Heintiau sy'n gallu Gwrthsefyll Gwrthfiotigau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:58, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Bu cynnydd o 44 y cant mewn siffilis yn y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o 32 y cant mewn gonorea. A'r hyn sy'n fy mhoeni fwyaf am hynny, o siarad ag arbenigwyr iechyd rhywiol, yw bod cyfran sylweddol o'r heintiau yn ffurfiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Rwy'n sylweddoli eich bod wedi derbyn argymhellion yr adolygiad iechyd rhywiol i leihau trosglwyddiad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac roeddwn yn meddwl i ba raddau y mae'r dasg honno'n cael ei llesteirio gan lefel y fersiynau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, oherwydd, yn amlwg, yn y gorffennol, roedd hyn yn rhywbeth yr oedd pobl yn marw ohono. Gyda gwrthfiotigau, gall pobl oroesi a pharhau i fyw bywydau normal. Rydym mewn perygl o ddychwelyd i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.