5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Rheoli'r Gwasanaeth Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:10, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Byddai arnom angen cymwyseddau craidd wedi’u pennu ar bob lefel, a byddai'r cymwyseddau hynny’n seiliedig ar yr hyfforddiant hwn sy'n seiliedig ar werth. Gallai corff proffesiynol wneud datblygiad proffesiynol parhaus yn ofynnol i sicrhau bod y rheini sy'n rheoli ein gwasanaethau'n gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfan sy'n ofynnol ganddynt a'r holl ddatblygiadau sy’n digwydd o'u cwmpas. Mae rhai, yn enwedig rheolwyr canol, yn dweud wrthyf eu bod wedi'u gorlethu, weithiau, gan newid. Nid ydynt yn gresynu at ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gwasanaeth y byddant yn ei ddarparu, ond mae angen eu grymuso i wneud hynny'n briodol.

Felly, mae a wnelo â'r gwerth a roddir ar y bobl sy'n rheoli ein GIG. Mae'n ymwneud â rhoi'r adnoddau iddynt wneud y gwaith a sicrhau bod pawb arall yn gwybod beth y gellir ei ddisgwyl o ran cymhwysedd, gwybodaeth a sgiliau gan bobl sy'n rheoli ar wahanol lefelau yn ein gwasanaeth. Nawr, wrth gwrs, un agwedd ar y cofrestru hwn fyddai, pe bai rheolwr yn methu’n gyson, neu pe bai rheolwr yn cael hi’n anodd gwneud eu gwaith, byddai eu corff proffesiynol, fel y byddent yn ei wneud gyda nyrs neu feddyg, yn camu i mewn ac yn rhagnodi cyngor, yn rhagnodi hyfforddiant, yn rhagnodi cefnogaeth. Ond pe na bai hynny'n llwyddiannus, yn y pen draw, byddai gan y corff proffesiynol hwn hawl i ddiswyddo rheolwr ac i ddweud, 'Nid ydych yn berson addas a phriodol i reoli ein gwasanaeth'. Nid dyna brif swyddogaeth y ddeddfwriaeth rwy'n ei chynnig, ond mae'n sancsiwn, a byddai'n rhoi terfyn ar batrwm rydym wedi’i weld—ac nid oes gennyf unrhyw fwriad heddiw, Lywydd, o enwi unrhyw un—lle mae pobl mewn rolau uchel iawn mewn rhannau o'n gwasanaeth yn methu rheoli'r gwasanaethau hynny’n effeithiol, yn diflannu am ychydig ac yna'n codi eu pennau yn rhywle arall ac yn rheoli agwedd arall ar y gwasanaeth ac yn methu gwneud hynny’n dda. Mae hynny'n gwbl annheg; mae'n gwbl annheg i'r cleifion, mae'n gwbl annheg i'r staff clinigol, ond mae hefyd yn gwbl annheg i'r rhai sy'n gweithio ym maes rheoli yn y gwasanaeth ac sy’n dymuno gallu gwneud hynny'n effeithiol.

Rwy’n sylweddoli fod hwn yn waith mawr—nid yw'n rhywbeth y gellid ei gyflawni drwy Fil Aelod preifat—ond nid yw’r ffaith ei fod yn waith mawr yn golygu na ddylem fynd ati i'w wneud. Rwy'n cofio cael gwybod yn y lle hwn y byddai cofrestru gweithwyr cymorth gofal iechyd yn amhosibl ac yn llawer rhy gymhleth. Wel, rydym yn gwneud hynny bellach. A chredaf fod angen i ni fod yr un mor uchelgeisiol o ran yr hyn rydym yn ei gynnig i'r bobl sy'n rheoli ein gwasanaethau.

Buaswn hefyd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn sefydlu annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn briodol. Bydd yr Aelodau'n cofio bod y pwyllgor, yn ôl yn 2014, yn bryderus iawn nad oedd wedi derbyn sicrwydd ynghylch rôl yr arolygiaeth, nad oedd yn ddigon annibynnol. Nawr, gwn fod gan y Gweinidog rai cynlluniau hirdymor i wneud rhywbeth am hyn, ond buaswn yn ei atgoffa ei fod wedi dweud y byddai Bil ansawdd y GIG a fyddai'n cael ei gyflwyno’n rhoi sylw i annibyniaeth AGIC, ac nid yw'r drafft sydd gennym o'n blaenau yn gwneud hynny.

Byddai fy neddfwriaeth arfaethedig hefyd yn gosod dyletswydd gonestrwydd, nid yn unig ar sefydliadau, sy'n ganmoladwy wrth gwrs, ond ar unigolion hefyd. Y mannau lle mae angen grymuso pobl i godi eu llais o fewn sefydliadau nad ydynt yn arfer eu dyletswydd gonestrwydd yw lle mae angen y ddyletswydd gonestrwydd honno fwyaf. Ac ni fydd gosod y cyfrifoldeb hwnnw ar sefydliadau yn unig yn cyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn bwriadu ei wneud. Hefyd, mae angen system gwynion gadarn, gyson a thryloyw sy'n wirioneddol annibynnol ac y gellir ymddiried ynddi ar gyfer cleifion ac mae angen i ni edrych eto ar ba mor llwyddiannus yw ein polisïau chwythu'r chwiban, gan fod fy mhrofiad a fy mag post yn dweud wrthyf nad ydynt yn llwyddiannus.

Mae hwn yn fater hynod o ddifrifol. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n fater o fywyd a marwolaeth. Credaf fod hon yn broblem sydd angen ateb radical. Credaf fod y bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth yn haeddu cael eu proffesiynoldeb wedi’i gydnabod, yn haeddu cael eu hyfforddi'n briodol, yn haeddu gwybod, drwy set o gymwyseddau craidd, beth yn union a ddisgwylir ganddynt. Ac mae angen iddynt wybod hefyd y byddant yn atebol am gyflawni’r gwaith o gynllunio a rheoli ein gwasanaethau mewn cydlyniad â'r set graidd honno o gymwyseddau.

Edrychaf ymlaen, Lywydd, at glywed sylwadau'r Aelodau eraill yn y ddadl hon. Nid wyf yn disgwyl i’r Gweinidog ddweud yma y bydd yn derbyn y ddeddfwriaeth hon—er y buaswn wrth fy modd pe bai'n gwneud hynny wrth gwrs—ond rwy'n gobeithio y bydd yn teimlo bod modd iddo gydnabod bod materion difrifol y mae angen mynd i'r afael â hwy ac y gallwn eu harchwilio ar sail drawsbleidiol yn y lle hwn i sicrhau bod gennym y system reoli orau, fwyaf tryloyw y mae ein GIG ei hangen ac yn ei haeddu.