Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Wel, rwy'n falch iawn o gadarnhau nid yn unig y gwaith sy'n cael ei wneud ar y gerddi cyfagos—mae yna grŵp gwirfoddol yn gwneud y gwaith hwnnw—ond y bydd yn adeilad llawer mwy effeithlon na'r rhan fwyaf o ystâd y GIG. Wrth gwrs, cafodd llawer o ystâd y GIG ei chreu sawl blwyddyn yn ôl, yn y gorffennol. Mae'n adeilad sy'n cael ei adeiladu i'r safonau pensaernïol uchaf, a bydd arbediad sylweddol o ran effeithlonrwydd ynni yn ogystal â'r gwaith gwres a phŵer modern ar y safle hefyd.
O ran plannu coed, yn rhyfedd ddigon, roedd yn gwestiwn a ofynnais ar un o fy ymweliadau, a bydd gweithgarwch plannu coed sylweddol yn ysbyty prifysgol Grange ac o'i gwmpas. Dyna ran o'r olygfa y mae pobl ei heisiau yn ogystal â rhai o'r heriau a gofnodwyd yn drwyadl. Gwelais y brawd Melding ar y to wrth ymyl cychod gwenyn yn y fan hon, a gallwch ddisgwyl gweld coed blodeuog a choed eraill a phlanhigion yn cael eu plannu'n fwriadol ar dir y safle er mwyn ateb yr union bwynt a grybwyllodd.