4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Partneriaeth Gymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:05, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r datganiad wedi disgrifio llawer o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym Mlaenau Gwent, o gyflogau isel, gwaith ansicr i anawsterau y mae'r stryd fawr a chyflogwyr ac eraill yn eu hwynebu. Gobeithiaf mai'r hyn y gallwch chi ei wneud i fynd â hyn yn ei flaen yw mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi mewn gwaith sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Yn rhy aml o lawer gwelwn ddatganiadau i'r wasg o wahanol fannau yn dweud wrthym am y gwaith sy'n cael ei greu heb ddisgrifio beth yw'r gwaith hwnnw byth, a'r effaith y mae'n ei gael ar deuluoedd a'r economi ehangach. Felly, gobeithiaf y byddwn yn gallu defnyddio'r datganiad hwn a'r darn hwn o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â materion megis tlodi mewn gwaith.

Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, wrth geisio disgrifio'r atebion, y byddwn yn chwilio am atebion cydweithredol ac ar y cyd hefyd. Rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog Lee Waters wedi rhoi pwyslais mawr ar yr economi leoliadol a'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati i gydweithio i ymdrin â'r materion hyn yn ei waith, yn enwedig gyda thasglu'r Cymoedd. Rwy'n gefnogol iawn o hynny, ac rwy'n gobeithio felly y byddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth yma er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar y datrysiadau cydweithredol.

Prif Weinidog, byddwch hefyd yn ymwybodol bod Cytuniad Lisbon, wrth gwrs, yn cydnabod partneriaethau cymdeithasol yn yr Undeb Ewropeaidd, a defnyddiwyd hynny i hybu'r ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi sicrhau bod partneriaid cymdeithasol bob amser yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniad ar draws yr Undeb. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar Gytuniad Lisbon, ac yn edrych ar sut y gellir defnyddio hwnnw yn fodel ar gyfer cyflwyno partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru heddiw. Gobeithio hefyd, Prif Weinidog, y byddwn yn gallu edrych ar hyn o ran y gronfa ffyniant gyffredin, fel bod partneriaethau cymdeithasol honno'n rhan annatod o hynny. 

Prif Weinidog, gallwn wneud y newidiadau cyfreithiol a gallwn newid y fframwaith statudol, ond byddwch, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod newid gwirioneddol yn deillio o newid diwylliannol, a byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu sut yr ydych chi'n credu y gellir defnyddio'r newid statudol hwn—y newidiadau i sail gyfreithiol yr hyn a wnawn—i sbarduno newid diwylliannol drwy'n holl economi a'n sector cyhoeddus. 

Fy nghwestiwn olaf i chi yw hyn, Prif Weinidog: mewn llawer ffordd, yr hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yw ymagwedd sosialaidd, Llafur Cymru at globaleiddio ac effaith globaleiddio ar ein heconomïau lleol. Rydym ni wedi gweld o senoffobia Plaid Brexit ac eraill bod ymatebion gwahanol iawn i effaith globaleiddio ar bobl a chymunedau. Drwy ein partneriaeth ag undebau llafur a thrwy weithio gyda'n gilydd ar sail gydweithredol, gobeithiaf y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydych chi'n ei ddisgrifio, a diwygio radical drwy'r sector cyhoeddus i gyd.