Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn gwybod beth sydd wedi achosi'r cynnydd hwn yn nifer y plant, a gwn fod galwadau wedi bod i edrych ar pam fod hyn wedi digwydd mewn gwirionedd. Mae'n debyg ei fod wedi digwydd am sawl rheswm, ac mae'n anodd iawn dewis un rheswm penodol. Ond yn sicr, yn y gwaith rydym yn ei wneud yn awr i geisio atal plant rhag dod i mewn i ofal—hynny yw, mae 34 y cant yn ffigur brawychus ac yn sicr, nid ydym eisiau i hynny barhau, a dyna pam rydym yn gweithio gyda'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru i geisio lleihau'r ffigur hwnnw. Yn ystod y gwaith dwys iawn a wnawn, byddwn yn edrych i weld beth arall sydd angen ei wneud, oherwydd mae'n frawychus, ac os yw'n parhau i ddigwydd, bydd hynny'n newyddion drwg iawn.