5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:20, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Un o'r ffyrdd allweddol a fyddai'n ein galluogi ni i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yw i awdurdodau lleol fynd yn ôl i adeiladu tai cyngor yn gyflym ac ar raddfa fwy. Bydd codi'r terfyn benthyca, y mae hi'n hen bryd ei wneud, yn gatalydd pwysig ar gyfer hyn, fel y bydd gallu cael grant gan Lywodraeth Cymru, sef yr hyn y mae'r panel adolygu yn ei argymell. Pan fo'n briodol, rwyf yn barod i ddarparu grantiau i awdurdodau uchelgeisiol, i'w defnyddio ochr yn ochr â'r hyblygrwydd y mae codi'r terfyn benthyca yn ei greu. Yn amlwg, mae manylder y trefniant hwn yn rhywbeth y byddaf eisiau cytuno arno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae hwn yn gyfle enfawr i adeiladu mwy o dai fforddiadwy dros y degawd nesaf a thu hwnt. Gan weithio ar y cyd â phartneriaid i wneud y gorau o adnoddau cyfyngedig, rwyf eisiau gweld awdurdodau lleol yn manteisio ar y cyfle hwn.

Rwy'n derbyn barn y panel y dylid gwneud mwy i ddefnyddio'r tir sydd ar gael ar draws y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol ac yn gynt i gefnogi adeiladu tai. Cytunaf hefyd fod angen rhywfaint o adnoddau canolog i helpu awdurdodau lleol ac eraill yn y sector cyhoeddus i gyflwyno eu tir. Rwy'n derbyn yr egwyddor y dylai uned tir o ryw fath gefnogi'r defnydd mwy effeithiol o dir y sector cyhoeddus. Mae hwn yn fater y mae angen i'r sector cyhoeddus cyfan ei ystyried yn well. Mae angen i ni fod yn llawer mwy doeth yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio tir cyhoeddus i gefnogi ystod ehangach o amcanion yn hytrach na dim ond cael yr arian mwyaf amdano, ac rwyf eisiau gweld gwell cydweithio rhwng sefydliadau i helpu i gyflawni hyn. Ynghyd â'm cyd-Aelodau, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, mae hwn yn fater y bydd gennyf fwy i ddweud amdano dros y misoedd nesaf.

O ystyried mai prif gylch gwaith y panel oedd ein cynghori ar sut i adeiladu mwy o gartrefi heb adnoddau ychwanegol, byddai wedi bod yn hawdd iddyn nhw argymell newidiadau a fyddai'n peryglu'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl ar hyn o bryd ar gyfer cartrefi fforddiadwy sy'n derbyn cymhorthdal gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod bod yr ansawdd a'r gofod sydd ar gael mewn cartref yn elfen hanfodol o'r effaith gadarnhaol y mae cartrefi newydd yn ei chael. Roeddent hefyd yn cydnabod yr hyblygrwydd y mae hyn yn ei gynnig, pe bai anghenion rhywun yn newid yn y dyfodol. Rwy'n eu canmol am hyn ac yn derbyn yr angen i symleiddio safonau a'u hymestyn i eiddo adran 106. Ein nod yw sicrhau y dylai cartrefi a gyflenwir drwy'r farchnad fod o ansawdd cyfartal â'r rhai yr ydym ni yn eu hariannu, beth bynnag fo'r goblygiadau o ran elw datblygwyr.

Rwy'n derbyn yn llwyr yr angen i symud yn gyflym tuag at gartrefi di-garbon yn y sectorau fforddiadwy a'r farchnad arferol. Mae symud tuag at fod yn ddi-garbon yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon; mae angen inni gyflawni hyn cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn gweithio gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yng Nghymru i benderfynu a allwn ni gyflawni targed 2021 a gynigir yn yr adolygiad. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i gefnogi a datblygu dulliau newydd o ddarparu tai sy'n gwyro oddi wrth y dull traddodiadol o weithredu. Rwy'n falch iawn heddiw, mewn ymateb i'r adolygiad, o lansio ein strategaeth ar weithgynhyrchu oddi ar y safle, yr ydym ni wedi'i alw'n 'Ail-ddychmygu Tai Cymdeithasol yng Nghymru'. Bydd gweithgynhyrchu oddi ar y safle, dulliau modern o adeiladu, a gwneud mwy o ddefnydd o goed Cymru wrth wraidd ein cynlluniau di-garbon. Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o ddarparu'r modelau newydd hyn drwy ein rhaglen dai arloesol. Byddaf yn cyhoeddi cam nesaf y datblygiad hwn yn yr hydref.

Roedd yr adolygiad yn cydnabod yn briodol, o ystyried maint yr heriau yr ydym yn eu hwynebu, bod yn rhaid i ni graffu ar ein holl benderfyniadau ariannu a'u cyfiawnhau er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr adenillion mwyaf ar y buddsoddiadau a wnawn. Mae hyn yn cynnwys ein buddsoddiad mewn cartrefi sy'n bodoli eisoes. Telir y lwfans gwaddol ac atgyweiriadau mawr gwerth £108 miliwn yn flynyddol i gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr ac awdurdodau lleol sy'n cadw stoc. Rwy'n cytuno â'r panel adolygu, pan gaiff safon ansawdd tai Cymru ei fodloni yn 2020, ein blaenoriaeth yw ystyried sut y dylid defnyddio'r adnodd sylweddol hwn i gyflymu'r modd y caiff cartrefi sy'n bodoli eisoes eu datgarboneiddio. Wrth gwrs, dyma'r mater sy'n cael ei ystyried gan yr adolygiad ar wahân dan gadeiryddiaeth Chris Jofeh, yr wyf yn disgwyl argymhellion arno ar 18 Gorffennaf—dydd Iau nesaf. Hyd yn oed cyn cael yr adroddiad hwnnw, rwy'n glir bod hwn yn faes lle y mae angen inni wneud cynnydd ar frys. Credaf fod awdurdodau lleol a'r sefydliadau trosglwyddo stoc yn rhannu'r farn honno.

Yn hytrach na chomisiynu adolygiad arall ar y mater hwn nawr, a fyddai'n oedi'r broses o symud ymlaen, bwriadaf sicrhau cytundeb diwygiedig gyda'r sefydliadau hynny yn ystod y flwyddyn nesaf a fyddai'n berthnasol i'r buddsoddiad hwn unwaith y byddwn ni wedi cyflawni ein safon ansawdd tai Cymru presennol. Wrth gwrs, mae comisiynu adolygiad annibynnol yn rhywbeth y byddwn yn barod i ddychwelyd ato yn ddiweddarach, os na fyddwn yn dod i gytundeb sy'n cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio. Mae'r adolygiad a gynhaliwyd gan Lynn Pamment a'i thîm wedi gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol at y ffordd yr ydym ni'n llunio'r agenda tai ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sy'n glir o'r adolygiad, a'n hymateb iddo, yw nad yw'r drefn bresennol yn ddewis. Gall newid fod yn heriol ac yn anghyfforddus, ond mae newid yn hanfodol os ydym ni'n mynd i gynyddu nifer y cartrefi yr ydym ni'n gwybod sydd eu hangen arnom ni.

Nid y newidiadau yr wyf yn eu cynnig heddiw yw'r unig rai y mae angen inni eu gwneud er mwyn sicrhau cymunedau cynaliadwy. Gwn fod meysydd lle'r ydym ni'n anghytuno, ond credaf hefyd fod llawer mwy o feysydd sy'n ymwneud â thai lle mae consensws ar draws y Siambr hon. Gobeithio felly y byddwch yn croesawu fy ymateb i'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Rwy'n cydnabod yr angen am newid, a bod yn rhaid inni ymdrechu i gael mwy o'r adnoddau presennol, ond rhaid inni beidio â gwneud hyn ar draul y cartrefi o ansawdd da sydd eu hangen ar bobl, er mwyn inni adeiladu cymunedau y gallwn ni ymfalchïo ynddyn nhw. Mae hwn yn gyfle i newid y ffordd yr ydym ni'n darparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Mae gwir angen tai cymdeithasol yng Nghymru a dyma'r adeg i gynyddu cyflymder a maint y ddarpariaeth honno.