Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:37, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cadeirydd ymadawol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dweud bod swyddogion y bwrdd iechyd lleol yn cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn tair neu bedair galwad gynadledda y diwrnod gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n eich cyhuddo o ficroreoli’r bwrdd iechyd ac o fod yn rhwystr rhag datrys y problemau sy’n wynebu’r bwrdd iechyd. Weinidog, a ydych yn cytuno â'r dadansoddiad fod eich Llywodraeth yn atal y bwrdd iechyd rhag gwneud gwelliannau i’r GIG yn fy rhanbarth?