– Senedd Cymru am 5:06 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. A galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Llywydd. Heddiw, rwyf wedi lansio 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi fy nghynigion ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn nodi cynigion ac yn gofyn am safbwyntiau ar y cynllun ffermio cynaliadwy newydd a'r fframwaith polisi sy'n sail iddo. Mae hefyd yn nodi cynigion ar gyfer meysydd ehangach o gymorth i helpu'r cynllun i weithredu, gan gynnwys cyngor, cymorth a rheoleiddio yn y diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio ac yn egluro'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sut y bydd asesiadau effaith yn cael eu paratoi.
Y llynedd, cyhoeddwyd yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' gennym ni. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law a chynhaliwyd gwaith ymgysylltu helaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Rydym ni wedi ystyried yn ofalus y safbwyntiau a gafodd eu mynegi yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym ni wedi gwneud nifer o newidiadau i'n cynigion. Mae'r rhain yn cynnwys cydnabod yn benodol y rhyngweithio rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol. Mae hyn yn bwysig. Rydym ni'n cynnig cefnogi'n uniongyrchol gyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Mae newidiadau pwysig eraill sy'n ystyried y safbwyntiau a fynegir wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad.
Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisi, dim ond ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill sy'n gallu cyflawni newid gwirioneddol ar ein tir, ac mae angen i ni gefnogi eu hymdrechion. Rwy'n cynnig y dylai'r cymorth hwn gael ei gynllunio o amgylch egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma pam yr ydym ni wedi mabwysiadu rheoli tir yn gynaliadwy yn amcan polisi yn ein cynigion.
Fy uchelgais gyffredinol yw bod â ffermydd cynaliadwy yn cynhyrchu nwyddau economaidd ac amgylcheddol mewn system gyfannol sy'n gwella lles ffermwyr, cymunedau a holl bobl Cymru. Mae rheoli tir yn gynaliadwy yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Mae'n gosod cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ochr yn ochr â'r swyddogaeth y mae ein ffermwyr yn ei chyflawni wrth gynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol a'n cymunedau gwledig. Mae'n adlewyrchu pwysigrwydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae mabwysiadu'r amcan hwn yn gam pwysig tuag at weithredu er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Er mwyn hwyluso'r broses o gyflawni'r amcan polisi hwn, rwy'n cynnig un cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd un cynllun yn caniatáu i ni gefnogi ffermwyr i gynnig cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu i ganfod sefyllfaoedd pan fo pawb ar eu hennill—pethau sy'n dda ar gyfer cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. Mae'r cynllun yn cynnig talu ffermwyr am y canlyniadau amgylcheddol a'r canlyniadau eraill y maen nhw'n eu darparu na werthfawrogir gan y farchnad. Mae'n bosibl cynhyrchu'r canlyniadau hyn ar y cyd â chynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio arferion ffermio priodol. Er enghraifft, ar ffermydd, mae rheoli maetholion yn effeithiol a thargedu defnydd gwrtaith yn lleihau'r llygryddion sy'n gollwng i'n hawyr a'n cyrsiau dŵr, a bydd hynny'n gwella ansawdd yr aer a'r dŵr. Gallwn dalu am y canlyniadau amgylcheddol hyn. Byddai talu am ganlyniadau amgylcheddol a gyflwynir drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o fferm y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud â'r cynllun taliad sylfaenol presennol.
Bydd y taliadau hyn yn darparu llif incwm blynyddol ystyrlon a sefydlog i ffermwyr. Fodd bynnag, nid yw ffrwd incwm yn unig yn ddigon. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau, gan gynnwys meithrin gallu a sgiliau busnes, buddsoddiad cyfalaf i wella cynaliadwyedd a throsglwyddo gwybodaeth. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnal ac yn sicrhau y cyfraniad cymdeithasol pwysig y mae ffermwyr yn ei wneud i ffyniant cymunedau cefn gwlad drwy gadw ffermwyr ar y tir.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran ymateb i her y newid yn yr hinsawdd. Ar 29 Ebrill, fe wnes i ddatgan bod argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd ac nid yw ffermio yng Nghymru yn wahanol yn hynny o beth. Mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â chanlyniadau newid yn yr hinsawdd os ydym ni'n mynd i allu trosglwyddo ein diwydiant ffermio ffyniannus yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa unigryw i ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae priddoedd Cymru yn storio 410,000,000 tunnell o garbon. Mae angen inni gynnal y stoc hon a gweithio i'w datblygu ymhellach. Bwriad y cynigion yn yr ymgynghoriad yw gwobrwyo ffermwyr sy'n rheoli eu tir yn y ffordd bwysig hon.
Rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig yn y broses arfaethedig o gynllunio ar y cyd. Mae cynllunio ar y cyd yn gyfle i archwilio agweddau mwy ymarferol ar y cynllun arfaethedig. Bydd yn rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn realistig i ffermwyr ei weithredu. Bydd eu barn nhw ar yr agweddau hyn yn hollbwysig. Caiff yr ymatebion i'r ddogfen ymgynghori a'r rhaglen gynllunio ar y cyd eu hystyried yn ofalus. Yna byddwn ni'n pennu ac yn nodi'r camau nesaf pan fyddwn wedi gallu ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn llawn ac yng ngoleuni datblygiadau Brexit yn ystod y misoedd nesaf.
Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o eglurder ar lefel y cyllid amaethyddol a ddychwelir i Gymru ar ôl Brexit. Mae Gweinidogion Cymru yn glir na ddylai gadael yr UE olygu unrhyw leihad yn yr arian sy'n dychwelyd i Gymru. Pab gaiff yr arian ei ddychwelyd, byddwn yn sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at ffermio, coedwigaeth a chymorth arall i reoli tir, ac na chaiff ei wario mewn mannau eraill.
Mae gwneud y polisi rheoli tir newydd yn realiti ymarferol wrth i'r DU adael y polisi amaethyddol cyffredin yn cynnig her, ond mae'n her sy'n wirioneddol werth ei chyflawni. Rydym ni'n cyflawni'r broses ymgynghori a dylunio yn araf ac yn ofalus, ac yn cynnwys cynifer o ffermwyr a rhanddeiliaid ehangach ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym ni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth orau sydd ar gael i wireddu ein cynigion ar gyfer datblygu cynaliadwy ym maes amaethyddiaeth.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen ac fe wnaf i ei ailadrodd eto, rwy'n credu bod gennych chi un o'r cyfleoedd mwyaf cyffrous yn y Llywodraeth i lunio polisi sydd, yn hanesyddol, wedi cael ei lunio gryn bellter o'r glannau hyn yn ystod y 45 i 50 o flynyddoedd diwethaf. Ni waeth beth yw barn pobl am Brexit—ac rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o ddadleuon chwyrn wedi bod yn y Siambr hon—fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ymateb i fy nghwestiwn y prynhawn yma, am y tro cyntaf bydd yn bosibl i Weinidogion Llywodraeth Cymru gyfarwyddo'r gefnogaeth a'r polisi yn y maes penodol hwn a ledled yr economi wledig, ac mae hynny'n rhywbeth y dylid ei groesawu.
Rwyf i hefyd yn croesawu—. Af i at ddiwedd eich datganiad, os caf i, lle y byddaf i'n dechrau. Rwy'n croesawu'r honiad gennych—a gallaf werthfawrogi'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn mwmian ar ei heistedd, gan gynnig sylwebaeth yn ôl ei dymuniad—ond rwy'n nodi yn y datganiad eich bod yn rhoi sicrwydd y bydd unrhyw arian a ddaw yn aros yn yr adran materion gwledig ac yn cael ei gyfeirio at goedwigaeth, amaethyddiaeth a mentrau eraill i gefnogi'r economi wledig. Rwy'n credu bod hynny'n honiad pwysig iawn i'w wneud yma oherwydd y bu pryderon y gallai peth o'r arian hwn, o bosibl, fynd at brosiectau eraill, ac rwy'n gwerthfawrogi, nid gan fainc y Llywodraeth, ond yn sicr gan sylwebyddion eraill yn y maes penodol hwn. Felly, rwy'n credu bod yr honiad hwnnw a roddwyd yn un pwysig iawn.
Ond wedyn, symudaf ymlaen at y datganiad lle mae'n dweud bod angen i'r broses o gyflawni unrhyw un o'r polisïau hyn fod yn 'realistig i ffermwyr eu gweithredu'. Rwy'n sylwi nad yw'r datganiad yn sôn am yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y dogfennau esboniadol am gynlluniau pwrpasol ar gyfer pob fferm unigol. Tybed sut, yn logistaidd, yr ydych chi'n mynd i allu cyflawni hynny. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant: mae wedi'i nodi yng nghofrestr buddiannau'r Aelodau fy mod i'n ffermwr fy hun ac mae gen i rywfaint o brofiad o'r cynllun Tir Gofal a'r cynllun Glastir. Mae'r mathau hyn o gynlluniau yn gymhleth iawn, yn cymryd llawer iawn o amser i'w datblygu, ac mae'r ymarferion mapio a'r holl ddarnau eraill o wybodaeth y mae'n rhaid eu casglu er mwyn creu'r cynllun personol iawn hwnnw ar gyfer y busnes penodol hwnnw yn cymryd llawer o amser ac yn fiwrocrataidd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi amlygu yn eich ymateb i mi sut yr ydych chi'n gweld hynny'n cael ei roi ar waith yn (a) yr amserlen sydd gennych chi, a (b) yn y ffordd bwrpasol iawn yr ydych yn cyfeirio ati yn y dogfennau esboniadol yr ydych chi wedi'u cyhoeddi gyda'r datganiad hwn heddiw. Oherwydd, yn amlwg, mae hwnnw'n ymarfer enfawr y mae angen ei gyflawni.
Gan symud ymlaen at yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud nawr drwy ddod â'r ddwy ffrwd a gynigiwyd gennych chi'n wreiddiol yn 'Brexit a'n tir' a'u newid i fod yn un ffrwd o gymorth. Yn amlwg, yr hyn sydd wedi digwydd yn hanesyddol o dan y polisi amaethyddol cyffredin yw eich bod chi wedi bod â'r gefnogaeth uniongyrchol i amaethyddiaeth ac rydych chi wedi bod â'r cynllun datblygu gwledig—dwy ffrwd ar wahân. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall—oherwydd yr ydych chi'n sôn yn fras amdano yn eich datganiad am ddatblygu gallu ar gyfer sgiliau, datblygu modelau busnes eraill i gefnogi'r economi wledig—os na ragwelir y bydd prosiect tebyg i'r cynllun datblygu gwledig, sut yn union ydych chi'n mynd i sicrhau bod arian ar gael mewn prosiect sy'n addas i bawb, a allai, eto, gael ei symleiddio ar y naill law ond ar y llaw arall a allai fod yn hynod gymhleth hefyd os yw'n ceisio cael ei gynnal gan un cynllun trosfwaol? Rwy'n credu y byddem yn gwerthfawrogi esboniad manylach o'r modd y gallai hynny ddigwydd.
Rwyf i wir yn croesawu'r pwyslais ar fwyd a chynhyrchu bwyd o safon. Mae gennym ni stori dda i'w hadrodd yma yng Nghymru ac, yn amlwg, nid oedd yr ymgynghoriad gwreiddiol wedi treulio llawer o amser yn sôn am gynhyrchiant posibl y diwydiant. Rwy'n credu bod hynny'n newid cywair i'w groesawu sydd wedi'i gyflwyno.
Yr hyn yr ydym ni wedi'i ganfod ym mhwyllgor yr amgylchedd yw perygl neu amlygiad i niwed y sector tenantiaid, ac rwy'n credu bod angen i unrhyw gynllun a gyflwynir adlewyrchu'r sector tenantiaid yma yng Nghymru yn glir. Mae traean o dir Cymru o dan y drefn denantiaid, ac mae'n bwysig mai'r person sy'n darparu'r nwyddau cyhoeddus sy'n cael yr arian hwnnw, byddwn i'n ei awgrymu. Ceir llawer o syrfewyr clyfar a llawer o asiantau clyfar a fydd, mae'n siŵr, yn dod o hyd i un ffordd neu'r llall o ddatblygu cynllun yn seiliedig ar hyn. Ond gobeithiaf y gall y Gweinidog roi rhywfaint o gysur inni wrth ffurfio ei chynlluniau bod ei hadran a'i swyddogion yn ystyried sicrhau mai'r egwyddor yw mai'r sawl sy'n darparu'r elfen nwyddau cyhoeddus fydd yn derbyn y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r asesiad modelu ac effaith yr ydych yn sôn amdano yma i'w groesawu, ond byddai'n dda ceisio deall yr amserlen yr ydych chi'n gweithio iddi, o ystyried yr amserlen dynn iawn rydyn ni'n sôn amdani. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, ychydig iawn o fodelu, os o gwbl, a wnaed ar lawer o'r cynigion hyn, a gwn i eto, os cyfeiriaf at fy mhrofiad ar bwyllgor yr amgylchedd sydd wedi ystyried hyn, bod hwnnw wedi bod yn destun pryder yr ydym ni wedi'i ystyried.
Ar ddechrau'r datganiad, rydych chi'n sôn am gyfraniad ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill. Byddwn i'n ddiolchgar o gael deall at bwy yr ydych chi'n cyfeirio wrth sôn am 'reolwyr tir eraill' oherwydd maen nhw yn y pen draw yn mynd i fod yn gymwys, rwy'n tybio, i gael cefnogaeth o dan hyn. Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 neu 17,000 o dderbynyddion o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Os na chawn ni feini prawf cymhwysedd yn y cynllun hwn, mae tystiolaeth yr ydym ni wedi'i chymryd yn awgrymu y gallech chi fod â chymaint â 40,000 i 45,000 o dderbynyddion o dan y cynllun. Yn logistaidd, mae hynny'n mynd i fod yn ymarfer rheoli enfawr, dim ond cyflwyno'r holl dderbynyddion newydd hynny. Ond hefyd, bydd pa bynnag gwantwm o arian a fydd ar gael yn cael ei daenu'n llawer teneuach ac efallai na fydd yn cyflawni'r nodau, yr amcanion a'r dyheadau yr ydych chi'n ceisio eu cyflawni.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y daith hon fel taith bositif a all, yn y pen draw, leihau a datrys rhai o'r problemau sydd wedi bod gennym o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Os caiff ei weithredu'n gywir—ac, fel y dywedais i, mae'r cywair wedi newid yn y datganiad hwn, er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynhyrchu bwyd, cynhyrchiant a sgiliau, a'r swyddogaeth hanfodol sydd gan amaethyddiaeth a ffermwyr wrth ddatblygu'r economi wledig—yna, fe allwn ni gael canlyniad llwyddiannus. Ac rwy'n croesawu'r newid yng nghywair y datganiad a'r nodiadau cysylltiedig sy'n cyd-fynd ag ef.
Diolch, Andrew R.T. Davies, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch bod y cywair yn newid i'w groesawu. Fe wnes i hyn yn glir iawn y llynedd, pan aethom ni i ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir', ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac y byddem ni'n gwrando. Daeth dros 12,000 o ymatebion i law—nid oedd pob un yn ymateb unigol, ond rwy'n sicr wedi darllen llawer o'r ymatebion unigol a ddaeth i law—ac roedd cynhyrchu bwyd yn rhywbeth a oedd yn amlwg ac y dylid bod pwyslais ar gynhyrchu bwyd. Roedd bwyd yn rhan o'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'; nid wyf yn credu bod 'Health and harmony' yn ei gynnwys o gwbl. Ac wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r hyn sy'n wahanol iawn yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n tir' yw'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd a chanlyniadau amgylcheddol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn bod hynny yno.
Rydych chi'n iawn, mae'n adeg gyffrous i allu bod â pholisi amaethyddol i Gymru. Fel y gwyddoch chi, roeddwn i'n teimlo'n angerddol dros aros, felly er bod hwn yn gyfle, byddai'n well gen i beidio â gorfod gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn glir iawn bod unrhyw gyllid sy'n dod gan Lywodraeth y DU—. Ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw gadw eu haddewid na fyddem ni'n colli ceiniog. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n cael tua €330 miliwn sy'n glanio yn fy nghyllideb ac sy'n mynd yn uniongyrchol at ffermwyr a rheolwyr tir o fewn y polisi amaethyddol cyffredin. Felly, er imi eich clywed chi'n cyfeirio at yr hyn a ddywedodd gan Joyce Watson—. Ac mae hi'n gwneud pwynt da iawn, iawn: nid yw neilltuo dim byd yn rhoi rhyw lawer i chi. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n cael rhywfaint o eglurder. Rwyf newydd lofnodi llythyr i'r Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn DEFRA—wyddoch chi, rydym ni'n ceisio cael eglurder ynghylch lefel y cyllid. Fel y gwyddoch chi, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy nghymheiriaid yn y DU, ac rydym ni wedi gofyn i Weinidog o'r Trysorlys fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny i gael rhywfaint o wybodaeth am yr arian yr ydym ni'n mynd i'w gael. Yn anffodus, hyd yma, ar wahân i un sgwrs ar y ffôn, nid ydym ni wedi gallu gwneud hynny.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynlluniau pwrpasol ac rwy'n derbyn yn llwyr eich gwybodaeth chi o'r hyn y mae'n rhaid i chi ei gyflawni i fod yn rhan o'r cynlluniau hynny, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ei gwneud hi mor syml â phosibl. Credaf mai un o'r rhesymau pam y pleidleisiodd gymaint o ffermwyr dros adael yr Undeb Ewropeaidd—yr hyn y maen nhw'n yn ei ddweud wrthyf i yw mai'r fiwrocratiaeth a oedd yn ymwneud â'r PAC oedd y rheswm. Ac rwyf i wedi dweud sawl gwaith os byddwn ni'n ei wneud yn fwy cymhleth, byddwn ni wedi methu; mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n gwneud hynny. Felly, nid oes unrhyw beth wedi'i benderfynu o ran â hynny. Mae'r ymgynghoriad a'r cynigion a fydd yn cael eu cynllunio ar y cyd a'r broses y byddwn ni'n ei dilyn, gan gyd-gynllunio'r cynllun gyda ffermwyr, oherwydd gyda nhw y bydd yn rhaid i ni weithio—bydd yn caniatáu inni gynllunio cynllun a fydd wedi cael ei symleiddio ar gyfer y cyfranogwyr. Rwyf i eisiau sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn ymarferol ac y bydd modd eu cyflawni. Felly, mae'n uchelgeisiol, ac rwy'n credu y dylem ni fod yn uchelgeisiol, ond rwyf hefyd o'r farn bod yn rhaid i ni fod yn bragmatig.
Rydym ni'n bwriadu i bob ffermwr allu rhoi camau gweithredu ar waith i sicrhau canlyniadau sy'n briodol i'w ffermydd, ac mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r cynlluniau pwrpasol hynny, oherwydd nid yw'r un peth yn addas i bawb. Hyd y gwelaf i, mae pob fferm yn wahanol. Mae pob fferm yr wyf wedi'i hymweld â hi yn sicr yn wahanol, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. A bydd yr adolygiad o gynaliadwyedd ffermydd yn rhoi cyfle i'r cynghorydd a'r ffermwr gydweithio i benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol ar bob fferm. Gofynnwyd i mi, yn sicr gan y cyfryngau, sut yr oeddwn i'n rhagweld y byddai gennym ni ddigon o bobl i fynd i ymweld â phob fferm yng Nghymru. Ac yn amlwg, mae gennym ni Taliadau Gwledig Cymru, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yng nghyswllt taliadau a gweithio gyda ffermwyr, felly mae gennym rywbeth i'w ddatblygu. Felly, er fy mod i o'r farn ei fod yn uchelgeisiol, rwyf hefyd o'r farn ei fod yn gyraeddadwy ac y bydd y cynllun yn caniatáu i ni ddatblygu contractau syml wedi'u teilwra i'r ffermwr unigol a'i anghenion busnes. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ei bod yn angenrheidiol mai'r ffermwyr gweithredol sy'n cael eu gwobrwyo, ac yn amlwg, os ydym ni eisiau cael y canlyniadau amgylcheddol hyn, bydd bod â chynaliadwyedd fel sail sylfaenol i'r cynllun hwn, yn fy marn i, yn sicrhau hynny.
O ran y ffermwyr tenant, rwy'n credu bod y ffermwyr sy'n denantiaid yn grŵp penodol yr wyf i'n awyddus i wneud rhagor drosto. Credaf ei bod weithiau'n anodd iawn iddyn nhw allu gwneud yr hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud. Rwyf i yn sicr wedi gweithio gyda llawer o ffermwyr tenant a'r Gymdeithas Ffermwyr Tenant i sicrhau bod hynny'n digwydd. Yn amlwg, rydym ni'n ymgynghori ar hyn o bryd, felly bydd yr ymgynghori'n cyfrannu at hyn. O ran asesiadau effaith, unwaith eto, bydd yn broses barhaus wrth i'r cynigion gael eu llunio. Ni allwn ni wneud asesiadau effaith llawn nes y byddwn ni'n gwybod beth yw'r gyllideb, felly dyna un rheswm pam yr wyf i'n ceisio eglurder ynghylch y cyllidebau, ond bydd yna nifer o asesiadau effaith. Mae'n amlwg y bydd yna un ar y Gymraeg, fe fydd un ar ddiogelu cefn gwlad ac fe fydd rhai ar les economaidd. A byddwn ni hefyd yn ystyried yr effaith ar ein hadnoddau naturiol, ac mae hynny'n cynnwys bioamrywiaeth a threftadaeth.
Gaf i, ar y dechrau, gydnabod a diolch i'r Gweinidog bod y datganiad yma yn digwydd heddiw? Oherwydd, wrth gwrs, doedd hi ddim yn fwriad gan y Llywodraeth i wneud datganiad llafar yn ôl y datganiad busnes a gafodd ei gyhoeddi. Ond mi wnes i ofyn—gofynnwch a chwi a gewch—a dwi yn ddiolchgar ichi fod y datganiad yma yn digwydd, oherwydd, wrth gwrs, dyma yw un o'r materion mwyaf allweddol y mae'r Llywodraeth yma yn eu hwynebu ac yn eu cynnig o safbwynt dyfodol y sector amaethyddol a rheolaeth tir.
Mae yna newid tôn, ond does yna ddim newid cyfeiriad o safbwynt ble mae'r Llywodraeth yn mynd ar hyn. Dwi'n dal i rannu consérn y sector na fydd o leiaf elfen o daliad sylfaenol ar gael i ffermwyr Cymru, yn yr un modd ag y bydd yna i brif gystadleuwyr Cymru yn Ewrop, yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn blaen. Dwi wedi gwneud y pwynt yma sawl gwaith. Mae angen sicrwydd, mae angen sefydlogrwydd ar y cyfnod pan rydym ni yn wynebu rhai o'r heriau mwyaf wynebodd y sector am genedlaethau yn sgil Brexit, a dwi'n teimlo y byddai edrych i fabwysiadu dynesiad rhywle fel yr Alban yn llawer gwell ar y foment yma. Ond dyna ni. Mi wnawn ni ymateb i'r hyn ŷch chi wedi ei gyhoeddi, ac mi edrychaf i ymlaen at fod yn rhan o'r broses honno, gorau y medraf i.
Felly, mae newid yn y naws, yma, yn sicr ond yn y bôn does dim newid cyfeiriad. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod y Llywodraeth wedi cael ei gwthio i sefyllfa fwy cymodlon yn dilyn yr ymateb i ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Mae'n dda gweld cyfeiriadau at gydweithio a chyd-gynllunio yn eich cyhoeddiad diweddaraf, ond mae'n anffodus, efallai, nad oedd y pwyslais yno o'r diwrnod cyntaf un. Mae hefyd yn braf eich gweld chi'n canolbwyntio nawr ar wobrwyo ffermwyr gweithgar, fel yr ydym wedi ei glywed eisoes, ac y bydd y cynllun hwn ar gael i ffermwyr tenant. Mae hefyd yn braf gweld cyfeiriadau cadarnhaol at y cap ar daliadau a thapro taliadau hefyd, a chydnabod, wrth gwrs, arbedion maint a fyddai, gobeithio, o fudd i ffermydd llai yng Nghymru.
Nawr, pwysais arnoch chi ddwy neu dair wythnos yn ôl i ddweud sut yr oeddech chi'n credu y gallech chi gyflwyno cynigion mor bellgyrhaeddol heb unrhyw syniad o ran yr hyn y bydd Brexit yn ei roi i ni a beth fydd yr amgylchedd ar ôl Brexit o ran ein cysylltiadau masnachu—nid yn unig gyda marchnadoedd rhyngwladol ond, wrth gwrs, o fewn y DU, o bosibl, hefyd—mynediad i farchnadoedd, a ydym yn ddibynnol ar dariffau ac, wrth gwrs, faint o arian fydd ar gael i ni. Rwy'n credu ei bod yn eironig iawn bod eich ymgynghoriad yn gorffen ddiwrnod cyn Brexit, sef y diwrnod y bydd popeth yn newid, o bosibl. Dydw i ddim eisiau awgrymu ein bod ni'n gwastraffu ein hamser yma, ond os yw'r amodau'n newid, yna os ydych chi wedi ymgynghori ar gyfres benodol o gynigion, efallai bod angen i ni ailedrych ar rywfaint o'r rheiny.
Felly, mae'n dda eich bod chi wedi ystyried hynny i raddau yma, oherwydd, oherwydd, fel yr ydych yn ei ddweud, dydych chi ddim yn ymgynghori ar amserlen benodol, oherwydd eich bod chi eisiau gweld beth fydd yn digwydd o ran Brexit. Dydych chi ddim yn ymgynghori o ran trefniadau pontio, oherwydd, yn amlwg, mae angen ichi ddeall yr hyn sy'n digwydd gyda Brexit ac, yn arbennig, o ran lefel y taliadau a allai fod ar gael, oherwydd, yn amlwg, mae angen ichi weld pa fath o gyllid sydd ar gael ar ôl Brexit. Hynny yw, os yw'n berthnasol i'r rheiny i gyd, yna siawns nad yw'n berthnasol i gwmpas ehangach yr ymgynghoriad hwn, hefyd.
Gwnaethoch chi sôn yn gynharach am y modelu a'r asesiadau effaith y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cynnal. A allwch chi gadarnhau a oes rhywfaint o'r gwaith hwnnw'n mynd i ddechrau cyn Brexit? Oherwydd os bydd, yna, unwaith eto, mae'r holl beth yn newid a gallai'r amgylchiadau fod yn gwbl wahanol ar ôl Brexit, yn enwedig yn yr ystyr economaidd y cyfeirioch chi ato yn eich ymateb blaenorol. Felly, does bosib na fyddai ymarfer modelu mwy ystyrlon yn ystyried sut y saif pethau ar ôl Brexit o ran yr economi a ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar ddyfodol y sector yma.
Nawr, rwy'n pryderu, ac rwy'n rhannu'r pryderon sydd wedi eu mynegi ynglŷn â gallu'r Llywodraeth i gyflawni'r cynigion hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cydnabod hynny, er nad wyf yn gwybod sut yn union yr ydych chi'n mynd i'r afael â hynny. Mae ymweld â phob fferm, i drafod, i gytuno a chyflawni contractau cynlluniau cymhleth yn mynd i gymryd llawer o adnoddau. Felly, rwyf eisiau deall o ble y daw'r adnodd hwnnw, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud eich hun yr wythnos ddiwethaf nad oes syniad gennych chi o ran faint o gyllid y byddwch yn ei gael, os byddwch chi'n cael unrhyw arian o gwbl, hyd yn oed. Rwy'n credu bod Boris Johnson wedi ychwanegu at y pryder hwnnw'n ddiweddar pan ddywedodd ei fod yn credu y gallai o bosib wario rhywfaint ohono ei hun. Felly, mae cwestiynau mawr iawn ac mae'n ymddangos eich bod chi'n dal yn benderfynol o dorri'r gŵys hon.
Nawr, mae'r datganiad yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw yn ymrwymo nad yw'r cyllid sy'n dychwelyd i Gymru yn cael ei wario mewn mannau eraill, ac rwy'n credu ei fod yn ddatganiad cadarnhaol, yn amlwg. Ond rwy'n awyddus i wybod—os bydd diffyg arian, yna a wnewch chi addo heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y diffyg hwnnw? Rwy'n gofyn oherwydd gwnaeth y Llywodraeth hynny yr wythnos ddiwethaf, o ran cost pensiynau'r sector cyhoeddus, pan oedd Llywodraeth y DU yn ddiffygiol o ran yr hyn a ddarparwyd ganddi, a daeth yr arian o gronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru. Felly, byddai diddordeb gennyf wybod a fyddai'r egwyddor honno yr un peth ar gyfer ffermwyr Cymru hefyd.
Un pwynt arall hefyd—mae'n rhywbeth a godais yn eich datganiad blaenorol heddiw, ac mae'n egwyddor y gwnaethoch chi ei derbyn—a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi pa ganran o ymatebion i'r ymgynghoriad arfaethedig hwn a ddaw o Gymru, fel y gallwn ni fod yn glir mai dyma'r farn a gaiff ei mynegi gan bobl Cymru, ac nid eraill sydd o bosib yn dymuno dylanwadu ar y broses hon.
Diolch, Llyr. Mae'n rhaid imi anghytuno â chi ar un neu ddau o bwyntiau. Rydych chi'n dweud fy mod i wedi cael fy ngwthio i newid cyfeiriad neu newid naws. Os cawn ni ymgynghoriad, unrhyw ymgynghoriad yr wyf i erioed wedi ei gynnal yn Weinidog ym mha bynnag bortffolio—mae'n rhaid iddo fod yn ystyrlon. Petawn i ddim yn gwrando, byddech chi'n cwyno. Os ydw i'n gwrando, rydych chi'n dweud fy mod i wedi fy ngwthio i wneud hynny. Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. [Torri ar draws.] Wel, 'newid naws' yw'r ymadrodd a ddefnyddioch chi rwy'n credu, ac rwy'n ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyrlon hefyd. Mae'n 16 o wythnosau: unwaith eto, ymgynghoriad hir dros yr haf.
Gwnaethoch chi hefyd gwyno, rwy'n credu, am yr amserlen a'r ffaith ei bod yn gorffen ar 30 Hydref. I'r Aelodau hynny a oedd yn y Siambr pan oeddech chi'n credu fy mod i'n bwriadu gohirio'r ymgynghoriad hwn am bythefnos, byddan nhw wedi clywed eich dicter bryd hynny. Felly, unwaith eto, ni allwch ei chael hi bob ffordd. Ni allwn eistedd yn ôl ac aros i Brexit ddigwydd o'n cwmpas. Ym mha bynnag ffurf—os, yn wir, fel yr ydych yn ei ddweud, y byddwn yn gadael—mae'n rhaid inni fod yn barod. Felly, dyma'r rheswm pam—. Ymrwymais i fynd allan i ymgynghori o bosib yr adeg hon rai misoedd yn ôl, ac rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i wneud hyn.
Ynglŷn â rhai o'ch pwyntiau penodol, unwaith eto, mater arall nad wyf i wir yn ei ddeall yw ynghylch y cynllun y taliad sylfaenol. Rydym yn derbyn nad yw wedi amddiffyn ffermwyr yn y modd—.Nid oes rhaid ichi edrych ond ar yr ansefydlogrwydd, er enghraifft, a'r tywydd y llynedd, pan gawsom ni sychder. Yn sicr, ni fyddai cynllun y taliad sylfaenol yn ein helpu ni gyda'r argyfwng hinsawdd, ac rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig yr ydych chi i weithio tuag at wrthdroi'r difrod sydd wedi'i wneud i'n hinsawdd. Felly, rwy'n synnu braidd eich bod chi'n ymagweddu yn y fath fodd o gwmpas cynllun y taliad sylfaenol.
Yr hyn y bydd y cynllun hwn yn ei gynnig yw incwm sefydlog—incwm sefydlog am fwy na blwyddyn. Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddem ni'n dechrau edrych ar yr asesiadau effaith cyn 30 Hydref. Rwy'n credu bod angen inni gymryd ein hamser i wneud hyn, felly yn fwy na thebyg, na fyddwn. Fodd bynnag, yr hyn y byddaf yn dechrau ei wneud cyn 30 Hydref yw edrych ar y cyd-gynllunio a sut y bydd y cyd-gynllunio'n datblygu. Y llynedd, efallai eich bod chi'n cofio—ac efallai yr aethoch chi i un eich hun—gweithiodd swyddogion yn agos iawn gyda ffermwyr, ond roedd yn fwy o sesiwn holi ac ateb. Bydd yn wahanol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Mae'n mynd i ymwneud yn fwy o lawer â gweithdai ac efallai y bydd swyddogion yn ymweld â ffermydd ac yn gweithio gyda ffermwyr. Mae'n rhaid i'r ffermwyr gydweithio â'r cynlluniau hyn ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod ar y blaen pan fyddwn yn cydlunio. Felly, mae cydlunio yn air gwahanol, mae'n debyg, fel yr ydych chi'n ei ddweud, yn yr ymgynghoriad hwn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny.
Mae capasiti yn destun pryder; nid wyf yn cymryd arnaf nad yw'n destun pryder. Fodd bynnag, rwyf wedi cael sicrwydd y byddwn yn gallu gwneud hyn. Bydd yn cymryd amser, ond rwy'n credu bod gennym ychydig—. Un peth y mae ansicrwydd Brexit wedi'i wneud yw rhoi ychydig mwy o amser i ni, ac rwy'n benderfynol o beidio â brysio. Ni fydd pob ffermwr eisiau bod yn rhan o'r cynllun hwn, fel nad yw pob ffermwr yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol nawr. Hoffwn i bob ffermwr gael ymweliad beth bynnag, ond dydw i ddim yn siŵr y bydd ffermwyr eisiau hynny. Ond mae hi mor braf ymweld â ffermydd a gweld faint o ganlyniadau amgylcheddol maen nhw'n eu cynhyrchu'n barod nad ydyn nhw'n cael tâl amdanyn nhw. Roeddwn ar fferm ddoe, lle y dywedodd y ffermwr wrthyf yn falch iawn fod y cae yr oeddwn yn sefyll ynddo—ei fod wedi cael asesiad arno, a bod rhwng 90 a 100 o dunelli o garbon wedi'u storio fesul hectar ar ei fferm. Nid yw'n cael ei dalu am hynny ar hyn o bryd, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnig tâl am hynny.
Yn sicr, ni allaf ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn llenwi unrhyw fwlch o ran cyllid. Yr hyn y byddaf yn ymrwymo iddo yw parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn colli ceiniog, fel yr addawyd inni, petaem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n fodlon iawn i edrych ar y ganran honno o ymatebion, oherwydd rwy'n credu y byddai hwn yn ymgynghoriad diddorol iawn i gael golwg arno.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, ac yn amlwg ni fyddaf yn cytuno â phopeth y mae pawb wedi'i ddweud, ond rwyf yn cytuno â'ch datganiad. Rwy'n falch iawn ein bod ni bellach yn gwerthfawrogi'r amgylchedd yn y datganiad hwn, sy'n rhywbeth nad yw'r farchnad yn ei wneud. Rwy'n credu bod gwaith mawr y gellir ei wneud yma, ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir nad oes amheuaeth bod y ffermwyr a'r cynhyrchwyr ar hyn o bryd yn cynhyrchu nwyddau o ansawdd da, boed yn fwyd neu'n eitemau eraill, ar eu ffermydd. A chaiff hynny ei hyrwyddo drwy sefydliadau fel Hybu Cig Cymru, er enghraifft, ac rwy'n credu os ydym ni'n symud tuag at gynllun newydd, mae cyfle gwirioneddol i sôn am hyrwyddo nwyddau o safon a reolir gan dir, nid hyrwyddo nwyddau o safon yn unig. Oherwydd rwy'n credu bod sgwrs gyfan yn newid nawr. Mae pobl eisiau gwybod am darddiad eu bwyd ac rydym ni'n dda iawn am wneud hynny, mae'n amlwg, ond maen nhw hefyd eisiau gwybod nid yn unig o ble mae'r bwyd wedi dod, ond maen nhw eisiau gwybod sut cafodd ei dyfu. Mae ganddyn nhw gryn ddiddordeb yn effaith y nwyddau a'r gwasanaethau hynny y maen nhw'n eu prynu ar yr hinsawdd, felly rwy'n credu bod angen i ni newid y sgwrs ynghylch hynny'n gyfan gwbl. Byddai honno'n stori newyddion wirioneddol dda i ffermwyr Cymru, oherwydd nid yw o reidrwydd yn wir nad yw hynny'n digwydd yn barod. Ond mae angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n gwerthu hynny, ac er mwyn gwneud hynny, rwy'n credu bod dod â phobl gyda ni yn hollbwysig, yn amlwg. Dyna ble yr wyf i'n cytuno â phawb yma, ac mae'n amlwg eich bod chi wedi cydnabod hynny yn y datganiad hwn.
Ond rwy'n credu, wrth i ni ddod â'r bobl sydd eisoes yn ymwneud â ffermio neu reoli tir gyda ni, mae hefyd yn gyfle i gael trafodaethau ehangach a chydnabod arbenigedd nad yw ar hyn o bryd ar gael, ac a allai gynorthwyo wrth arwain pobl i'r dyfodol yn y ffordd y bydd angen gwneud hynny. Oherwydd ni ellir gwadu newid yn yr hinsawdd, er bod rhai wedi ceisio gwneud hynny. Rydym yn cael glaw trwm iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn cael cyfnodau hir o sychder. Bydd hynny, yn ei dro, yn golygu y byddwn ni'n gorfod cyflenwi'r nwyddau hynny mewn ffordd gwbl wahanol. Mae glaw trwm iawn yn cael gwared ar y pridd ac yn ei erydu. Mae hefyd yn cael gwared ar lygryddion, a gwnaethoch chi sôn am hynny yma, ac rwy'n falch iawn o weld hynny. Ond os yr ydym yn edrych ar y cyfnodau hir hynny o sychder yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd, a chyfnodau cynnes iawn, oni ddylem ni fod yn edrych ar y cyfle i dyfu rhywbeth gwahanol nad yw efallai wedi tyfu yma o'r blaen, ac efallai buddsoddi mewn rhai o'r cynlluniau hynny?
Rwy'n credu bod angen i ni fod, fel yr ydych chi, yn flaengar yma. Gallwn ni edrych ar y posibiliadau a all weithio, a allai weithio, a bydd yn rhaid i ni ddysgu am yr hyn na fydd yn gweithio hefyd. Ond mae hynny wedi bod yn wir ym myd ffermio erioed, ac rwyf eisiau hyrwyddo yma—oherwydd rwy'n mynd i—fferm organig Caerhys yn sir Benfro, oherwydd arweiniodd y ffordd yn gynnar iawn pan nad oedd eraill yn gwneud, ac arallgyfeiriodd yn lle—. Yr unig ffordd y gallai fod wedi goroesi oedd cynyddu nifer y buchod a oedd ganddi ar y tir. Penderfynodd beidio, ac yn hytrach, trodd yn fferm organig. Felly, rwy'n credu bod rhai enghreifftiau da iawn o ran ble mae pethau wedi gweithio, ond y bygythiad mwyaf i hyn i gyd, ac rwy'n ei ailadrodd, yw San Steffan. Rydym wedi clywed rhai datganiadau pryderus iawn am arian yn cael ei gipio heddiw. Arian blaenorol yr UE a ddaeth yma ac sy'n eiddo i Gymru ydoedd. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael sgyrsiau, ac rwy'n siŵr y byddwch yn eu cael nhw eto, ond ni allwn gael sefyllfa lle mae'r arian i gyda wedi'i ganoli yn San Steffan, ac mae San Steffan yn dweud wrthym ni yng Nghymru beth y cawn ni ei wneud oherwydd mai nhw sy'n rheoli sut y mae'r arian yn cael ei wario. Diolch.
Fe ddechreuaf gyda'r pwynt olaf hwnnw a wnaeth Joyce Watson. Rwyf wedi'i wneud dro ar ôl tro ar ôl tro, a soniais mewn ateb cynharach—rydym ni eisiau bod Gweinidog o'r Trysorlys yn ein cyfarfodydd pedair ochrog. Dyna sy'n digwydd yng nghyfarfodydd pedair ochrog yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gysylltiedig a rhan ynni fy mhortffolio, felly nid wyf yn gweld pam nad ydym ni'n gallu gwneud hyn gyda'r ochr amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cael yr eglurder hwnnw. Soniais i fy mod i wedi ysgrifennu eto—mae hwn mewn gwirionedd yn mynd at Robert Goodwill, a gadeiriodd y cyfarfod pedair ochrog diwethaf. Mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni oherwydd, fel rwy'n dweud, nid yw neilltuo dim byd yn rhoi rhyw llawer iawn inni. A chawsom ni addewid na fyddem ni'n colli ceiniog petaem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddal yn gadarn at yr addewid hwnnw.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch rheoli tir yn gynaliadwy a pham yr ydym ni'n gwneud hynny. Mae'n gysyniad sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae'n adlewyrchu defnyddio'n tir mewn ffordd sy'n sicrhau bod anghenion y genhedlaeth bresennol yn cael eu cydbwyso ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae ffermwyr yn deall hynny'n iawn. Maen nhw bob amser yn siarad am genedlaethau'r dyfodol a'r angen i ddiogelu'r tir. Ac roedd gan y fferm yr oeddwn i arni ddoe y dirwedd fwyaf anhygoel. Mae pobl yn dod i Gymru ar gyfer y dirwedd honno, ac maen nhw'n dod hefyd am y bwyd. Ac rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â tharddiad—mae gan bobl lawer mwy o ddiddordeb mewn gwybod o le mae eu bwyd wedi dod a sut y mae'n cael ei dyfu. Felly, roedd y ffermwr yn dweud wrthyf i ddoe fod ei ŵyn yn bwyta llawer o feillion gyda'u glaswellt, ac mae hynny'n gwneud i'r cig flasu'n llawer gwell. Felly, yn amlwg, eisoes yn meddwl am yr holl bethau hyn. Ond nid yw'n cael ei wobrwyo am lawer o'r nwyddau cyhoeddus y mae'n eu darparu, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol hynny a'i fod ef yn cael ei wobrwyo.
Rydym ni wedi rhoi mwy o bwyslais ar fwyd a chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy yn yr ymgynghoriad hwn. Gofynnodd un o'r undebau imi, sy'n credu bod bwyd yn nwydd cyhoeddus—nid yw, mae ganddo farchnad, ac nid yw'n deg i'r trethdalwr ein bod ni'n talu am rywbeth sydd â marchnad. Ond mae'n iawn ein bod yn gwobrwyo pethau nad oes marchnad ar eu cyfer, gan gynnwys ansawdd yr aer, ansawdd y dŵr, ansawdd y pridd, y gwaith rheoli maethynnau yr ydym ni wedi cyfeirio ato yn y datganiad hwn.
Bellach, ystyrir mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth bwysicaf o ran gwarchod adar yn y DU, a bydd perthnasedd hyn i'ch datganiad yn dod yn amlwg. Mae'r adroddiad partneriaeth 'Sefyllfa adar yng Nghymru 2018' yn dangos bod nifer y gylfinirod a gollwyd wedi bod yn fwy difrifol nag yng ngweddill y DU, ac mae mwy na thri chwarter poblogaeth y gylfinir wedi diflannu yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac nid oes unrhyw awgrym bod y duedd hon yn sefydlogi. Ac mae Gylfinir Cymru, partneriaeth y gylfinir yng Nghymru, wedi clywed bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer y gylfinir, er eu bod wedi bod ar waith am 40 o flynyddoedd, yn amlwg, heb weithio ar gyfer y rhywogaeth hon.
Ddoe, roeddwn yn uwchgynhadledd y gylfinir yn Rhif 10 Stryd Downing, ynghyd â: Lewis Macdonald ASA—un o'ch cyd-Aelodau Llafur—hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y gylfinir yn Senedd yr Alban; Jake Berry AS, hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer y gylfinir yn San Steffan; a'r cynghorydd arbenigol arweiniol ar gyfer adareg yn Cyfoeth Naturiol Cymru—efallai eich bod yn ymwybodol ei fod yn bresennol. Clywsom y bydd angen digon o adnoddau i gynghori, annog a chynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddod at ei gilydd i gyflawni, monitro a hyrwyddo'r gylfinir a bioamrywiaeth ar draws tirweddau, a bod angen deall y manteision lluosog ac aml-rywogaeth sy'n deillio o gryfder ecosystemau a safbwynt treftadaeth ddiwylliannol a naturiol y mae'n bosibl eu cyflawni drwy gamau i ddiogelu'r gylfinir.
Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r pwyntiau perthnasol canlynol i'ch datganiad a wnaed yn y cyfarfod bord gron a thrawsbleidiol mawr hwn: ein bod mewn cyfnod tyngedfennol i'r gylfinir, ac efallai bod gennym ni ond 15 mlynedd ar ôl; y dylem ni i gyd fod yn rhan o'r gwaith o gyd-gynllunio cynllun gyda phrofion a threialon; bod angen dull yn seiliedig ar anghenion ar gyfer taliadau i ffermwyr; dull gweithredu yn seiliedig ar ddull clyfar a mesuradwy; a bod angen cydgysylltu camau gweithredu gan weithio ar raddfa fawr a gyda'n gilydd gan gynnwys asiantaethau statudol a hynny ledled y DU? Ac rwy'n pwysleisio ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraethau Cymru a'r Alban yn cael eu gwahodd i gymryd rhan lawn ar yr eiliad gyntaf y daw DEFRA neu Asiantaeth y DU yn rhan o hyn.
A dof i ben drwy ddyfynnu geiriau'r amgylcheddwraig ac awdures Curlew Moon, Mary Colwell, a oedd yn bresennol, a ddywedodd, 'It's so shocking that Wales may truly have only 15 years left of the haunting call of the curlew—heartbreaking.' Mae yn dorcalonnus. Gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, ond nid yw'n ymwneud â'r gylfinir yn unig, mae'n ymwneud â'r cynlluniau cymorth i ffermwyr sy'n dilyn a'r llu o fuddion o ran cynhyrchu bwyd a rhywogaethau a all ddilyn. Sut y byddech chi'n ymateb i'r pwyntiau hynny a gafodd eu gwneud?
Diolch ichi, Mark Isherwood. Roeddwn yn ymwybodol o'r uwchgynhadledd y cyfeiriasoch ati. Doeddwn i ddim yn ymwybodol eich bod yn bresennol, ond roeddwn i'n sicr yn ymwybodol ohoni. Rwy'n credu, mae'n debyg mai'r ffordd orau ymlaen fyddai—. Yn amlwg, ffermwyr—. Rwyf wedi bod ar sawl fferm lle—alla i ddim meddwl am y gylfinir, ond gwahanol fridiau o adar—maen nhw'n gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n mynd allan o fodolaeth. Gallaf feddwl am un neu ddwy fferm, yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri, o ran gwahanol fathau o adar. Felly, efallai y byddai'n dda i gyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad. Rwy'n siŵr y cewch chi rai ffermwyr a fyddai'n dod at ei gilydd fel grŵp i wneud hynny, oherwydd rwy'n siŵr—os ydych yn dweud ei bod yn 15 mlynedd, byddai hynny'n argyfwng o ran y gylfinir mewn unrhyw iaith. Byddwn yn hapus iawn i gael trafodaeth gyda chi y tu allan i'r Siambr ynglŷn â hynny hefyd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut mae'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad, ond byddwn i'n sicr yn edrych ar unrhyw ymateb a pha un a ellid ei ystyried yn ganlyniad amgylcheddol. Rwy'n siŵr y gellid. Dydyn ni ddim wedi llunio'r cynllun eto. Fel y dywedaf, mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad ystyrlon. Felly, rwy'n fodlon edrych ar hynny.
Diolch i'r Gweinidog.