– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a'r cynnig hwnnw ar reoli'r gwasanaeth iechyd, ac mae'r cynnig yn cael ei wneud gan Helen Mary Jones.
Cynnig NDM7102 Helen Mary Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am berfformiad gwael neu anniogel;
b) sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru;
c) gosod dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr; a
d) sefydlu system gwyno ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac mae'n bleser ac yn fraint gennyf gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn i'r Senedd heddiw. Mae wedi bod yn dipyn o arfer ymysg gwleidyddion yng Nghymru i ddweud weithiau, 'Mae gennym ormod o reolwyr yn y GIG; nid ydynt gwneud eu swyddi'n iawn'. Mae'n debyg fy mod wedi bod yn euog o hynny fy hun yn y gorffennol, ond y gwir yw na fyddwn yn darparu'r mathau o wasanaethau y mae ein hetholwyr eu heisiau a'u hangen—pob un o'n hetholwyr—oni bai fod gennym wasanaeth sy'n cael ei reoli'n effeithiol.
Nawr, mae hefyd yn gwbl wir fod gennym lawer o reolwyr rhagorol yn gweithio ar bob lefel yn ein GIG yng Nghymru, ac maent yn ymdrechu ac yn llwyddo i gynllunio a darparu gwasanaethau rhagorol gyda'u cydweithwyr clinigol. Ond ni all fod unrhyw un ohonom yn y Siambr hon nad yw'n ymwybodol o'r pryderon tra hysbys ynglŷn â chapasiti, weithiau ynghylch cymhwysedd, ac yn sicr, ynghylch cysondeb perfformiad wrth reoli ein gwasanaethau. A cheir pryderon dilys iawn ynghylch atebolrwydd. Felly, dyma pam rwy'n cynnig Bil inni heddiw ar reoli'r gwasanaeth iechyd. Mae beth yn union y dylem ei alw—Bil atebolrwydd a thryloywder y GIG—yn rhywbeth ar gyfer dadl bellach. Ond diben y Bil hwn, ei brif ddiben, fyddai sefydlu corff proffesiynol ar gyfer rheolwyr y GIG yng Nghymru. Nawr, mae hyn wedi cael ei bortreadu mewn rhai rhannau o'r wasg a chan rai sy'n ymateb i'r ddadl fel ymosodiad ar y gwasanaeth. Yn sicr, nid yw hynny'n wir. Yr hyn y mae'n ei wneud mewn gwirionedd yw cydnabod pwysigrwydd enfawr rheolwyr i effeithiolrwydd y gwasanaeth, a phe baem yn rhoi corff proffesiynol priodol iddynt a fyddai'n eu cofrestru, byddem yn sicrhau bod eu cyfraniad yn gyfartal â'u cydweithwyr clinigol, a chredaf fod hynny'n sicr yn haeddu ystyriaeth.
Felly, rwy'n argymell rôl i'r corff proffesiynol hwn bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer pobl sy'n ymwneud â rheoli a gweinyddu ar bob lefel, ac y dylai'r cymwyseddau hyn fod yn seiliedig ar werth. Os ydych yn hyfforddi fel nyrs, y peth cyntaf a gewch yw hyfforddiant ar y gwerthoedd y mae'r gwasanaeth yn eu disgwyl ar eich cyfer. Ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnig hynny'n gyson i'r rhai sy'n gweinyddu ac yn rheoli'r gwasanaethau.
Byddai arnom angen cymwyseddau craidd wedi’u pennu ar bob lefel, a byddai'r cymwyseddau hynny’n seiliedig ar yr hyfforddiant hwn sy'n seiliedig ar werth. Gallai corff proffesiynol wneud datblygiad proffesiynol parhaus yn ofynnol i sicrhau bod y rheini sy'n rheoli ein gwasanaethau'n gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfan sy'n ofynnol ganddynt a'r holl ddatblygiadau sy’n digwydd o'u cwmpas. Mae rhai, yn enwedig rheolwyr canol, yn dweud wrthyf eu bod wedi'u gorlethu, weithiau, gan newid. Nid ydynt yn gresynu at ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gwasanaeth y byddant yn ei ddarparu, ond mae angen eu grymuso i wneud hynny'n briodol.
Felly, mae a wnelo â'r gwerth a roddir ar y bobl sy'n rheoli ein GIG. Mae'n ymwneud â rhoi'r adnoddau iddynt wneud y gwaith a sicrhau bod pawb arall yn gwybod beth y gellir ei ddisgwyl o ran cymhwysedd, gwybodaeth a sgiliau gan bobl sy'n rheoli ar wahanol lefelau yn ein gwasanaeth. Nawr, wrth gwrs, un agwedd ar y cofrestru hwn fyddai, pe bai rheolwr yn methu’n gyson, neu pe bai rheolwr yn cael hi’n anodd gwneud eu gwaith, byddai eu corff proffesiynol, fel y byddent yn ei wneud gyda nyrs neu feddyg, yn camu i mewn ac yn rhagnodi cyngor, yn rhagnodi hyfforddiant, yn rhagnodi cefnogaeth. Ond pe na bai hynny'n llwyddiannus, yn y pen draw, byddai gan y corff proffesiynol hwn hawl i ddiswyddo rheolwr ac i ddweud, 'Nid ydych yn berson addas a phriodol i reoli ein gwasanaeth'. Nid dyna brif swyddogaeth y ddeddfwriaeth rwy'n ei chynnig, ond mae'n sancsiwn, a byddai'n rhoi terfyn ar batrwm rydym wedi’i weld—ac nid oes gennyf unrhyw fwriad heddiw, Lywydd, o enwi unrhyw un—lle mae pobl mewn rolau uchel iawn mewn rhannau o'n gwasanaeth yn methu rheoli'r gwasanaethau hynny’n effeithiol, yn diflannu am ychydig ac yna'n codi eu pennau yn rhywle arall ac yn rheoli agwedd arall ar y gwasanaeth ac yn methu gwneud hynny’n dda. Mae hynny'n gwbl annheg; mae'n gwbl annheg i'r cleifion, mae'n gwbl annheg i'r staff clinigol, ond mae hefyd yn gwbl annheg i'r rhai sy'n gweithio ym maes rheoli yn y gwasanaeth ac sy’n dymuno gallu gwneud hynny'n effeithiol.
Rwy’n sylweddoli fod hwn yn waith mawr—nid yw'n rhywbeth y gellid ei gyflawni drwy Fil Aelod preifat—ond nid yw’r ffaith ei fod yn waith mawr yn golygu na ddylem fynd ati i'w wneud. Rwy'n cofio cael gwybod yn y lle hwn y byddai cofrestru gweithwyr cymorth gofal iechyd yn amhosibl ac yn llawer rhy gymhleth. Wel, rydym yn gwneud hynny bellach. A chredaf fod angen i ni fod yr un mor uchelgeisiol o ran yr hyn rydym yn ei gynnig i'r bobl sy'n rheoli ein gwasanaethau.
Buaswn hefyd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn sefydlu annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn briodol. Bydd yr Aelodau'n cofio bod y pwyllgor, yn ôl yn 2014, yn bryderus iawn nad oedd wedi derbyn sicrwydd ynghylch rôl yr arolygiaeth, nad oedd yn ddigon annibynnol. Nawr, gwn fod gan y Gweinidog rai cynlluniau hirdymor i wneud rhywbeth am hyn, ond buaswn yn ei atgoffa ei fod wedi dweud y byddai Bil ansawdd y GIG a fyddai'n cael ei gyflwyno’n rhoi sylw i annibyniaeth AGIC, ac nid yw'r drafft sydd gennym o'n blaenau yn gwneud hynny.
Byddai fy neddfwriaeth arfaethedig hefyd yn gosod dyletswydd gonestrwydd, nid yn unig ar sefydliadau, sy'n ganmoladwy wrth gwrs, ond ar unigolion hefyd. Y mannau lle mae angen grymuso pobl i godi eu llais o fewn sefydliadau nad ydynt yn arfer eu dyletswydd gonestrwydd yw lle mae angen y ddyletswydd gonestrwydd honno fwyaf. Ac ni fydd gosod y cyfrifoldeb hwnnw ar sefydliadau yn unig yn cyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog, rwy'n siŵr, yn bwriadu ei wneud. Hefyd, mae angen system gwynion gadarn, gyson a thryloyw sy'n wirioneddol annibynnol ac y gellir ymddiried ynddi ar gyfer cleifion ac mae angen i ni edrych eto ar ba mor llwyddiannus yw ein polisïau chwythu'r chwiban, gan fod fy mhrofiad a fy mag post yn dweud wrthyf nad ydynt yn llwyddiannus.
Mae hwn yn fater hynod o ddifrifol. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n fater o fywyd a marwolaeth. Credaf fod hon yn broblem sydd angen ateb radical. Credaf fod y bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth yn haeddu cael eu proffesiynoldeb wedi’i gydnabod, yn haeddu cael eu hyfforddi'n briodol, yn haeddu gwybod, drwy set o gymwyseddau craidd, beth yn union a ddisgwylir ganddynt. Ac mae angen iddynt wybod hefyd y byddant yn atebol am gyflawni’r gwaith o gynllunio a rheoli ein gwasanaethau mewn cydlyniad â'r set graidd honno o gymwyseddau.
Edrychaf ymlaen, Lywydd, at glywed sylwadau'r Aelodau eraill yn y ddadl hon. Nid wyf yn disgwyl i’r Gweinidog ddweud yma y bydd yn derbyn y ddeddfwriaeth hon—er y buaswn wrth fy modd pe bai'n gwneud hynny wrth gwrs—ond rwy'n gobeithio y bydd yn teimlo bod modd iddo gydnabod bod materion difrifol y mae angen mynd i'r afael â hwy ac y gallwn eu harchwilio ar sail drawsbleidiol yn y lle hwn i sicrhau bod gennym y system reoli orau, fwyaf tryloyw y mae ein GIG ei hangen ac yn ei haeddu.
Diolch. A gaf fi atgoffa'r siaradwyr mai tair munud yn unig sydd gennych ar gyfer eich cyfraniadau i'r cynnig hwn? Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn am Fil ar reoli'r gwasanaeth iechyd. Gallaf eich sicrhau y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig nid yn unig yn cefnogi eich cynigion, ond yn ceisio cryfhau a chynyddu rhai o ddarpariaethau'r Bil arfaethedig, oherwydd mae'n cyd-fynd yn agos â chynllun iechyd pum pwynt a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth. Mae tri o'r pwyntiau a drafodwyd gennym wedi'u cynnwys yn rhannol yn eich Bil, a hoffem eu datblygu ymhellach.
Oherwydd rydym wedi galw am ailwampio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn radical er mwyn ei gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru a rhoi pwerau newydd iddi ymyrryd yn gyflym pan fydd problemau'n cael eu nodi. Drwy ei gwneud yn wirioneddol annibynnol ar y Llywodraeth, fel y mae Helen Mary yn ei gynnig, credaf y gallem gyflawni'r amcan hwn, ond buaswn yn gofyn i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ystyried darpariaeth ariannol hefyd, gan y credwn y byddai'n rhaid treblu cyllideb AGIC er mwyn iddi allu ehangu ei rhaglen o arolygiadau heb eu cyhoeddi ymlaen llaw a sicrhau bod y gofynion ar gyfer gwella yn cael eu rhoi ar waith.
Mae sesiwn dystiolaeth y pwyllgor iechyd a gynhaliwyd y bore yma gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cadarnhau hyn. Ymweliad dirybudd gan AGIC ag uned argyfwng ac uned asesu Ysbyty Athrofaol Cymru a amlygodd y safonau gofal anniogel, yr arferion rhoi meddyginiaeth gwael a'r lefelau staffio amhriodol, ymhlith pethau eraill roedd angen mynd i'r afael â hwy. Ac eto, er yr honnir bod uwch reolwyr yn ymweld â'r adrannau, nid oedd yn ymddangos bod y bwrdd iechyd yn cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar yr uned argyfwng a'r uned asesu, ac i aralleirio'r hyn a ddywedodd y prif weithredwr heddiw, mae pobl yn gweld y sefyllfa neu'r broblem i'r fath raddau fel nad ydynt yn ei hadnabod fel problem bellach, ac rydym angen i sefydliad annibynnol ddod i mewn.
Yn ychwanegol at hynny, credaf fod y corff proffesiynol arfaethedig ar gyfer rheolwyr, unwaith eto, yn rhywbeth y byddem yn ei gefnogi’n gryf. Unwaith eto, awgrymwyd hyn gennym yn ein syniad, ond hoffem ei weld yn mynd ymhellach ac yn dod yn gyngor arweinyddiaeth y GIG sy'n gwneud cofrestru'n ofynnol, a byddai'r rhai yr ystyrir eu bod yn anghymwys yn cael eu diswyddo. Fel y dywedoch yn gynharach, mae pobl—mae gennyf chwe enghraifft yma o bobl sydd wedi ailymddangos yn y system ar ôl gwneud cawlach lwyr o'u gwaith yn rhywle arall, ac maent wedi llwyddo i oroesi a pharhau.
Rydym yn llwyr gefnogi system gwynion newydd gadarn. Gadewch i ni atgoffa ein hunain eto am bwyllgor iechyd arall, pan ddywedodd prif weithredwr Cwm Taf, ac rwy'n dyfynnu,
A dweud y gwir, roedd faint o adborth a gawsom gan y teuluoedd, sef yr elfen fwyaf gofidus yn hyn, yn sioc lwyr, hyd yn oed i mi, ac rwy'n llofnodi'r cwynion yn y sefydliad.
Wir.
Yn olaf, a gaf fi ddweud eich bod wedi gwneud pwynt diddorol iawn ynglŷn â dyletswydd gonestrwydd? Dylai fod yn berthnasol i unigolion yn ogystal â sefydliadau. Rydym wedi bod yn galw am ddyletswydd gonestrwydd ers chwe blynedd, ers iddi gael ei chyflwyno yn Lloegr ar ôl sgandal Canol Swydd Stafford ac yng ngoleuni cyfraith Robbie. Fodd bynnag, awgrymodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, nad oedd yn angenrheidiol i Gymru. Dywedodd yn 2013,
'Mae’r rheoliadau gwneud iawn a basiwyd yma gan y Cynulliad yn 2011 yn gosod dyletswydd o fod yn agored ar fyrddau iechyd yn awr. Mewn ffordd, mae dyletswydd o onestrwydd eisoes ymhlyg, os nad yn amlwg, yn y rheoliadau hynny.'
Rydym wedi gweld nad yw'n gweithio. Byddem yn eich cefnogi'n llwyr, a hoffwn weithio gyda chi i gyflwyno Bil o'r fath ar lawr y Siambr hon.
Gaf i longyfarch Helen Mary Jones am ei harweiniad? Rwy'n cefnogi ei bwriad yn llawn. Does yna ddim dwywaith bod systemau yn y gwasanaeth iechyd dan straen anferthol—dim digon o staff, dim digon o adnoddau, dim digon o welyau, a nyrsys a meddygon yn cael eu hymestyn i'r eithaf i ddarparu gwasanaeth derbyniol rhan fwyaf o'r amser, gwasanaeth bendigedig yn aml, ond weithiau mae safon y gwasanaeth yn cwympo'n fyr o'r nod ac mae camgymeriadau yn digwydd, yn anorfod bron, mewn system dan y fath straen.
Mae yna gwpwl o bwyntiau i'w gwneud. Mae dyletswydd gonestrwydd yn her pan fo cyfreithwyr yn dod yn rhan o'r broses, ac mae hyd yn oed ymddiheuro yn y fath amgylchiadau yn gallu cael ei ddehongli fel cyfaddefiad o fai, a gonestrwydd y nyrs neu feddyg yn eu cyfeirio at lys barn. Pan fo nyrs neu feddyg yn penderfynu codi llais i amlygu rhyw wendid yn y system, dylen nhw gael eu gwarchod go iawn. Yn aml, fel rhywun sy'n chwythu'r chwiban, byddant yn cael eu herlid gan reolwyr a wynebu beirniadaeth eu cydweithwyr a gweld cael eu halltudio o'r gwaith neu eu gyrfa yn darfod am godi pryderon. Bu'r arbenigwr wnaeth chwythu'r chwiban ar farwolaethau babanod o dan lawdriniaeth y galon ym Mryste dros 20 mlynedd yn ôl—yn y pen draw, roedd rhaid i'r arbenigwr yna orfod symud i Awstralia er mwyn cael swydd a pharhau efo'i yrfa ddisglair. Dim ond am chwythu'r chwiban.
A'r ail bwynt: mae angen cydnabod methiannau yn y system sydd yn gallu esgor ar gamgymeriadau unigol pan mae meddygon a nyrsys yn gorfod gwneud mwy nag un peth hanfodol bwysig ar yr un amser oherwydd pwysau gwaith—ddim yn wastadol erlid y nyrs neu'r meddyg, ond edrych ar gyfrifoldebau rheolwyr hefyd, fel mae Helen Mary wedi crybwyll, achos mae gan bawb ran yn y cyfrifoldeb. Dylai pawb—nyrsys, meddygon, rheolwyr—gael eu trin yr un peth, yn gofrestredig gan eu cyrff proffesiynol ac yn gallu wynebu cael eu taflu allan o'r proffesiwn a mynd i lys barn i wynebu cyhuddiadau difrifol iawn. Dyna beth sy'n wynebu pob nyrs a phob meddyg nawr; dyna beth yw cyfrifoldeb dros gleifion go iawn. Dylai'r rheolwyr wynebu'r un peth.
Yn y pen draw, mae angen system iawndal di-fai—no-fault compensation—arnom fel gwlad pan mae pethau yn mynd o'u lle neu ryw anffawd annisgwyl yn digwydd i'r claf. Mae hyn yn digwydd mewn sawl gwlad arall, achos nid oes rhaid i'r claf gael gafael â chyfreithiwr drudfawr, nid oes angen llys, nid oes angen profi bai, achos weithiau anffawd pur yw e—does neb ar fai. Mae taliad iawndal di-fai yn cymryd y costau cyfreithiol i ffwrdd, a'r iawndal i gyd yn haeddiannol i'r claf. Cefnogwch y cynnig.
Rwy'n croesawu cynigion Helen Mary ar gyfer rheoli'r GIG ac rwy'n cefnogi ei chynnig am Fil yn llwyr. Fel rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon, mae'n rhaid inni sicrhau bod rheolwyr gwasanaethau iechyd yn cadw at yr un rhwymedigaethau â staff clinigol. Mae gan glinigwyr ddyletswyddau gofal a osodir arnynt gan eu colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol amrywiol. Mae rheolwyr yn rhan hanfodol o'n GIG modern, ac yn aml, gallant chwarae rôl yn sicrhau ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion. Mae'n hanfodol, felly, fod rheolwyr y GIG yn perthyn i gorff proffesiynol a fydd yn eu helpu i sicrhau nad oes lle i berfformiad gwael neu arferion anniogel yn y gwaith o reoli'r gwasanaeth iechyd.
Rwy'n croesawu mesurau yn y Bil arfaethedig hefyd i osod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gwbl annibynnol wrth wraidd system gwynion sy'n rhoi cleifion yn gyntaf ac yn sicrhau eu bod hwy a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses. Gobeithio y bydd gosod dyletswydd gonestrwydd ar reolwyr y GIG yn ffurfio rhan o'r cod ymddygiad a bennir gan y corff proffesiynol newydd, gan sicrhau y bydd camgymeriadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn gyfleoedd dysgu yn hytrach na rhywbeth i'w cuddio a'u hosgoi. Mae Bil arfaethedig Helen Mary yn cydnabod bod ein GIG yr un mor ddibynnol ar reolwyr a gweinyddwyr ag y mae ar staff clinigol.
Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rheolwyr a'r gweinyddwyr hynny wedi'u rhwymo gan yr un dyletswyddau cyfreithiol i'r claf â staff clinigol. Ni fyddwn byth yn dileu camgymeriadau'n llwyr—rhaid inni dderbyn hynny—ond gallwn sicrhau ein bod yn dileu arferion anniogel ac nad ydym yn gwobrwyo perfformiad gwael. Er mwyn i'n GIG ffynnu, rhaid i bob rhan ohono weithio'n dda. Mae rheolwyr y GIG yno i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol gan staff clinigol i drin eu cleifion. Bydd y Bil arfaethedig hwn yn helpu i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan reolwyr gofal iechyd i gefnogi staff clinigol mewn GIG sydd o ddifrif yn rhoi'r claf yn gyntaf. Mae ganddo gefnogaeth lwyr fy ngrŵp ac edrychaf ymlaen at helpu Helen Mary mewn unrhyw ffordd y gallaf i sicrhau ei fod yn dod yn gyfraith yn gyflym. Diolch yn fawr.
Rwyf innau'n cefnogi cyflwyno'r Bil hwn ac yn diolch i'r Aelod am ei gyflwyno. Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'r straeon arswyd. Mae babanod wedi marw o ganlyniad i gamreoli yn y GIG. Tarfwyd ar fywydau miloedd o bobl ifanc am fod rhestrau aros iechyd meddwl wedi cynyddu bedair gwaith. Mae cleifion wedi marw wrth aros am oriau am ambiwlans brys. Mae bywydau wedi cael eu difetha wrth i bobl aros yn hwy nag y dylent am lawdriniaeth, ac mae canserau wedi tyfu wrth i'r gallu i wneud diagnosis a'u trin yn y wlad hon grebachu. Nid bai'r clinigwyr ac nid bai'r staff ar y rheng flaen yw'r ffaith bod hyn wedi digwydd yng Nghymru, ond mae'n fai ar rhywun, ac os ydym am gredu'r Llywodraeth hon pan fyddant yn gwadu mai hwy sy'n gyfrifol am y cynnydd yn nifer y marwolaethau a'r dioddef diangen a achosir gan ganlyniadau ac ymatebion gwael, mae'n rhaid felly ei fod yn fai ar reolwyr penodol yn y GIG.
Yn ddiamau, mae rheoli adnoddau cyfyngedig mewn sefydliad sy'n gorfod ymateb i'r hyn y gellid ei ystyried yn alw na ellir ei reoli yn anodd, ond mae#n siŵr fod llawdriniaethau ar yr ymennydd a thriniaethau canser cymhleth yn anos. Serch hynny, mae llawfeddygon ymennydd sydd wedi'u hyfforddi, eu cofrestru a'u trwyddedu yn ddarostyngedig i benderfyniadau rheolwyr GIG didrwydded heb eu cofrestru, nad oes angen unrhyw gymhwyster statudol o gwbl arnynt i gyflawni eu rôl. Mae penderfyniadau rhai o reolwyr y GIG wedi achosi rhai problemau difrifol, fel y soniais, ond nid ydym yn gwybod am unrhyw reolwr yn y GIG sydd wedi colli diwrnod o gyflog, neu sydd wedi'u diswyddo, neu wedi gorfod bod yn atebol yn gyhoeddus am eu methiannau angheuol.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi cefnogi galwadau i gofrestru rheolwyr y GIG yn yr un modd â'r clinigwyr sy'n ddarostyngedig i benderfyniadau rheolwyr y GIG. Yn llawer rhy aml, rydym wedi gweld rheolwyr sy'n methu mewn un maes sector cyhoeddus yn gadael gyda thaliad mawr ac yn ymddangos yn rhywle arall yn y sector cyhoeddus i wneud llanast o bethau i grŵp arall o drethdalwyr diarwybod. Mae ein profiad ni yn y lle hwn yn dangos, heb newid y rheolau, na allwn ddisgwyl unrhyw welliant sylweddol. Er enghraifft, sawl gwaith rydym ni yn yr wrthblaid wedi holi’r Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, ynglŷn â'r llanast parhaus ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac wedi gofyn iddo a oes unrhyw un wedi cael eu diswyddo am eu methiannau enfawr neu am ddifetha bywydau pobl, dim ond i’w weld yn gwingo ac ymddiheuro bron am ei anallu i wneud unrhyw beth ynglŷn â’r sefyllfa?
Nid yw'r Bil hwn yn cynnwys system drwyddedu ar gyfer rheolwyr y GIG ond mae'n gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Byddai llawer o bobl yn synnu na cheir corff proffesiynol ar gyfer galwedigaeth mor bwysig â rheoli’r GIG, er bod cyrff proffesiynol ar gyfer pethau fel gwerthwyr tai, hysbysebwyr a hyfforddwyr pêl-droed ac ati. Mae arolygiaeth iechyd annibynnol nad yw'n llawn o benodiadau gwleidyddol yn hanfodol hefyd. Mae'n hen bryd gallu dwyn rheolwyr y GIG i gyfrif am y marwolaethau a'r dioddef y mae eu penderfyniadau gwael yn eu hachosi. Gan nad oes gan Vaughan Gething sgiliau i ddatrys y problemau hyn ei hun, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni ymgorffori’r atebion yng nghyfraith Cymru. Diolch.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gydnabod o'r cychwyn cyntaf y pryderon a'r materion a godwyd gan nifer o siaradwyr yn eu cyfraniadau, ac sy'n sail i'r cynnig, ond credaf fod y Bil drafft Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn ymdrin â nifer o'r pwyntiau yn y cynnig. Wrth gwrs, rydym newydd ddechrau'r broses graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Cefais gyfle i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid heddiw. Bydd taith y Bil drafft hwnnw drwy'r Cynulliad yn rhoi cyfle inni ddadlau a thrafod y syniadau hyn, gan gynnwys cyfleoedd i wneud diwygiadau a gwelliannau. Ansawdd yw'r cysyniad canolog sy'n sail i'r darpariaethau yn y Bil. Drwy osod dyletswyddau ar lefel sefydliadol, mae'r Bil yn mabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at wella ansawdd.
Mae'r cynnig heddiw’n cynnwys cynigion i gryfhau annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae rheoleiddiwr cryf sy'n gallu gweithredu'n annibynnol ar y GIG a’r Llywodraeth yn rhan bwysig o'r darlun o ran ansawdd. Mae'r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn sicrhau y gall yr arolygiaeth weithredu’n annibynnol a’i bod yn gwneud hynny. Fel Gweinidog iechyd, nid wyf yn rhan o’r gwaith o’i goruchwylio na phennu ei chyllideb. Mae'n gyfrifol am bennu ei rhaglen waith ei hun o fewn cwmpas eang ei llythyr cylch gwaith. Mae'r rhain yn ffactorau hanfodol wrth sicrhau y gall AGIC godi’i llais pan fo angen a’i bod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gymhleth a bod angen ei ddiwygio. Yn y cyfamser, mae angen datblygu capasiti AGIC yn raddol i sicrhau ei bod yn barod i ymateb i fframwaith deddfwriaethol gwahanol yn y dyfodol. Rwyf wedi darparu dros £1 filiwn o gymorth ychwanegol i'r sefydliad ddatblygu ei gapasiti.
Mae'r cynnig yn galw am system gwynion fwy tryloyw. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod angen newid y trefniadau 'Gweithio i Wella'. Canfu adolygiad gan Keith Evans eu bod yn addas at y diben, ac roedd ei argymhellion yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyson. Mae'r trefniadau 'Gweithio i Wella' yn cynnwys cynllun gwneud iawn y GIG, sy'n arloesol ac yn unigryw yn y DU. Ymdrinnir â hawliadau sy'n werth llai na £25,000 o dan y cynllun, sy'n llawer cyflymach na'r broses ymgyfreitha ac sy'n gweithredu heb unrhyw gost i achwynwyr.
Bydd y Bil y cyfeiriais ato yn sefydlu corff newydd ar gyfer llais y dinesydd ac rwy'n siŵr y bydd llawer o gyfleoedd i wneud sylwadau a holi ynglŷn â hynny yn ystod ei daith. Bydd y corff newydd ar gyfer llais y dinesydd yn cefnogi pobl neu eu cynrychiolwyr os oes angen iddynt wneud cwyn am iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd staff ychwanegol yn cael eu hariannu i alluogi'r corff newydd i ymestyn ei wasanaethau i ddarparu gwasanaeth cwynion, cyngor a chymorth i ystod ehangach o unigolion.
Mae'r Bil yn argymell dyletswydd gonestrwydd statudol ar lefel sefydliadol. Bydd hyn yn golygu y bydd yr holl staff, gan gynnwys rheolwyr, yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Rhoddir hyfforddiant i'r holl staff ar bob lefel mewn sefydliadau, boed yn glinigwyr ai peidio. A bydd yr hyfforddiant hwnnw’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chlinigwyr. Mae pob grŵp proffesiynol yn y gwasanaeth, bron â bod, yn awyddus i weithio gyda ni ar y canllawiau ar gyfer y dyletswydd gonestrwydd, i sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru.
Credaf efallai fod y pwyntiau pwysicaf yn y sgwrs heddiw wedi ymwneud â heriau’r diwylliant o fwrw bai, a'r croesi rhwng bai ac atebolrwydd. Nawr, os ydym am symud ein system gofal iechyd yn fwriadol tuag at system sy’n fwy seiliedig ar ddysgu a myfyrio—os am sicrhau nad dyhead mo hynny, ond rhywbeth sy'n cael ei wireddu—rwy'n cydnabod bod angen inni weld newid diwylliant o fewn y sefydliadau. Ac mae hynny'n berthnasol i glinigwyr yn ogystal â rheolwyr. Ac mae rhan o fy mhryder yn ymwneud â'r iaith o amgylch y cynnig posibl hwn, sy'n swnio'n debycach i'r gallu i gael gwared ar reolwyr, yn hytrach na dysgu a myfyrio pan aiff pethau o chwith.
Yn gynharach heddiw, mynychais lansiad y weledigaeth ar gyfer mamolaeth yng Nghymru. Ac unwaith eto, yno, o fewn y proffesiwn mamolaeth yng Nghymru, ceir myfyrio go iawn ar y pethau sydd wedi mynd o chwith mewn gwahanol rannau o'r wlad—yn amlwg, yn hen ardal Cwm Taf—ond ceir balchder gwirioneddol hefyd yn y dewisiadau bwriadol a wnânt, ac y cânt eu cydnabod am eu gwneud yn y DU a thu hwnt. Ac nid wyf yn dymuno gweld system ymddygiad newydd yn cael ei chyflwyno a fyddai’n ein symud oddi wrth y gallu i ddysgu a myfyrio. Ac felly, byddai'r cynigion ar gyfer corff rheoleiddio gorfodol newydd ar gyfer rheolwyr y GIG yn cyflwyno lefel o gost a chymhlethdod, ond wrth gwrs, mae hynny'n wir bob amser wrth gyflwyno mesurau newydd. Ond dylem gofio profiadau nyrsys mewn perthynas â’r rheoliadau cartrefi gofal, a gorfod bod yn atebol i ddau reoleiddiwr. Ni wellodd hynny ein system, ni wnaeth wahaniaeth i'r aelodau hynny o staff na’r bobl y maent yn gweithio gyda hwy neu ar eu cyfer.
Byddai angen inni ystyried cyllid a pholisi yn fanwl i adlewyrchu natur amrywiol y gweithlu a'u rolau, gan gynnwys y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â chynnwys y diffiniad o bwy neu beth yw rheolwr yn rhan o gwmpas gwaith corff rheoleiddio newydd, p'un a yw'n rheoliad arfaethedig, lle mae'n rhaid i bawb ymddangos ar gofrestr i allu gweithio, neu'n brawf ôl-weithredol o ba mor addas a phriodol yw person. Mae'r rheini'n faterion y byddai angen i ddarpar gynigydd y ddeddfwriaeth fynd i'r afael â hwy, a'r cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a chyfrifoldeb y rheoleiddiwr, a sut i sicrhau bod y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sef y mwyafrif helaeth o reolwyr yn ein system, sut yr ymdrinnir â hwy, ac yn wir, symudedd y gweithlu dros ffiniau pe baem yn cyflwyno'r gofyniad hwn yng Nghymru'n unig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, er enghraifft, wedi galw yn y gorffennol am ymagwedd ledled y DU ar y mater hwn. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â’r achos dros reoleiddio gorfodol i reolwyr, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar gynigion manwl sy'n mynd i'r afael â'r heriau real ac ymarferol iawn.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau funud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf ymateb i’r holl bwyntiau y mae pobl wedi’u codi. Ond rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gafwyd ar draws y Siambr, ac rwy'n ddiolchgar hefyd, mewn gwirionedd, i'r Gweinidog am gydnabod bod hon yn ymgais i fynd i'r afael â materion real ac ystyrlon, ac am ei barodrwydd i edrych ar gynigion manylach.
Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o bwyntiau a godwyd gan Angela Burns. Credaf fod y ddarpariaeth ariannol ar gyfer AGIC yn gwbl hanfodol. Fodd bynnag, nid wyf yn siŵr a ydych yn ymdrin â hynny mewn deddfwriaeth, er y gall fod rhai ffyrdd o wneud hynny. Ac rwy’n llwyr gefnogi'r hyn a ddywedwch am gofrestru gan gynnwys yr hawl i ddiswyddo rhywun, o bosibl. Ond hoffwn herio'r Gweinidog a dweud fy mod wedi dweud yn glir iawn yn fy nghyfraniad nad o’r fan honno rwy'n dechrau. Yr hyn rwy’n dechrau ohono yw grymuso pobl i wneud eu swyddi'n iawn, ac ni fydd yn rhaid dod yn ôl atynt heblaw i ymdrin â methu gwneud y gwaith yn iawn, fel dewis olaf, fel sy'n wir am feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol clinigol eraill.
Ni fydd unrhyw un yn synnu wrth fy nghlywed yn dweud fy mod yn cytuno â phopeth a ddywedodd Dai. Yng nghyd-destun y Bil hwn, rwy'n credu'n hollbwysig mai symud i system iawndal ddi-fai briodol yw'r unig ffordd yn y pen draw y byddwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i allu cyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt. Ac mae tegwch o ran trin rheolwyr a staff clinigol yn hanfodol.
Nid yw Bil y Gweinidog yn gwbl ddiwerth, ac wrth gwrs, byddwn yn ceisio ei ddiwygio, ond nid yw'n mynd i'r afael â’r rhan helaeth o’r pryderon. Credaf fod angen i ni reoleiddio ein rheolwyr, yn benodol er mwyn eu hatal rhag ymddangos, diflannu ac ailymddangos pan fydd pethau wedi mynd o chwith. Wrth gwrs, byddwn yn cydweithredu drwy gydol taith y Bil, ond mae angen i ni wneud mwy.
Nawr, rwy'n digwydd credu bod gennym y gallu a'r capasiti. Mae gennym ddigon o bobl ddisglair yng Nghymru i allu rheoli ein gwasanaethau cyhoeddus yn wirioneddol effeithiol, ond nid ydym yn rhoi'r hyfforddiant a'r strwythur iddynt i'w galluogi i wneud hynny. Byddaf yn gweithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i geisio bwrw ymlaen â’r agenda hon. O bosibl, er enghraifft, gallem ystyried grŵp trawsbleidiol ar atebolrwydd gwasanaeth cyhoeddus a allai fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i godi'r materion hyn yma heddiw. Mae peth o'r adborth a ddaeth yn ôl ataf gan staff rheoli, mewn gwirionedd, yn nodi’n glir iawn eu bod yn falch o wybod bod pobl yn gwybod nad yw popeth yn iawn a’u bod o ddifrif ynglŷn â'r mater. Edrychaf ymlaen at gydweithredu ar yr agenda hon i ddarparu'r rheolaeth orau a'r canlyniadau gorau i gleifion.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau, felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.