel y dywedoch chi, Jack, yn gwbl allweddol. Mae gennym y Ddeddf honno gyda'r saith nod llesiant, ac mae Jack bob amser wedi cydnabod hynny, ac yn wir, mae'n cael ei gydnabod yn awr, nid ei grybwyll yn unig—mae wedi cael ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma yn ôl pob tebyg mewn dadleuon. Ond unwaith eto mae sefydliadau'n derbyn y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio ac mae'n ysgogi ffordd newydd o weithio yng Nghymru.

Mae gan bob gwleidydd gyfrifoldeb i gyd-fynd â'r gwerthoedd a'r egwyddorion y mae Jack Sargeant wedi'u nodi heddiw ac ar sawl achlysur. Ond rwy'n credu, yn olaf, y buaswn i'n dweud mai her Jack yw'r hyn a ddywedodd wrth y pwerus yn ein cymdeithas. Mae gennym gyfrifoldeb i godi llais, bob un ohonom. Mae gan rai ohonom bŵer. Mae gennym i gyd bwerau yn ein ffyrdd ein hunain, ond rhaid i'r rheini sydd â chyfrifoldeb, fel arweinwyr, fwrw ymlaen â'r pŵer hwnnw. Felly, gadewch inni gymryd y ddadl hon, unwaith eto, fel enghraifft arall o'r ffordd y mae Jack wedi ein galluogi i edrych ar ffyrdd newydd o weithio, ffyrdd yr ydym yn credu ynddynt, ac rwy'n diolch yn fawr iawn iddo am y ddadl amserol a diddorol hon, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddatblygu'r syniadau hyn a'u rhoi ar waith yn ymarferol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:44, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.