Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Dirprwy Lywydd, drwy gydol y cyfnod datganoli, mae dull Cymru o ymgysylltu ag undebau llafur a chyflogwyr wedi cael ei benderfynu gan bartneriaeth. Yn wir, mae ein gallu i ymdopi ag argyfwng byd-eang 2008, a'r cyni a gyflwynwyd o ganlyniad i hynny, wedi'i briodoli i'n model o bartneriaeth gymdeithasol, a'r gydnabyddiaeth bod cydweithio teirochrog ystyrlon yn hanfodol i gyflawni canlyniadau blaengar ac atal gwrthdaro ac anghydfod. Degawd ers cwtogi di-baid ar wariant cyhoeddus, fodd bynnag, mae'r model presennol wedi cyrraedd terfynau ei effeithiolrwydd. Daeth hi'n bryd ei ddatblygu ymhellach er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd y mae Cymru'n eu hwynebu heddiw.
Bydd y datblygiadau newydd hyn yn adeiladu'n gadarn ar sylfeini partneriaeth gymdeithasol ym mhob agwedd ar ddeddfwriaeth, polisi a buddsoddi. O adfer bargeinio sectoraidd drwy'r panel cynghori amaethyddol, i gyflwyno'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi, rydym ni wedi gweithio'n greadigol i roi mwy o ddiogelwch a mwy o lais i bobl sy'n gweithio yng Nghymru. Yn gynharach yn ystod tymor y Cynulliad hwn, roeddwn yn falch o lywio Bil yr Undebau Llafur (Cymru) nodedig drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy'n wrthbwynt i ddeddfwriaeth y DU a luniwyd i gyfyngu ar hawliau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Mae natur barhaus yr heriau a wynebwn ni yn hysbys iawn. Mae twf tlodi mewn gwaith, hunan-gyflogaeth ffug a chontractau dim oriau gorfodol yn cael effaith niweidiol ar iechyd a lles gormod o bobl yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r arferion annheg hyn yn dwysáu'r anghydraddoldebau presennol yn ein cymdeithas, gan mai ar y rhai sydd â'r lleiaf o bŵer yn y gweithle y mae'r effaith fwyaf. A, Dirprwy Lywydd, maen nhw'n peri anfantais sylweddol i'r busnesau niferus hynny sy'n ymroddedig ac yn gyfrifol yn gymdeithasol ac sy'n eu cael eu hunain mewn perygl o fod ar faes cystadlu annheg gyda chyflogwyr llai egwyddorol.
Ymhellach, mae'r heriau hyn sy'n ein hwynebu ni heddiw yn mabwysiadu ffurfiau newydd yn ein dyddiau ni. Mae dyfodiad awtomatiaeth a llwyfannau digidol wedi profi pa mor hawdd y gellir symud baich risg i weithwyr heb yr amddiffyniad a roddir gan gydberthnasau cyflogaeth confensiynol, a sut y gall busnesau bach ar y stryd fawr gael eu tanseilio gan sefydliadau rhyngwladol sy'n osgoi trethi ac yn gweithredu y tu hwnt i'n ffiniau.
Beth, felly, Dirprwy Lywydd, ydym ni'n bwriadu ei wneud nawr? Wel, yn gyntaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaethau cymdeithasol drwy gyflwyno Bil yn nhymor y Cynulliad hwn. Bydd y Bil hwnnw'n ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol ac yn sicrhau ei bod hi'n amlwg y gellir gorfodi'r cytundebau a wneir. Mae TUC Cymru wedi gwneud rhai cynigion penodol ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hyn, a byddwn yn trafod y cynigion hyn gyda'r partneriaid cymdeithasol eraill dros y misoedd nesaf.
Yn ail, byddwn yn defnyddio grym y pwrs cyhoeddus i sicrhau manteision cymdeithasol newydd drwy wella'r hyn a gawn ni gan y rheini sy'n cael arian cyhoeddus gennym ni drwy'r contract economaidd. Byddwn yn cynyddu'r arferion gorau a ddysgir drwy'r cynlluniau treialu Swyddi Gwell yn Nes Adref, a byddwn yn ymgorffori gwaith teg drwy gaffael cyhoeddus a thrwy fwrw ymlaen â'n hymagwedd newydd ac arloesol at yr economi sefydliadol.
Yn drydydd, byddwn yn creu system effeithiol o fonitro a gorfodi. Mae nifer o gytundebau eisoes wedi'u gwneud mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y cod dwy haen. Er bod gennym ni systemau ar waith i fonitro'r modd y cânt eu gweithredu, gwyddom y gellir gwella'r systemau hynny, ac nid oes gennym ni ddigon o ddulliau gorfodi pan gaiff y codau hynny eu torri.
Yn bedwerydd, byddwn yn sefydlu peirianwaith newydd o lywodraeth i fod yn sail i waith partneriaid cymdeithasol. Byddwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg i sefydlu swyddfa ar gyfer gwaith teg. Mae'r cynlluniau ymarferol i sefydlu cyfarwyddiaeth o fewn y gwasanaeth sifil eisoes ar waith, gyda swydd pennaeth yr uned honno eisoes yn cael ei hysbysebu.