Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle i drafod adroddiad y pwyllgor ar statws bagloriaeth Cymru. Roeddwn yn falch fod y dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor yn dangos y rhinwedd amlwg o gael pobl ifanc yn astudio bagloriaeth Cymru. Roeddwn yn falch fel Gweinidog Addysg Cymru, ac fel Lynne, rwy'n falch fel rhiant sydd â dau o blant ar hyn o bryd yn astudio dwy lefel wahanol o'r fagloriaeth wrth i ni siarad.
Mae'n gymhwyster fframwaith eang ei gwmpas sy'n rhoi ffocws ar addysgu sgiliau sylfaenol, ac mae'n galluogi disgyblion i fod yn fwy annibynnol, i feddwl yn fwy beirniadol ac i fod yn fwy hyblyg yn y ffordd y maent yn gweithio. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gymdeithas, y gymuned y maent yn byw ynddi ac ymwybyddiaeth o faterion, digwyddiadau a safbwyntiau byd-eang, gan eu helpu i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd. Yn wir, mae bagloriaeth Cymru yn darparu'r sylfaen i'n dysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth ehangach sy'n cyd-fynd yn berffaith â phedwar diben y cwricwlwm newydd ac yn rhoi iddynt dystysgrif ac achrediad ar gyfer y sgiliau hynny.
Gadewch i mi fod yn glir: fy nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa o fagloriaeth Cymru ac ennill y dystysgrif her sgiliau. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r gwahanol safbwyntiau yma yn y Siambr ynglŷn â gwerthoedd a manteision bagloriaeth Cymru, ac yn ystod ei hoes gymharol fyr, bu'n destun adolygiadau a newidiadau niferus. Gadewch i ni fod yn glir: mae bagloriaeth Cymru a'r dystysgrif her sgiliau ar eu ffurf bresennol yn dal yn ifanc a bydd yn parhau i ddatblygu dros amser. Ar hyn o bryd, dim ond dwy set o ganlyniadau a gafwyd ers ei gweithredu ym mis Medi 2015, er bod yn rhaid imi ddweud bod y ddwy set o ganlyniadau wedi bod yn galonogol iawn.
Ond rwy'n sylweddoli bod rhai agweddau ar gyflawniad y gellir eu gwneud yn well. Gellir gwneud y ffordd yr ydym yn cyfleu'r gwerth a'r manteision yn gliriach, gellir gwella dealltwriaeth prifysgolion o'r cymhwyster, a rhaid inni ddysgu gwersi o weithredu bagloriaeth Cymru wrth inni symud ymlaen i gyflwyno'r cwricwlwm i Gymru 2022.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn ategu fy marn ar yr heriau hyn. Felly, roeddwn yn hapus iawn i dderbyn yr argymhellion naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes ar wella'r canllawiau sydd ar gael, a fydd yn amlinellu fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol bagloriaeth Cymru yn ogystal â pholisi'r Llywodraeth ar fabwysiadu'r cymhwyster yn gyffredinol, a byddant yn barod yn yr hydref. Mae Cymwysterau Cymru, CBAC a ninnau fel Llywodraeth yn gweithio gyda'n gilydd i wella ymwybyddiaeth o fagloriaeth Cymru drwy gynllun cyfathrebu ar y cyd, gan sicrhau bod negeseuon clir yn cael eu cyfleu ar ddiben a manteision gwneud y fagloriaeth i ddysgwyr.
Nawr, un o'r cwestiynau y gofynnir i mi yn aml yw a fydd prifysgolion yn derbyn y dystysgrif her sgiliau. Y gwir amdani yw bod y dystysgrif her sgiliau'n cario'r un pwyntiau tariff UCAS ac yn gyfwerth ag unrhyw safon uwch arall. Mae mwy a mwy o brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig yn cydnabod y dystysgrif her sgiliau yn eu cynigion, gan gynnwys 15 o brifysgolion Grŵp Russell. Ac yn fwy na hynny, dywed prifysgolion wrthyf fi a'n saith cydlynydd rhwydwaith fod y fagloriaeth uwch yn rhoi mantais gystadleuol i fyfyrwyr o Gymru o ran eu gallu i ddangos sgiliau academaidd ac ymchwil clir ac annibynnol, sy'n eu harwain i fod yn israddedigion rhagorol.