Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:32, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Nid yw GIG Cymru yn hapus i weld pobl yn colli eu golwg. Rwy'n credu bod honno'n ffordd anffodus iawn o ddod â'r cyfraniad i ben. Oherwydd mae hyn yn ymwneud ag adnoddau a chapasiti, mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl ar gael i wneud y gwaith ac mae’n ymwneud â chael system sy’n gallu cyflawni mewn ffordd sy’n gwbl deg. Rwy'n fwy na hapus i gyfathrebu â'r Aelod, i fynd i'r afael â'r materion y mae'n eu codi, a'r pwynt ehangach ynglŷn â’r modd y mae’r system gofal iechyd gyfan yn mynd i’r afael â hynny.FootnoteLink Oherwydd mae’r GIG yn sefydliad sy'n gwneud llawer iawn o waith ac yn cyflawni manteision gwych i’r cyhoedd, ond mae yna le bob amser i wella. Ac rwy'n gobeithio y gallwn gydnabod hynny yn ein holl ymwneud yn y Siambr a thu hwnt.