Effaith Brexit ar y Diwydiant Gweithgynhyrchu Ceir

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:30, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Na wnaiff. Os ydym yn mynd i werthuso effaith Brexit ar ein heconomïau yn briodol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gan ein sylwadau ryw gysylltiad â gwirioneddau'r hyn sy'n digwydd. Ac rwy'n credu ei fod wedi anghofio'n gyfleus iawn y datganiad a wnaed gan uwch-swyddogion gweithredol Ford ddiwedd y llynedd, a oedd yn dweud yn glir iawn am effaith niweidiol Brexit 'dim bargen' ar y sector modurol yma yng Nghymru. Cyfeiriaf yr Aelod at y sylwadau a wneuthum yn gynharach mewn perthynas â'r niwed a fyddai'n cael ei achosi i'r sector hanfodol hwn drwy'r llwybr gweithredu y mae'n lladmerydd angerddol drosto.