Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma, wrth gwrs, ar ran y Pwyllgor Cyllid, ac mi gafodd y pwyllgor gyfle i gyfarfod ar 27 Mehefin i drafod cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni, 2019-20. Roedden ni'n falch iawn o allu cynnal y sesiwn honno, wrth gwrs, yn Aberystwyth, a hefyd yn falch o ddweud bod y Gweinidog wedi dod atom ni i'r cyfarfod hwnnw, a dwi'n diolch iddi hi am ddod i gynnal y sesiwn gyda ni yn Aberystwyth.
Nawr, y prif bryder i ni fel pwyllgor am y gyllideb atodol yma yw gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi ei glywed, benderfyniad mewn perthynas â phensiynau sector cyhoeddus, ond dydyn nhw ddim yn ariannu'r penderfyniad hwn yn llawn yng Nghymru. Mae'r datganiad polisi ariannu yn nodi, lle mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at gostau ychwanegol, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli i addasu ar gyfer costau ychwanegol o'r fath, yna mi gaiff y costau ychwanegol hynny eu talu gan y Llywodraeth honno.
Roedd hi'n amlwg i'r pwyllgor nad yw'r datganiad polisi ariannu wedi cael ei weithredu'n gywir yn yr achos hwn, ac fel pwyllgor byddwn ni hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynegi ein pryderon difrifol ni ynghylch y mater yma. Mae Llywodraeth Cymru, fel rŷn ni wedi ei glywed, wrth gwrs, wedi cytuno i wneud yn iawn am y diffyg cyllid ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru eleni, ond mae'r pwyllgor, fel y gallwch chi ddychmygu, yn gofidio am y ffaith nad oes cadarnhad y bydd cyllid yn y dyfodol, ac mae angen sicrwydd felly gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn ar fyrder.
Rhywbeth arall a oedd yn peri pryder i ni fel pwyllgor yw'r cyllid yn ymwneud â ffordd liniaru'r M4. Fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Llywodraeth yn benthyca i gynyddu capasiti gwario, ond, gan na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen, doedd y Gweinidog ddim yn gallu cadarnhau at beth y byddai'r arian a godwyd drwy fenthyca yn cael ei ddefnyddio. Mae Aelodau am ddeall pa brojectau fydd yn cael eu hariannu a allai olygu y bydd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chapasiti gwario. Doedd hi chwaith ddim yn glir yn y dystiolaeth sut y byddai comisiwn yr M4 yn mynd rhagddo. Mae'r Llywodraeth wedi dweud wrthym ni mai comisiwn yr M4 fydd yn cael y 'cynnig cyntaf' ar gyllid a oedd i fod ar gael ar gyfer project y llwybr du, ond eto fe gawson ni ar ddeall bod yr £20 miliwn a gafodd ei ddyrannu ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4 bellach mewn cronfeydd wrth gefn.
Does dim manylion yn y gyllideb atodol hon am sut y bydd y camau nesaf ynghylch yr M4 yn symud ymlaen. Mae'r pwyllgor wedi gofyn felly am fanylion am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddarparu ar gyfer comisiwn yr M4, ac am ragor o fanylion am y blaenoriaethau cyllido yn rhaglen gyfalaf 2019-20 y Llywodraeth yng ngoleuni, wrth gwrs, y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phroject yr M4, yn enwedig o ran sut mae hyn wedi effeithio ar ei strategaeth fenthyca.
Nawr, yn y Siambr hon ar 29 Ebrill, fe ddatganodd y Llywodraeth argyfwng hinsawdd. Eto, er gwaethaf y datganiad hwnnw, dydy'r gyllideb hon ddim yn nodi unrhyw newid ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth. Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o sut mae'r datganiad o argyfwng wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Rŷn ni wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Llywodraeth am sut y bydd cyllidebau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd hwnnw.
Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno, wrth gwrs, yng nghyd-destun y ffaith nad oes cytundeb Brexit sydd wedi cael ei dderbyn. Ar y diwrnod y cafodd y gyllideb atodol ei gosod, fe gyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth cyfanswm o £85 miliwn, ac fe'i cyflwynwyd, wrth gwrs, yng nghyd-destun Brexit. Er ein bod ni’n croesawu'r buddsoddiad hwn, wrth gwrs, dyw hi ddim yn glir i ni sut mae'r arian hwn yn bodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran ei strategaeth Brexit, ac rydyn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol am hyn. Mae'r pecyn ariannu hwn, er enghraifft, yn dyrannu £20 miliwn i awdurdodau lleol, ond dyw hi ddim yn glir sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid hwn, ac mi fyddem ni'n croesawu eglurder yn hyn o beth, fel y byddem ni'n ei groesawu e ar y materion eraill dwi wedi'u codi. Diolch.