Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ymgais ddewr i gyfiawnhau'r ffurf ddiweddaraf ar bolisi Brexit eich plaid, er fy mod yn tybio y bydd y bobl sy'n gwylio am ffurfio'u casgliadau eu hunain p'un a yw'r ddadl honno'n dal dŵr.
Dywedodd Boris Johnson yn ddiweddar, pe bai'n Brif Weinidog y byddai am weld dylanwad Ceidwadol cryf dros y modd y gwerir y cynllun i adnewyddu cyllid yr UE—y gronfa ffyniant gyffredin—yng Nghymru, ac mae'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon heddiw wedi dweud, 'Ni ddylid ymddiried ynoch chi i wneud hynny'. Eu geiriau hwy nid fy ngeiriau i. Gan nad yw'r Ceidwadwyr mewn grym yma, mae hyn yn awgrymu bod Boris Johnson am i'r gronfa gael ei gweinyddu o San Steffan, neu efallai fod rhywfaint o wirionedd yn y si fod ei gyfaill, nid fy nghyfaill i, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, am iddi gael ei gweinyddu gan awdurdodau lleol. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y byddai hyn yn gipio pŵer amlwg, rhywbeth a fyddai'n mynd yn groes i Ddeddf Cymru 2017, ac y dylai hefyd fod yn anghyfreithlon, o bosibl, am fod pwerau dros ddatblygu economaidd, gan gynnwys gweinyddu a gwario arian rhanbarthol, wedi'u datganoli i'r Cynulliad hwn?