Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:40, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, pan fydd rhywun wedi bod yn galw am refferendwm, rwy'n credu ei bod hi braidd yn anfoesgar i beidio â chroesawu'r ffaith bod y blaid honno wedyn yn addo refferendwm fel cydnabyddiaeth o gynnydd. Ond mae'r Aelod yn gwybod yn glir beth yw ein sefyllfa yma fel Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Rydym wedi dadlau dros safbwynt a ddisgrifiwyd yn y papur a gawsom ar y cyd â Phlaid Cymru. Rydym wedi cydnabod ein bod wedi cyrraedd y pen draw mewn perthynas â hwnnw, a galwn am refferendwm mewn perthynas â gadael ar unrhyw delerau neu adael 'dim bargen', pa Brif Weinidog bynnag sy'n negodi'r telerau hynny. Bydd yn gwybod ein bod yn parhau i ddadlau o blaid hynny yn ein holl drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac yn gofyn iddynt gymryd camau rhagweithiol i wireddu hynny. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol Cymru yn gofyn iddynt ymuno â'r galwadau o blaid refferendwm ac i sicrhau bod y Senedd yn chwarae ei rhan i wireddu hynny, ac rydym yn hapus i weithio gydag unrhyw blaid arall sy'n rhannu'r amcan hwnnw.