Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am wneud datganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chryfhau partneriaeth gymdeithasol. Mae ein partneriaeth gyda’r undebau a chyflogwyr yn allweddol i'r ffordd rydyn ni'n gweithio fel Llywodraeth. Trwy gyd-drafod a chydweithio, rydym ni'n datrys problemau a chanfod atebion i'r heriau economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Mae'r ffordd yma o weithio yn seiliedig ar egwyddorion cadarn. Mae'n ffordd o weithio sy'n effeithiol ac yn berthnasol iawn i'r amodau presennol.