5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Rheoli'r Gwasanaeth Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:27, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gydnabod o'r cychwyn cyntaf y pryderon a'r materion a godwyd gan nifer o siaradwyr yn eu cyfraniadau, ac sy'n sail i'r cynnig, ond credaf fod y Bil drafft Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn ymdrin â nifer o'r pwyntiau yn y cynnig. Wrth gwrs, rydym newydd ddechrau'r broses graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Cefais gyfle i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid heddiw. Bydd taith y Bil drafft hwnnw drwy'r Cynulliad yn rhoi cyfle inni ddadlau a thrafod y syniadau hyn, gan gynnwys cyfleoedd i wneud diwygiadau a gwelliannau. Ansawdd yw'r cysyniad canolog sy'n sail i'r darpariaethau yn y Bil. Drwy osod dyletswyddau ar lefel sefydliadol, mae'r Bil yn mabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at wella ansawdd.

Mae'r cynnig heddiw’n cynnwys cynigion i gryfhau annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae rheoleiddiwr cryf sy'n gallu gweithredu'n annibynnol ar y GIG a’r Llywodraeth yn rhan bwysig o'r darlun o ran ansawdd. Mae'r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn sicrhau y gall yr arolygiaeth weithredu’n annibynnol a’i bod yn gwneud hynny. Fel Gweinidog iechyd, nid wyf yn rhan o’r gwaith o’i goruchwylio na phennu ei chyllideb. Mae'n gyfrifol am bennu ei rhaglen waith ei hun o fewn cwmpas eang ei llythyr cylch gwaith. Mae'r rhain yn ffactorau hanfodol wrth sicrhau y gall AGIC godi’i llais pan fo angen a’i bod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gymhleth a bod angen ei ddiwygio. Yn y cyfamser, mae angen datblygu capasiti AGIC yn raddol i sicrhau ei bod yn barod i ymateb i fframwaith deddfwriaethol gwahanol yn y dyfodol. Rwyf wedi darparu dros £1 filiwn o gymorth ychwanegol i'r sefydliad ddatblygu ei gapasiti.

Mae'r cynnig yn galw am system gwynion fwy tryloyw. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod angen newid y trefniadau 'Gweithio i Wella'. Canfu adolygiad gan Keith Evans eu bod yn addas at y diben, ac roedd ei argymhellion yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyson. Mae'r trefniadau 'Gweithio i Wella' yn cynnwys cynllun gwneud iawn y GIG, sy'n arloesol ac yn unigryw yn y DU. Ymdrinnir â hawliadau sy'n werth llai na £25,000 o dan y cynllun, sy'n llawer cyflymach na'r broses ymgyfreitha ac sy'n gweithredu heb unrhyw gost i achwynwyr.

Bydd y Bil y cyfeiriais ato yn sefydlu corff newydd ar gyfer llais y dinesydd ac rwy'n siŵr y bydd llawer o gyfleoedd i wneud sylwadau a holi ynglŷn â hynny yn ystod ei daith. Bydd y corff newydd ar gyfer llais y dinesydd yn cefnogi pobl neu eu cynrychiolwyr os oes angen iddynt wneud cwyn am iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd staff ychwanegol yn cael eu hariannu i alluogi'r corff newydd i ymestyn ei wasanaethau i ddarparu gwasanaeth cwynion, cyngor a chymorth i ystod ehangach o unigolion.

Mae'r Bil yn argymell dyletswydd gonestrwydd statudol ar lefel sefydliadol. Bydd hyn yn golygu y bydd yr holl staff, gan gynnwys rheolwyr, yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Rhoddir hyfforddiant i'r holl staff ar bob lefel mewn sefydliadau, boed yn glinigwyr ai peidio. A bydd yr hyfforddiant hwnnw’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chlinigwyr. Mae pob grŵp proffesiynol yn y gwasanaeth, bron â bod, yn awyddus i weithio gyda ni ar y canllawiau ar gyfer y dyletswydd gonestrwydd, i sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru.

Credaf efallai fod y pwyntiau pwysicaf yn y sgwrs heddiw wedi ymwneud â heriau’r diwylliant o fwrw bai, a'r croesi rhwng bai ac atebolrwydd. Nawr, os ydym am symud ein system gofal iechyd yn fwriadol tuag at system sy’n fwy seiliedig ar ddysgu a myfyrio—os am sicrhau nad dyhead mo hynny, ond rhywbeth sy'n cael ei wireddu—rwy'n cydnabod bod angen inni weld newid diwylliant o fewn y sefydliadau. Ac mae hynny'n berthnasol i glinigwyr yn ogystal â rheolwyr. Ac mae rhan o fy mhryder yn ymwneud â'r iaith o amgylch y cynnig posibl hwn, sy'n swnio'n debycach i'r gallu i gael gwared ar reolwyr, yn hytrach na dysgu a myfyrio pan aiff pethau o chwith.

Yn gynharach heddiw, mynychais lansiad y weledigaeth ar gyfer mamolaeth yng Nghymru. Ac unwaith eto, yno, o fewn y proffesiwn mamolaeth yng Nghymru, ceir myfyrio go iawn ar y pethau sydd wedi mynd o chwith mewn gwahanol rannau o'r wlad—yn amlwg, yn hen ardal Cwm Taf—ond ceir balchder gwirioneddol hefyd yn y dewisiadau bwriadol a wnânt, ac y cânt eu cydnabod am eu gwneud yn y DU a thu hwnt. Ac nid wyf yn dymuno gweld system ymddygiad newydd yn cael ei chyflwyno a fyddai’n ein symud oddi wrth y gallu i ddysgu a myfyrio. Ac felly, byddai'r cynigion ar gyfer corff rheoleiddio gorfodol newydd ar gyfer rheolwyr y GIG yn cyflwyno lefel o gost a chymhlethdod, ond wrth gwrs, mae hynny'n wir bob amser wrth gyflwyno mesurau newydd. Ond dylem gofio profiadau nyrsys mewn perthynas â’r rheoliadau cartrefi gofal, a gorfod bod yn atebol i ddau reoleiddiwr. Ni wellodd hynny ein system, ni wnaeth wahaniaeth i'r aelodau hynny o staff na’r bobl y maent yn gweithio gyda hwy neu ar eu cyfer.

Byddai angen inni ystyried cyllid a pholisi yn fanwl i adlewyrchu natur amrywiol y gweithlu a'u rolau, gan gynnwys y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â chynnwys y diffiniad o bwy neu beth yw rheolwr yn rhan o gwmpas gwaith corff rheoleiddio newydd, p'un a yw'n rheoliad arfaethedig, lle mae'n rhaid i bawb ymddangos ar gofrestr i allu gweithio, neu'n brawf ôl-weithredol o ba mor addas a phriodol yw person. Mae'r rheini'n faterion y byddai angen i ddarpar gynigydd y ddeddfwriaeth fynd i'r afael â hwy, a'r cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a chyfrifoldeb y rheoleiddiwr, a sut i sicrhau bod y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sef y mwyafrif helaeth o reolwyr yn ein system, sut yr ymdrinnir â hwy, ac yn wir, symudedd y gweithlu dros ffiniau pe baem yn cyflwyno'r gofyniad hwn yng Nghymru'n unig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, er enghraifft, wedi galw yn y gorffennol am ymagwedd ledled y DU ar y mater hwn. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynglŷn â’r achos dros reoleiddio gorfodol i reolwyr, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar gynigion manwl sy'n mynd i'r afael â'r heriau real ac ymarferol iawn.