– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Prif Weinidog: partneriaeth gymdeithasol. Galwaf ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am wneud datganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chryfhau partneriaeth gymdeithasol. Mae ein partneriaeth gyda’r undebau a chyflogwyr yn allweddol i'r ffordd rydyn ni'n gweithio fel Llywodraeth. Trwy gyd-drafod a chydweithio, rydym ni'n datrys problemau a chanfod atebion i'r heriau economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Mae'r ffordd yma o weithio yn seiliedig ar egwyddorion cadarn. Mae'n ffordd o weithio sy'n effeithiol ac yn berthnasol iawn i'r amodau presennol.
Dirprwy Lywydd, drwy gydol y cyfnod datganoli, mae dull Cymru o ymgysylltu ag undebau llafur a chyflogwyr wedi cael ei benderfynu gan bartneriaeth. Yn wir, mae ein gallu i ymdopi ag argyfwng byd-eang 2008, a'r cyni a gyflwynwyd o ganlyniad i hynny, wedi'i briodoli i'n model o bartneriaeth gymdeithasol, a'r gydnabyddiaeth bod cydweithio teirochrog ystyrlon yn hanfodol i gyflawni canlyniadau blaengar ac atal gwrthdaro ac anghydfod. Degawd ers cwtogi di-baid ar wariant cyhoeddus, fodd bynnag, mae'r model presennol wedi cyrraedd terfynau ei effeithiolrwydd. Daeth hi'n bryd ei ddatblygu ymhellach er mwyn mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd y mae Cymru'n eu hwynebu heddiw.
Bydd y datblygiadau newydd hyn yn adeiladu'n gadarn ar sylfeini partneriaeth gymdeithasol ym mhob agwedd ar ddeddfwriaeth, polisi a buddsoddi. O adfer bargeinio sectoraidd drwy'r panel cynghori amaethyddol, i gyflwyno'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi, rydym ni wedi gweithio'n greadigol i roi mwy o ddiogelwch a mwy o lais i bobl sy'n gweithio yng Nghymru. Yn gynharach yn ystod tymor y Cynulliad hwn, roeddwn yn falch o lywio Bil yr Undebau Llafur (Cymru) nodedig drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy'n wrthbwynt i ddeddfwriaeth y DU a luniwyd i gyfyngu ar hawliau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Mae natur barhaus yr heriau a wynebwn ni yn hysbys iawn. Mae twf tlodi mewn gwaith, hunan-gyflogaeth ffug a chontractau dim oriau gorfodol yn cael effaith niweidiol ar iechyd a lles gormod o bobl yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r arferion annheg hyn yn dwysáu'r anghydraddoldebau presennol yn ein cymdeithas, gan mai ar y rhai sydd â'r lleiaf o bŵer yn y gweithle y mae'r effaith fwyaf. A, Dirprwy Lywydd, maen nhw'n peri anfantais sylweddol i'r busnesau niferus hynny sy'n ymroddedig ac yn gyfrifol yn gymdeithasol ac sy'n eu cael eu hunain mewn perygl o fod ar faes cystadlu annheg gyda chyflogwyr llai egwyddorol.
Ymhellach, mae'r heriau hyn sy'n ein hwynebu ni heddiw yn mabwysiadu ffurfiau newydd yn ein dyddiau ni. Mae dyfodiad awtomatiaeth a llwyfannau digidol wedi profi pa mor hawdd y gellir symud baich risg i weithwyr heb yr amddiffyniad a roddir gan gydberthnasau cyflogaeth confensiynol, a sut y gall busnesau bach ar y stryd fawr gael eu tanseilio gan sefydliadau rhyngwladol sy'n osgoi trethi ac yn gweithredu y tu hwnt i'n ffiniau.
Beth, felly, Dirprwy Lywydd, ydym ni'n bwriadu ei wneud nawr? Wel, yn gyntaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaethau cymdeithasol drwy gyflwyno Bil yn nhymor y Cynulliad hwn. Bydd y Bil hwnnw'n ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol ac yn sicrhau ei bod hi'n amlwg y gellir gorfodi'r cytundebau a wneir. Mae TUC Cymru wedi gwneud rhai cynigion penodol ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hyn, a byddwn yn trafod y cynigion hyn gyda'r partneriaid cymdeithasol eraill dros y misoedd nesaf.
Yn ail, byddwn yn defnyddio grym y pwrs cyhoeddus i sicrhau manteision cymdeithasol newydd drwy wella'r hyn a gawn ni gan y rheini sy'n cael arian cyhoeddus gennym ni drwy'r contract economaidd. Byddwn yn cynyddu'r arferion gorau a ddysgir drwy'r cynlluniau treialu Swyddi Gwell yn Nes Adref, a byddwn yn ymgorffori gwaith teg drwy gaffael cyhoeddus a thrwy fwrw ymlaen â'n hymagwedd newydd ac arloesol at yr economi sefydliadol.
Yn drydydd, byddwn yn creu system effeithiol o fonitro a gorfodi. Mae nifer o gytundebau eisoes wedi'u gwneud mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y cod dwy haen. Er bod gennym ni systemau ar waith i fonitro'r modd y cânt eu gweithredu, gwyddom y gellir gwella'r systemau hynny, ac nid oes gennym ni ddigon o ddulliau gorfodi pan gaiff y codau hynny eu torri.
Yn bedwerydd, byddwn yn sefydlu peirianwaith newydd o lywodraeth i fod yn sail i waith partneriaid cymdeithasol. Byddwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg i sefydlu swyddfa ar gyfer gwaith teg. Mae'r cynlluniau ymarferol i sefydlu cyfarwyddiaeth o fewn y gwasanaeth sifil eisoes ar waith, gyda swydd pennaeth yr uned honno eisoes yn cael ei hysbysebu.
Ac yn bumed, byddwn yn deddfu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Byddwn yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd, gan gynnwys canllawiau newydd y bydd eu hangen i sicrhau bod y broses o'i gweithredu yn effeithiol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cyd-destun deddfwriaethol presennol yng Nghymru. Byddwn yn dwyn ynghyd y berthynas rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil partneriaeth gymdeithasol. Bydd y ddau yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o wahanol safbwyntiau, a byddwn yn sicrhau eu bod yn ategu ei gilydd yn llawn.
Beth, felly, Dirprwy Lywydd, fydd yr holl weithredoedd hyn yn ei gyflawni? Wel, yn gyntaf, fe'u cynlluniwyd i wrthdroi'r dirywiad mewn cydfargeinio. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, ymysg eraill, wedi egluro'n glir swyddogaeth cydfargeinio o ran lleihau anghydraddoldeb ac ymestyn diogelwch llafur. Rydym ni'n cefnogi'n llwyr yr egwyddorion a bennwyd gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar gydfargeinio a rhyddid i ymgysylltu, ac rydym ni'n dymuno gweld y manteision hyn yn cael eu hymestyn i fwy o bobl sy'n gweithio yma yng Nghymru.
Yn ail, bydd y camau hyn yn sicrhau gwelliannau ymarferol yn y gweithle. Heddiw, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg. Mae'r Comisiwn wedi canolbwyntio'n uniongyrchol ar swyddogaeth undebau llafur yn y gweithle, a'r manteision y gall hyn eu cynnig i weithwyr. Bydd ein hagwedd at waith teg yn golygu dulliau newydd a chamau gweithredu newydd i wella ansawdd gwaith a'r gallu i elwa ar hawliau cyflogaeth.
Yn drydydd, bydd y camau gweithredu hyn yn sicrhau gwell canlyniadau i gyflogwyr. Oherwydd gyda gweithlu ymroddgar, sy'n cael ei annog gan gyflogwyr sy'n buddsoddi mewn sgiliau a rheoli da ar bob lefel, gallwn adeiladu economi gryfach a chadarnach, gyda gwell cynhyrchiant, sy'n addas ar gyfer heriau'r dyfodol. Mae partneriaeth gymdeithasol, Dirprwy Lywydd, yn galluogi cyflogwyr i fod yn bartneriaid gweithredol o ran newid ein heconomi er gwell. Ac rydym ni'n ffodus o gael llawer o gyflogwyr yma yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i wneud hynny'n union.
Yn olaf, bydd y camau hyn yn dod â'r partneriaid cymdeithasol ynghyd mewn system sy'n syml, yn bwrpasol ac sydd â'r pwerau sydd eu hangen arni i droi cytundebau a wneir yn weithredoedd ar lawr gwlad. Drwy ddarparu'r dull o fonitro unrhyw gytundebau, byddwn yn sicrhau ymddiriedaeth a hyder bod y buddsoddiad y mae partneriaid yn ei wneud yn arwain at ganlyniadau diriaethol sy'n sicrhau manteision i bawb.
Yfory, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cadeirio cyfarfod sy'n dod ag aelodau'r Llywodraeth, gweithrediaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a'r grŵp strategaeth partneriaid cymdeithasol at ei gilydd. Bydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol cysgodol hwn yn annog partneriaid cymdeithasol i drafod y pethau uniongyrchol y mae angen i ni eu gwneud i gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellais y prynhawn yma. Bydd hynny'n cynnwys trafod protocol ar y cyd sy'n disgrifio'r disgwyliadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr o ran sut y bydd ein hymgysylltiad yn gweithio'n ymarferol.
Nawr, Dirprwy Lywydd, ni fydd dim o hyn yn hawdd. Mae partneriaeth gymdeithasol yn groes i'r dulliau gwrthdrawiadol y mae'r Blaid Geidwadol yn eu ffafrio pryd bynnag maen nhw mewn Llywodraeth. Ond mae hefyd yn groes i'r agwedd gysurus o osgoi problemau hefyd. Er mwyn llwyddo i wneud bywyd gwaith yn decach, mae'n ofynnol i bob partner ganolbwyntio ar arloesi a negodi. Mae'n rhoi ymddiriedaeth, ymgysylltu a deialog wrth wraidd datrys problemau—y ffordd orau o fynd i'r afael â'r problemau yr ydym i gyd yn eu hwynebu yw, gyda'n gilydd. Mae'n ffordd, ar ben hynny, sydd â gwreiddiau dwfn yn hanes hir Cymru o gydweithredu a chyd-dynnu a'r hanes yr ydym ni wedi'i ysgrifennu yma mewn oes fyrrach o lawer o ddatganoli. Mae'n ddull gweithredu, Dirprwy Lywydd, y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o'i gryfhau eto a'i wneud yn addas ar gyfer yr heriau y bydd y dyfodol yn eu cyflwyno.
A gaf fi ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad? Ac edrychaf ymlaen at graffu ymhellach ar fanylion eich cynigion yn ystod y misoedd nesaf. Fodd bynnag, rhaid imi ddweud, o'r cychwyn cyntaf, fy mod yn siomedig iawn eich bod wedi dewis gwleidyddoli'r datganiad hwn ac awgrymu bod y Ceidwadwyr, pryd bynnag y bônt mewn Llywodraeth, yn mynd ati mewn ysbryd o wrthdaro. Nid yw hynny'n gywir, oherwydd, a minnau'n Geidwadwr, cytunaf yn llwyr â chi y dylid ymdrin â'r materion hyn mewn ffordd gydweithredol. Credaf fy mod yn siarad, fodd bynnag, ar ran pob busnes sy'n siomedig â'r hyn a oedd gennych chi i'w ddweud heddiw sydd wedi ymgymryd â'r dull cydweithredol hwn, ac a fydd nawr, mae'n debyg, yn teimlo mwy o bwysau i gydymffurfio â'r cynlluniau hyn.
Nawr, mae'r busnesau yr wyf wedi siarad â nhw'n credu bod y dull gwirfoddol hwn wedi gweithio dros y blynyddoedd, ac yn wir ei fod yn dal i weithio. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r 'Cynllun Gwaith Da' eisoes yn ymrwymo i sicrhau y gall gweithwyr gael gwaith teg o safon, ac rwy'n deall y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ar lefel y DU i roi'r hawl i weithwyr ofyn am gontractau mwy sefydlog. Nawr, yn eich datganiad heddiw, Prif Weinidog, rydych chi'n egluro bod y model presennol o bartneriaeth gymdeithasol wirfoddol wedi cyrraedd terfyn ei effeithiolrwydd. A ydych chi'n dweud bod y model hwn, felly, wedi methu, o gofio y bu hwn yn bolisi gan Lywodraethau olynol Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf? Rwy'n siŵr y byddai llywodraethau olynol Cymru yn anghytuno â chi ar hynny.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch chi â mi fod angen llawer mwy o waith ar y dull hwn, ac felly na ddylid ei ruthro drwy'r Senedd hon. Nawr, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, mae 43,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, dylid ystyried effeithiau'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn ofalus drwy ymgynghoriad, yn fy marn i, fel y dylid ei wneud gyda phob agwedd ar effeithiau'r Ddeddf ar weithwyr a busnesau Cymru. Siawns mai dim ond ar ôl cwblhau ymgynghoriad cynhwysfawr ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad y dylid penderfynu wedyn ar y dull gweithredu mwyaf priodol, yn hytrach na dim ond deddfu'n gyntaf ar Fil na fu ymgynghori arno eto gyda'r rhai y byddai'n effeithio arnynt fwyaf. A wnewch chi, felly, Prif Weinidog, ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â'r holl randdeiliaid fel bod barn pawb yn cael ei hystyried mewn gwirionedd? Ac os nad ydych chi'n ymrwymo i hyn, beth fyddwch chi'n ei wneud er mwyn sicrhau bod undebau llafur yn gweithredu er budd eu haelodau, bod sefydliadau busnes yn gweithredu er budd eu haelodau, a bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir hefyd?
Nawr, rwy'n gwerthfawrogi y bydd gan bobl farn wahanol am gontractau dim oriau a'r effaith y gall hyn ei chael ar bobl sy'n gweithio. A byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, fod adolygiad Taylor o arferion gwaith modern yn dweud bod un rhan o bump o bobl ar gontractau dim oriau mewn addysg amser llawn. Ac, yn ôl pob golwg, nid yw 68 y cant o'r rhai sydd ar gontractau o'r fath eisiau mwy o oriau. Felly, mae'n hollbwysig, rwy'n credu, ein bod yn parhau i greu cyfle ar gyfer cyflogaeth hyblyg i'r rhai hynny sydd ei heisiau. A allwch chi amlinellu felly sut y bydd y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol arfaethedig hon yn parhau i ganiatáu cyflogaeth hyblyg i'r rhai sy'n dibynnu ar gyflogaeth hyblyg, ond yn dal i ddiogelu hawliau gweithwyr ar yr un pryd? Byddwn yn ddiolchgar pe baech chi efallai'n ymhelaethu ar hyn, oherwydd rwy'n cytuno bod yn rhaid inni fynd i'r afael â chyflogwyr llai egwyddorol, ond rhaid inni hefyd sicrhau economi hyblyg yn y dyfodol hefyd.
Prif Weinidog, yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y bore yma, dywedwyd y bydd y gyfarwyddiaeth partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg newydd yn swyddfa'r Prif Weinidog a Brexit. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn argymell na ddylai'r swyddfa gwaith teg fod mewn adran benodol. A fydd hyn yn golygu, felly, y bydd gennych chi, y Prif Weinidog, reolaeth uniongyrchol dros sefydlu a chyfeiriad y gyfarwyddiaeth honno? A sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd yr adran newydd hon yn gweithredu ar draws y Llywodraeth gyfan, o gofio y bydd mewn gwirionedd oddi tanoch chi?
Felly, gyda hynny, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Rwyf i a'm cyd-Aelodau yn edrych ymlaen at graffu ar eich cynlluniau ymhellach dros yr wythnosau nesaf a thros y misoedd nesaf.
Diolch i Paul Davies am yr ymateb adeiladol yna i ddatganiad y prynhawn yma. Mae arnaf ofn, rwy'n credu, bod yr hanes yn siarad drosto'i hun. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd yma yn y Cynulliad hwn, aeth meddygon ar streic yn y GIG yn Lloegr, aeth nyrsys ar streic, roedd ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, porthorion ar streic. Nid aeth yr un o'r galwedigaethau hynny ar streic yma yng Nghymru ac mae hynny oherwydd bod gennym ni agwedd wahanol. Nid damwain oedd y ffaith y bu'r gweision cyhoeddus a'r gweithwyr proffesiynol ymroddgar hynny ar draws y ffin ar streic, ond yma yng Nghymru fe wnaethom ni osgoi hynny. Mae hyn oherwydd bod gennym ni ddull partneriaeth gymdeithasol ac, ar draws y ffin, lle mae'r Blaid Geidwadol mewn grym, nid oes ganddyn nhw un.
Roeddwn yn awyddus iawn, Dirprwy Lywydd, yn yr hyn a ddywedais i bwysleisio'r cyfraniadau y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi'u gwneud i'r agenda partneriaeth gymdeithasol, o'r ffordd gadarnhaol y maen nhw'n mynd ynghylch pethau, a dyna'n sicr sut yr ydym ni'n bwriadu saernïo ein cynigion yma yng Nghymru. Pan ddywedais ein bod wedi cyrraedd terfynau ein trefniadau presennol, mae hynny oherwydd fy mod yn credu ein bod wedi gwneud y gorau ohonyn nhw, nid am nad ydyn nhw'n gweithio, ond am eu bod yn gweithio'n ddi-baid ac yn gweithio mor gyflym ag y gallan nhw o fewn y terfynau presennol. Dyna pam ein bod eisiau cryfhau'r trefniadau presennol drwy eu hamgylchynu â grym statud. A phan fydd Paul Davies yn dweud, pa un a ydym yn hoffi hyn ai peidio, bod gennym ni gontractau dim oriau, nid oes angen i ni ar yr ochr hon i'r Siambr bwyso a mesur yn ofalus i wybod nad ydym ni'n hoffi contractau dim oriau, ond rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn fel yr aethom ni i'r afael â gofal cymdeithasol a'r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yma yn y Cynulliad hwn. Yn hynny o beth, rydym ni wedi cydnabod bod yna resymau pam, fel y mae undebau llafur wedi cydnabod, y gellir trefnu cyfnod o 12 wythnos, cyfnod rhagarweiniol pan fydd rhywun yn penderfynu a ydyn nhw eisiau parhau yn y swydd honno, a phan fydd cyflogwyr yn mesur lefel y sgiliau a'r gallu sydd gan rywun—y gellir trefnu 12 wythnos ar sail dim oriau, ond yna mae'n rhaid cynnig contract cyfnod penodol o amser penodol i'r cyflogai. Gallant ddewis aros ar gontract dim oriau os mai dyna sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau, ond bod ganddyn nhw ddewis; nid ydyn nhw'n cael eu cadw ar sail contract dim oriau gorfodol.
Ond yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, rhoddaf ymrwymiad i'r Aelod y bydd ystyriaeth ofalus a chynhwysfawr o'r cynigion a gyflwynir gennym ni, y cânt eu datblygu mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol drwy sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y cynigion yn cael cyfle i'w hystyried, i'w llunio, ac yna cânt eu trafod a bydd craffu arnynt ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol.
Ac, yn olaf, i sicrhau'r Aelod yn ogystal fod y penderfyniad i osod y gyfarwyddiaeth partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yn Swyddfa'r Prif Weinidog yn ymateb uniongyrchol i argymhelliad y Comisiwn Gwaith Teg na ddylai ei lleoli mewn adran benodol. Yn wir, fel y dywedodd Paul Davies, mae'n agenda drawsbynciol yn ei hanfod, ac mae rhoi'r swyddfa honno neu'r gyfarwyddiaeth honno yn fy swyddfa i yn ffordd o wneud y natur drawsbynciol honno'n eglur ac effeithiol.
Rwy'n croesawu'r datganiad yma a'r fframwaith cyffredinol y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno. Byddai diddordeb gyda fi i glywed gan y Prif Weinidog, wrth ddatblygu'r model yma o bartneriaeth gymdeithasol, pa fodelau yn weddill Ewrop neu ymhellach i ffwrdd mae'r Llywodraeth wedi edrych arnyn nhw. Wrth gwrs, dŷn ni yn glasurol yn gyfarwydd iawn â'r model o bartneriaeth gymdeithasol yn yr Almaen, er enghraifft, yn Sgandinafia, yn Iwerddon—tan y creisis ariannol o leiaf. Yr hyn sy'n ddiddorol, dwi'n credu, am yr enghreifftiau hynny, yw roedden nhw i gyd, wrth gwrs, wedi cyfrannu tuag at ffyniant economaidd. Mae yna ryw fath o is-destun weithiau yn y feirniadaeth o bartneriaeth gymdeithasol bod hi'n arwain at aneffeithlonrwydd. Wel, i'r gwrthwyneb, a dweud y gwir, yn yr achosion hynny. Ac i ba raddau fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu ymchwil sydd yn edrych ar y cwestiwn yma ar lefel cwmnïoedd unigol o ran cynhyrchiant a llwyddiant economaidd cwmnïau unigol sy'n cydnabod undebau o'i gymharu â rhai sydd ddim? Achos mae yna wybodaeth academaidd yn fwy eang sy'n awgrymu hynny, a dwi'n meddwl y byddai fe yn ddefnyddiol, wrth i ni adeiladu'r fframwaith yma ar gyfer Cymru, i ni fedru dangos bod yna sail dystiolaethol i'r ddadl fod e'n dda ar lefel bottom line, os mynnwch chi, i gwmnïau, oherwydd mae'n creu gweithlu sydd â lefel uwch o foddhad—mae yna fwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant, llai o bobl yn absennol o'r gwaith ac ati.
A jest un cwestiwn bach ynglŷn â'r amserlen: ydy'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith yma o fewn y tymor hwn? Ac, yn olaf, un o'r beirniadaethau mwy teg, efallai, sy'n cael ei wneud o'r model o bartneriaeth gymdeithasol yn yr oes gyfoes yw a oes yna berygl, wrth ffocysu, wrth gwrs, ar gyflogwyr, undebau a llywodraeth, eich bod chi'n cwympo i mewn i fagl corporatist a'ch bod chi'n cau mas elfennau eraill o gymdeithas efallai sydd ddim yn cael eu hadlewyrchu yn y gweithdrefnau neu yn y strwythurau hynny? Ac oes yna le ar gyfer sicrhau bod y bartneriaeth yma yn hollgynhwysol, a'i bod yn edrych ar y cwestiwn o anghyfiawnder cymdeithasol yn y cyd-destun ehangaf posibl, nid jest yn y gweithle?
Diolch i Adam Price am ei gyfraniad y prynhawn yma. Roedd beth roedd Adam wedi’i ddweud yn wir. Wrth gwrs, beth rŷm ni'n ei awgrymu yma yng Nghymru yw pethau sy’n digwydd dros y môr mewn gwledydd eraill bob dydd. Roeddwn i’n siarad yng nghwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma am y community bank, ac, wrth gwrs, mae hwnna’n rhan o beth mae pobl eraill yn ei wneud bob dydd. So, beth rŷm ni’n ei wneud yw tynnu ar enghreifftiau eraill yn yr Almaen ac yng Ngwlad y Basg hefyd. Mae grŵp o bobl o Lywodraeth Gwlad y Basg yng Nghymru heddiw. Dwi'n mynd i gwrdd â nhw yfory, ac mae hynny'n digwydd ar ôl i fi a Gweinidogion eraill fynd i Wlad y Basg jest i glywed oddi wrthyn nhw sut maen nhw'n gwneud pethau, a thyfiant eu heconomi nhw a sut rŷm ni'n gallu dysgu o'r gwersi sydd ar gael o wledydd eraill.
Wrth gwrs, roedd beth roedd Adam Price yn ei ddweud am ymchwil yn wir hefyd. Mae lot o ymchwil ar gael yn y maes. Cyfeiriais i at yr ILO, ac mae gwaith yn yr un maes gyda'r World Bank hefyd, ac mae lot o waith wedi mynd ymlaen yn y byd academaidd. Y cam cyntaf, dwi'n meddwl, yw i dynnu at ei gilydd y wybodaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd, i rannu honno gyda'r partneriaethau a gweld os ydyn nhw'n meddwl bod bylchau yn yr ymchwil sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac a oes achos i lenwi'r bylchau hynny. Dwi'n hapus i gadarnhau y bydd y Bil o flaen y Cynulliad yn y tymor hwn, a dwi'n edrych ymlaen at y broses o graffu'r Bil. Dwi wedi clywed beth ddywedodd Adam Price am y nifer o bobl wrth y bwrdd pan fydden ni'n creu system newydd, a bydd cyfle gyda fi yfory, yn y cyfarfod sydd gyda fi gyda'r undebau, a gyda'r cyflogwyr hefyd, i roi y pwynt hwn iddyn nhw hefyd.
Diolch, Prif Weinidog, am y datganiad. Ni fydd hi'n unrhyw syndod i chi fy mod i'n gwbl gefnogol i'ch ymrwymiad i wreiddio gweithio mewn partneriaethau cymdeithasol yma yng Nghymru drwy ddeddfwriaeth. Rwyf wedi gweld drosof fy hun fanteision partneriaeth gymdeithasol, er enghraifft, o ran rhoi'r cyflog byw i'r GIG yng Nghymru, ac, fel y bu ichi ei grybwyll yn gynharach wrth ymateb i Paul Davies, y modd yr oeddem yn gallu osgoi'r mathau o anghydfodau diwydiannol yn y fan yma a welsom ni yn Lloegr. Wrth gwrs, ni all unrhyw beth yn fy marn i sy'n annog pobl i ymuno ag undeb llafur fod yn ddim ond yn beth da, oherwydd gwyddom fod gweithleoedd undebol yn weithleoedd mwy diogel a'u bod yn weithleoedd sy'n talu'n well ac ni all deddfu i ehangu hynny fod yn ddim ond yn gadarnhaol hefyd.
Heb os, mae partneriaethau cymdeithasol yn hanfodol i'n helpu i ymdrin â phroblemau'r pethau y sonioch chi amdanyn nhw yn eich datganiad, Prif Weinidog—gwaith ansicr a thlodi mewn gwaith—ond hefyd o ran wynebu'r newidiadau economaidd a chymdeithasol y gwyddom ni sydd o'n blaenau, y bydd llawer ohonyn nhw y tu hwnt i'n rheolaeth. Felly, fy nghwestiynau penodol i yw a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol fod yn sylfaen gadarn ar gyfer natur a strwythur ein dull o weithio ar y cyd yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau eich bod yn disgwyl i'n cyd-Aelodau yn yr undebau llafur fod yn bartneriaid cyfartal, er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd cymdeithasol presennol.
Diolch i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Pan ddywedais yn fy natganiad gwreiddiol fy mod yn dweud weithiau ar lwyfannau cyhoeddus nad yw partneriaethau cymdeithasol yn ffordd hawdd o wneud pethau, enw Dawn sy'n aml yn dod i'm meddwl, ar ôl gweithio gyda hi pan oeddwn yn Weinidog iechyd a hithau'n cynrychioli Unsain. Gallaf ddweud wrthych chi fod y cyfarfodydd hynny i'r gwrthwyneb o fod yn gysurus neu'n gydgynllwyniol, ond maen nhw'n gwneud y gwaith caled, a dyna'r hyn yr ydych chi'n disgwyl iddyn nhw ei wneud. Maen nhw'n fannau lle ceir sgyrsiau anodd lle na chaiff negeseuon fyth eu cyflwyno mewn ffyrdd amwys, ond mewn ffordd sydd â'r nod yn y pen draw o ddod i gytundeb, weithiau dros faterion heriol iawn, y gall pawb yn y pen draw ymrwymo iddo. Diolch iddi am y profiad blaenorol yna ac am y ffordd y mae'n cyfrannu at y Cynulliad hwn o'r profiad hwnnw.
Wrth gwrs, mae adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg yn tynnu ar waith y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd, a'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Maen nhw i gyd yn dweud yr un peth, sef bod cyd-fargeinio yn dda i weithwyr, i gyflogwyr ac i'r economi. Dyna pam ein bod ni eisiau gweld cyd-fargeinio'n cael ei hymestyn yma yng Nghymru. Mae cyd-fargeinio yn arwain at rannu'r economi'n decach rhwng gweithwyr ac eraill, ac mae economïau tecach yn gwneud yn well. Does dim syndod, nac oes, fod economïau mwy cyfartal yn gwneud yn well, oherwydd eu bod yn tynnu ar gronfa ehangach o ddoniau o ganlyniad i hynny. Dyna'r diben sy'n sail i'n Bil partneriaeth gymdeithasol: sicrhau y gellir elwa a gweithredu'n briodol ar gyfraniad pawb sy'n helpu i wneud Cymru'n lle mwy ffyniannus. Caiff strwythurau'r bartneriaeth eu diwygio i gefnogi hynny. Bydd y Bil yn diffinio natur y bartneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Ac, i ateb sylw olaf Dawn Bowden, wrth gwrs, mae pawb sy'n dod at y bwrdd yn dod yno'n bartneriaid cydradd, gyda phob un â rhywbeth gwahanol i'w gyfrannu, pob un â'r un gwerth yn y cyfraniad hwnnw.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am y copi ymlaen llaw, a dweud hefyd pa mor braf yw gweld faint o'i ddatganiadau gweinidogol y mae'n aros ar eu cyfer? Nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cofio ei weld yn San Steffan erioed. Mae gennyf i dri maes yr oeddwn i eisiau ei holi yn eu cylch yma. Mae'r cyfeiriadau—. Dechreuodd drwy ganmol ein model o bartneriaeth gymdeithasol a gwneud cryn dipyn o gyfeiriadau at undebau llafur a'r TUC, roeddwn yn credu bod llai o gyfeiriadau at fusnesau a'u sefydliadau cynrychioliadol—meddwl oeddwn i tybed a yw hynny'n rhywbeth y bydd yn ceisio ei unioni yn y dyfodol. Hefyd, yn fwy cyffredinol, a yw'n gweld swyddogaeth Llywodraeth Cymru fel hwylusydd ar gyfer yr undebau llafur a busnes, neu fel Llywodraeth Lafur yn bennaf, yn cefnogi'r undebau llafur yn y cyd-destun hwnnw? Pan fo'n sôn am sicrhau nwyddau cymdeithasol newydd drwy gynyddu'r gofyn ar y rhai sy'n cael arian cyhoeddus drwy'r contract economaidd, drwy gaffael cyhoeddus—y contract economaidd, a yw hynny'n rhywbeth sy'n berthnasol i gaffael cyhoeddus yn gyffredinol, neu i gyfran benodol ohono yn unig? A tybed beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weld a oes unrhyw effaith ar werth am arian wrth fynd ar drywydd pethau fel hyn? Yn amlwg, weithiau, os na fydd rhywun yn gwneud y gwahanol bethau y byddai'n eu dymuno, ac rwy'n siŵr bod llawer o'r rhain yn nwyddau cymdeithasol y byddem yn eu cefnogi, a fydden nhw'n cael eu heithrio o'r contractau? A phe bai gennych chi lai o bobl yn gwneud cais am gontractau o fewn cwmpas hyn, a allai hynny gynyddu costau, o leiaf dros y tymor canolig?
Yn olaf, wrth weithredu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dywed y Prif Weinidog:
Byddwn yn dwyn ynghyd y berthynas rhwng y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a'r Bil partneriaeth gymdeithasol.
Tybed a ydyn nhw'n bethau gwahanol? A fydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn cychwyn y ddyletswydd neu, pan fo'n cyfeirio at y camau sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd hon, a ydyn nhw'n wahanol? A yw deddfwriaeth San Steffan yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gychwyn arni lle nad yw Gweinidogion y DU yn cychwyn ar hyn yn Lloegr? Mae'n cyfeirio at Ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, ond rwyf hefyd yn cofio yn ystod ei hynt, gyfeiriad at y ffaith y gellid dadlau bod hyn yn sosialaeth mewn un cymal. Ai dyna y mae hyn yn cyfeirio ato ac ai dyna pam mae'r Prif Weinidog yn arwain yn y maes hwn yn y modd y mae wedi'i gyhoeddi heddiw?
Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau hynny. Ceisiais yn fy natganiad ymdrin â llawer agwedd, a cheisiais sicrhau fy mod yn rhoi sylw priodol i'r cyfraniad y mae busnesau, yn gyflogwyr y sector cyhoeddus a chyflogwyr y sector preifat, wedi'i wneud i ddatblygiad partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Roedd hi'n braf iawn gweld y croeso a roddodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, a'm barn i yw bod busnesau'n bartneriaid cydradd o gwmpas y bwrdd hwnnw. Ac maen nhw'n bartneriaid cydradd â'r Llywodraeth hefyd. Nid wyf yn gweld Llywodraeth fel hwylusydd yn y ffordd yr awgrymodd Mark Reckless; mae'r Llywodraeth yn bartner mewn trefniant teirochrog. Mae'r Llywodraeth yn rhan, mae undebau llafur yn rhan, mae cyflogwyr yn rhan, a deuwn ynghyd â'n cyfrifoldebau gwahanol a'n galluoedd gwahanol i weithredu i ganolbwyntio ar broblemau yr ydym ni'n eu rhannu ymysg ein gilydd a lle gallwn ni, drwy ddal sylw gyda'n gilydd, gael gwell deilliannau.
Wrth gwrs, mae arnom ni eisiau mwy o adenillion ar y buddsoddiad a wneir gan drethdalwyr Cymru wrth adeiladu economi Cymru. Rydym ni'n awyddus iawn i ddal ati fel Llywodraeth i fuddsoddi yn economi Cymru, buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn seilwaith, buddsoddi mewn cynorthwyo busnesau unigol, lle mae achos i wneud hynny. Ond, yn gyfnewid, mae'n briodol, pan fydd y trethdalwr yng Nghymru yn gwneud y cyfraniad hwnnw, ei fod yn gallu dweud wrth y rhai sy'n elwa ar y cyfraniad hwnnw ein bod, er enghraifft, yn disgwyl iddyn nhw ddarparu cyfleusterau iechyd galwedigaethol priodol i bobl sy'n gweithio iddyn nhw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw fuddsoddi yn sgiliau parhaus y gweithlu hwnnw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ymateb i'r gri a glywir yn aml yn y Siambr hon i sicrhau bod iechyd meddwl a lles pobl sy'n gweithio yn y sectorau hynny yn cael gofal hefyd. Mae'r rhain i gyd yn nwyddau cyhoeddus, mae'r rhain i gyd yn amcanion, rwy'n credu, y mae cefnogaeth eang iddyn nhw drwy'r Siambr, lle caiff arian cyhoeddus Cymru'n ei wario, credwn fod gennym ni'r hawl i ofyn iddo gyflawni'r agendâu ehangach hynny hefyd.
Pan na chaiff pethau eu cyflawni, a yw hynny'n golygu bod sefydliadau'n cael eu heithrio rhag gwneud cais am gontractau? Wel, mae'n dibynnu ar yr hyn sy'n mynd o'i le. Os na fydd cwmnïau'n gweithredu yn unol â'r gyfraith, drwy gosbrestru, er enghraifft, ni allant ddisgwyl y byddant yn cael contractau o bwrs y wlad. Pan fo cwmni'n gweithio'n galed i gyflawni agwedd ar gytundeb yr ydym ni wedi'i daro gyda nhw ond nad ydyn nhw wedi cyflawni hynny eto, er enghraifft, cael gwasanaeth iechyd galwedigaethol, wel, wrth gwrs, ni fyddai hynny'n eithrio cwmni rhag cymryd rhan na gwneud cais am gontract. Felly mae'n dibynnu ar natur y mater dan sylw.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei ddisgrifiad o ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb fel 'sosialaeth mewn un cymal'; mae'n fy annog i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno'r Ddeddf a'r Bil gerbron y Cynulliad. Rydym ni'n dal i weithio, i ateb cwestiwn penodol Mark Reckless, ynglŷn â'r ffordd orau i'w chychwyn. Efallai y bydd hynny'n digwydd drwy'r Bil, efallai y gallwn ni ei gwneud yn gyflymach, ond mae eich atgof o 'sosialaeth mewn un cymal' yn fy annog i'w chyflwyno gerbron y Cynulliad mor gyflym ag sy'n bosib.
Mae'r datganiad wedi disgrifio llawer o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym Mlaenau Gwent, o gyflogau isel, gwaith ansicr i anawsterau y mae'r stryd fawr a chyflogwyr ac eraill yn eu hwynebu. Gobeithiaf mai'r hyn y gallwch chi ei wneud i fynd â hyn yn ei flaen yw mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi mewn gwaith sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Yn rhy aml o lawer gwelwn ddatganiadau i'r wasg o wahanol fannau yn dweud wrthym am y gwaith sy'n cael ei greu heb ddisgrifio beth yw'r gwaith hwnnw byth, a'r effaith y mae'n ei gael ar deuluoedd a'r economi ehangach. Felly, gobeithiaf y byddwn yn gallu defnyddio'r datganiad hwn a'r darn hwn o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â materion megis tlodi mewn gwaith.
Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, wrth geisio disgrifio'r atebion, y byddwn yn chwilio am atebion cydweithredol ac ar y cyd hefyd. Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog Lee Waters wedi rhoi pwyslais mawr ar yr economi leoliadol a'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati i gydweithio i ymdrin â'r materion hyn yn ei waith, yn enwedig gyda thasglu'r Cymoedd. Rwy'n gefnogol iawn o hynny, ac rwy'n gobeithio felly y byddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth yma er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar y datrysiadau cydweithredol.
Prif Weinidog, byddwch hefyd yn ymwybodol bod Cytuniad Lisbon, wrth gwrs, yn cydnabod partneriaethau cymdeithasol yn yr Undeb Ewropeaidd, a defnyddiwyd hynny i hybu'r ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi sicrhau bod partneriaid cymdeithasol bob amser yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniad ar draws yr Undeb. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar Gytuniad Lisbon, ac yn edrych ar sut y gellir defnyddio hwnnw yn fodel ar gyfer cyflwyno partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru heddiw. Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, y byddwn yn gallu edrych ar hyn o ran y gronfa ffyniant gyffredin, fel bod partneriaethau cymdeithasol honno'n rhan annatod o hynny.
Prif Weinidog, gallwn wneud y newidiadau cyfreithiol a gallwn newid y fframwaith statudol, ond byddwch, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod newid gwirioneddol yn deillio o newid diwylliannol, a byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu sut yr ydych chi'n credu y gellir defnyddio'r newid statudol hwn—y newidiadau i sail gyfreithiol yr hyn a wnawn—i sbarduno newid diwylliannol drwy'n holl economi a'n sector cyhoeddus.
Fy nghwestiwn olaf i chi yw hyn, Prif Weinidog: mewn llawer ffordd, yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yw ymagwedd sosialaidd, Llafur Cymru at globaleiddio ac effaith globaleiddio ar ein heconomïau lleol. Rydym ni wedi gweld o senoffobia Plaid Brexit ac eraill bod ymatebion gwahanol iawn i effaith globaleiddio ar bobl a chymunedau. Drwy ein partneriaeth ag undebau llafur a thrwy weithio gyda'n gilydd ar sail gydweithredol, gobeithiaf y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydych chi'n ei ddisgrifio, a diwygio radical drwy'r sector cyhoeddus i gyd.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod creu Cymru sy'n fwy cyfartal yn un o nodau sylfaenol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod ceisio cael cenedl fwy cyfartal wrth wraidd popeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, a bydd hynny'n wir am y gwaith partneriaeth gymdeithasol hefyd, am yr union resymau a fynegwyd gan Alun Davies am ei etholaeth ei hun. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o gyfarfod â grŵp cydweithredol Aelodau'r Cynulliad yn y fan yma. Cafwyd cyfres o syniadau ymarferol iawn yn gyflym iawn o'r cyfarfod hwnnw, a bydd yn sicr yn ein helpu i ffurfio ein meddylfryd yn y dyfodol a bod yn rhan o'r agenda partneriaeth gymdeithasol ehangach honno.
Nid yw'n syndod, Dirprwy Lywydd, pan aethom ati i sefydlu pwyllgor monitro rhaglenni Cymru gyfan ar gyfer cronfeydd Ewropeaidd yma yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Huw Irranca-Davies, fod yr ymdeimlad hwnnw o bartneriaeth gymdeithasol yn dod yn naturiol iawn i ni yma yng Nghymru. Mae pawb sydd â diddordeb mewn gwneud llwyddiant o gyllid Ewropeaidd o amgylch y bwrdd gyda'i gilydd, ac mae ein partneriaid o'r Undeb Ewropeaidd sydd wedi dod i weithio gyda ni, i arsylwi ar yr hyn a wnawn ni, i rannu eu profiadau nhw a'n rhai ni, maen nhw yr un mor gartrefol yn y ffordd honno o wneud pethau. Ac mae hynny oherwydd, fel y dywedodd Alun Davies, mae globaleiddio'n galw am ymateb lleol. Ac os ydych chi'n mynd i roi hyder i bobl fod ganddyn nhw le yn y byd hwn sydd wedi'i globaleiddio, bod eu dyfodol i raddau yn eu dwylo eu hunain, yna cryfhau hawliau gweithwyr, cryfhau amddiffyniadau cymdeithasol—maen nhw'n magu'r hyder sydd wedyn yn arwain at y newidiadau diwylliannol hynny. Ac rwy'n credu bod gennym ni lawer o hynny eisoes ar waith yn y profiad o bartneriaeth gymdeithasol yr ydym ni wedi'i feithrin yng Nghymru. Mae'r Bil a'r camau gweithredu eraill a amlinellais y prynhawn yma wedi eu cynllunio i ddatblygu hynny ymhellach, i roi hyder y gyfraith yn sail i hynny ac, yn hynny o beth, i saernïo ymatebion sy'n cael effaith fawr ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac, yn bennaf oll, ym mywydau trigolion lleoedd fel Blaenau Gwent, lle mae'r angen am y mesurau diogelu cymdeithasol hynny a'r angen am y bartneriaeth gymdeithasol honno yn fwy pwysig nag erioed.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o groesawu eich datganiad heddiw ac yn enwedig y sôn am bolisïau fel y contract economaidd, Swyddi Gwell yn Nes Adref a'r economi sefydliadol. Mae pob un o'r rhain yn cynnig model gwahanol iawn ar gyfer datblygu economaidd a gallant wella amodau i weithwyr Cymru.
Hoffwn adeiladu ar y sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies am yr angen am newid diwylliannol, ac ymddengys i mi mai un o'r newidiadau diwylliannol allweddol y mae arnom ni eu hangen er mwyn gwneud i'r bartneriaeth gymdeithasol hon weithio mewn gwirionedd yw cael mwy o weithwyr o Gymru i ymuno ag undebau llafur, a dywedaf hynny fel aelod balch iawn o ddau undeb rhagorol, y GMB ac USDAW. O edrych ar rai ystadegau, gallaf weld bod ychydig dros 30 y cant o weithwyr Cymru yn aelodau o undebau llafur ar hyn o bryd, a oedd yn ymddangos yn eithaf isel i mi ond mewn gwirionedd mae'n fwy na'r DU gyfan ac eithrio Gogledd Iwerddon, ac yn 2018 gwelwyd un o'r ymchwyddiadau mwyaf yng ngweithlu undebol Cymru, sy'n amlwg yn newyddion da. Ond yr hyn yr hoffwn i ei ofyn yw beth arall gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog aelodaeth o undebau llafur.
Croesawaf hefyd eich cyfeiriad at gamau pellach i greu swyddfa ar gyfer gwaith teg, a byddai o ddiddordeb imi wybod pa fath o systemau fydd ar waith i'w alluogi i ysgogi newid ac i fynd i'r afael ag arferion gwaith annheg.
Fel Aelodau Cynulliad eraill, derbyniais gopi o gerdyn sgorio archfarchnadoedd Oxfam yn ddiweddar, sy'n gwerthuso sut mae archfarchnadoedd yn mynd ati i roi terfyn ar ddioddefaint pobl yn eu cadwyni cyflenwi byd-eang. Gan fod eich datganiad yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag arferion gwaith sy'n camfanteisio, sut gellir cynnwys y pryderon ehangach hyn yn ein polisïau partneriaeth gymdeithasol er mwyn adlewyrchu ein rhwymedigaethau rhyngwladol? Yn olaf, ni chlywais sôn am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eich datganiad, felly hoffwn ofyn sut fydd honno'n rhan o flaenoriaethau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ynglŷn â phartneriaethau cymdeithasol.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae hi'n aelod o'r undeb llafur sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig os yw'n aelod o USDAW. Ac mae hynny'n bwysig iawn, onid yw, oherwydd rydym ni wedi arfer yng Nghymru cael dwyseddau uchel o aelodaeth o undebau llafur mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mewn lleoliadau sector cyhoeddus, ond mae USDAW yn undeb llafur sy'n gweithredu yn y sector y soniodd hi amdano, yn y sector adwerthu, mewn siopau lle'r oedd adroddiad Oxfam yn canolbwyntio arnyn nhw. Rwyf wedi bod yn falch iawn, fel llawer o bobl eraill yma, i fod yn rhan o ymgyrchoedd y mae USDAW wedi'u cynnal, yn lleol mewn etholaethau ac yn genedlaethol, ac mae wedi llwyddo i fod yn undeb llafur sy'n tyfu oherwydd mae'n gweithredu mewn ffordd newydd. Mae'n dibynnu ar ddarbwyllo pobl ynghylch y manteision uniongyrchol a ddaw yn sgil aelodaeth o undeb llafur, ac yna'r manteision cyfunol a gânt o gydweithio. Rwy'n gwybod fod rhai gwersi pwysig ar gyfer y mudiad undebau llafur ehangach, y mae'r TUC yn genedlaethol wedi bod yn awyddus i elwa arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ni, fel Llywodraeth ac unigolion, gefnogi'r ymdrech honno.
Rwy'n gwybod y bydd llawer o'm cyd-Aelodau yma wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch gweithwyr ifanc, sy'n cael ei rhedeg gan Unsain, a oedd yma yn y Cynulliad wythnos neu ddwy yn ôl, ac sy'n ceisio gwneud yr un peth ar gyfer gweithwyr newydd—pobl ifanc sy'n dechrau gweithio mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus—ac eto i egluro wrthyn nhw ac i'w cyflwyno i fanteision ymaelodi ag undeb.
O ran y gyfarwyddiaeth yr ydym ni'n ei sefydlu, roeddwn yn awyddus y dylai fod yn swyddfa'r Prif Weinidog am y rhesymau a amlinellais yn gynharach, sef y dylai fod ganddi ddigon o awdurdod y tu ôl iddi, ond y dylai weithredu hefyd â nifer sylweddol o weithwyr ar secondiad sy'n trosglwyddo i'r gwaith yn uniongyrchol o fudiad yr undebau llafur ac yn uniongyrchol o gyflogwyr hefyd. Os mai cyfarwyddiaeth ynghylch partneriaeth gymdeithasol yw hon, mae angen iddi weithredu ar sail partneriaeth gymdeithasol, ac mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n rhan o hynny, ond mae hefyd yn golygu cael cyfranogiad uniongyrchol gan bobl o'r byd ehangach hwnnw. Rydym ni eisoes yn siarad â TUC Cymru a sefydliadau cyflogwyr am y ffordd y maen nhw'n dod o hyd i'r bobl briodol i ddod i weithio gyda ni ar yr agenda hon.
Ac, yn olaf, Dirprwy Lywydd, ni soniais am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y datganiad ei hun, ond fe wnes i sôn am sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn cydweddu â'r tirlun deddfwriaethol ehangach. Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol oedd gennyf dan sylw, ac roedd gennyf hynny mewn golwg yn y modd y bu imi ymateb i Alun Davies—mai wrth wraidd y Ddeddf, yn un o'i saith nod, mae creu Cymru fwy cyfartal. Dyna'r uchelgais sy'n gyrru partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru ac sy'n sbarduno ein huchelgais i ddod â Bil gerbron i'w ystyried gan y Cynulliad hwn.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog.