Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch, Weinidog. Tan fis Ebrill, eleni, roedd trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn dod o dan y bwrdd iechyd hwnnw. Erbyn hyn maent yn dod o dan Gwm Taf, ac er eu bod yn dal i fod yn destun trefniadau uwchraddio ac ymyrryd ar y cyd, nid ydynt mor ddrwg â rhai Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn flaenorol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n helpu cleifion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yr wythnos diwethaf, bu i un o fy etholwyr hŷn, sydd hefyd yn gyfaill, gael strôc a chafodd anaf o ganlyniad i hynny. Arhosodd am bron i dair awr am ambiwlans a hefyd arhosodd am naw awr yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg am fod Ysbyty Tywysoges Cymru yn llawn. Mae'n 85 oed. Felly, Weinidog, pryd y gall cleifion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddisgwyl gweld gwelliannau i'r GIG o dan Gwm Taf?