Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau hynny. Ceisiais yn fy natganiad ymdrin â llawer agwedd, a cheisiais sicrhau fy mod yn rhoi sylw priodol i'r cyfraniad y mae busnesau, yn gyflogwyr y sector cyhoeddus a chyflogwyr y sector preifat, wedi'i wneud i ddatblygiad partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Roedd hi'n braf iawn gweld y croeso a roddodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, a'm barn i yw bod busnesau'n bartneriaid cydradd o gwmpas y bwrdd hwnnw. Ac maen nhw'n bartneriaid cydradd â'r Llywodraeth hefyd. Nid wyf yn gweld Llywodraeth fel hwylusydd yn y ffordd yr awgrymodd Mark Reckless; mae'r Llywodraeth yn bartner mewn trefniant teirochrog. Mae'r Llywodraeth yn rhan, mae undebau llafur yn rhan, mae cyflogwyr yn rhan, a deuwn ynghyd â'n cyfrifoldebau gwahanol a'n galluoedd gwahanol i weithredu i ganolbwyntio ar broblemau yr ydym ni'n eu rhannu ymysg ein gilydd a lle gallwn ni, drwy ddal sylw gyda'n gilydd, gael gwell deilliannau.
Wrth gwrs, mae arnom ni eisiau mwy o adenillion ar y buddsoddiad a wneir gan drethdalwyr Cymru wrth adeiladu economi Cymru. Rydym ni'n awyddus iawn i ddal ati fel Llywodraeth i fuddsoddi yn economi Cymru, buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn seilwaith, buddsoddi mewn cynorthwyo busnesau unigol, lle mae achos i wneud hynny. Ond, yn gyfnewid, mae'n briodol, pan fydd y trethdalwr yng Nghymru yn gwneud y cyfraniad hwnnw, ei fod yn gallu dweud wrth y rhai sy'n elwa ar y cyfraniad hwnnw ein bod, er enghraifft, yn disgwyl iddyn nhw ddarparu cyfleusterau iechyd galwedigaethol priodol i bobl sy'n gweithio iddyn nhw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw fuddsoddi yn sgiliau parhaus y gweithlu hwnnw. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ymateb i'r gri a glywir yn aml yn y Siambr hon i sicrhau bod iechyd meddwl a lles pobl sy'n gweithio yn y sectorau hynny yn cael gofal hefyd. Mae'r rhain i gyd yn nwyddau cyhoeddus, mae'r rhain i gyd yn amcanion, rwy'n credu, y mae cefnogaeth eang iddyn nhw drwy'r Siambr, lle caiff arian cyhoeddus Cymru'n ei wario, credwn fod gennym ni'r hawl i ofyn iddo gyflawni'r agendâu ehangach hynny hefyd.
Pan na chaiff pethau eu cyflawni, a yw hynny'n golygu bod sefydliadau'n cael eu heithrio rhag gwneud cais am gontractau? Wel, mae'n dibynnu ar yr hyn sy'n mynd o'i le. Os na fydd cwmnïau'n gweithredu yn unol â'r gyfraith, drwy gosbrestru, er enghraifft, ni allant ddisgwyl y byddant yn cael contractau o bwrs y wlad. Pan fo cwmni'n gweithio'n galed i gyflawni agwedd ar gytundeb yr ydym ni wedi'i daro gyda nhw ond nad ydyn nhw wedi cyflawni hynny eto, er enghraifft, cael gwasanaeth iechyd galwedigaethol, wel, wrth gwrs, ni fyddai hynny'n eithrio cwmni rhag cymryd rhan na gwneud cais am gontract. Felly mae'n dibynnu ar natur y mater dan sylw.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei ddisgrifiad o ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb fel 'sosialaeth mewn un cymal'; mae'n fy annog i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno'r Ddeddf a'r Bil gerbron y Cynulliad. Rydym ni'n dal i weithio, i ateb cwestiwn penodol Mark Reckless, ynglŷn â'r ffordd orau i'w chychwyn. Efallai y bydd hynny'n digwydd drwy'r Bil, efallai y gallwn ni ei gwneud yn gyflymach, ond mae eich atgof o 'sosialaeth mewn un cymal' yn fy annog i'w chyflwyno gerbron y Cynulliad mor gyflym ag sy'n bosib.