7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:06, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf eisoes wedi dweud yn glir yn y ddadl hon nad wyf yn rhannu'r farn gwbl negyddol a fynegwyd gan rai yn y Siambr, ond serch hynny, roedd yn wir fod prifysgolion yn ymddangos yn amharod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor a mynegi'r farn honno. Pam felly? Os yw'r darlun mor dda, pam eu bod wedi bod mor amharod i siarad â ni?