Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:34, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn meddwl mai’r dull cyffredinol o weithredu sy’n fy mhoeni, ond yr effeithiau canlyniadol ar gyfer cyflyrau penodol. Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan fy swyddfa fod 4,038 o bobl wedi bod yn aros am dros awr i ambiwlans gyrraedd ar ôl iddynt gael strôc, rhwng mis Ionawr 2018 a mis Mawrth eleni. Mae strôc yn argyfwng sy'n bygwth bywyd; pan nad ydynt yn bygwth bywyd, gallant ddinistrio bywydau pobl yn llwyr. A yw'n dderbyniol fod gennym dros 4,000 o bobl yn aros am dros awr gyda’r argyfwng meddygol hwn sy’n bygwth bywyd mewn llawer o achosion ac sy’n peri gofid mawr iawn?