Effaith Brexit ar y Diwydiant Gweithgynhyrchu Ceir

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:29, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid cofio y bydd unrhyw dariffau a osodir ar unrhyw rai o'r allforion, yn enwedig yn y diwydiant ceir, ar ôl Brexit, yn cael effaith andwyol iawn ar weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd. Ac nid ydym yn sôn am ddiwydiant ceir yr Almaen yn unig; rydym yn sôn am ddiwydiant ceir Ffrainc, sy'n gynyddol ddibynnol ar eu hallforion i'r DU. Felly, mae dweud y bydd Brexit yn cael yr effaith niweidiol hon ar y diwydiant ceir yn nonsens llwyr. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gytuno â mi ar y pwyntiau hynny?