Mabwysiadu Gorfodol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:17, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Ein prif nod yw cynorthwyo plant i aros gyda'u teuluoedd biolegol lle bo hynny'n bosibl. Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â gofal, yn cynnwys ar fabwysiadu, yn cael eu gwneud er budd gorau'r plentyn yn unig. Mae nifer y mabwysiadau a orchmynnir gan y llys wedi bod yn gostwng, ond rydym yn cydnabod y gall mabwysiadu gynnig teuluoedd sefydlog, cariadus a chanlyniadau da.