Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Yn y datganiad ddoe ynglŷn â gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, soniasoch, Weinidog, eich bod wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, ac rydych wedi addo edrych ar hyn yn ofalus. Rwy'n meddwl tybed a ydych, neu a fyddech, yn ystyried lansio ymchwiliad i'r cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal fel rhan o'r broses hon?