Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:32, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, y gwir amdani, er gwaethaf y darogan gwae parhaus gan Lywodraeth Cymru, a gennych chi, Weinidog, y realiti yw y bydd yna gyfleoedd gwych i Gymru ar ôl cael gwared ar y rhwystrau sydd yn eu lle ar hyn o bryd a'r hualau sydd yno ar hyn o bryd o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Bellach, ni fydd yn rhaid inni gerdded ar bigau'r drain, yn poeni ynglŷn â chydymffurfio â rheolau'r UE, pan gyflwynir deddfwriaeth, er enghraifft, i'r Siambr hon. Ac rwy'n synnu na chyfeirioch chi—[Torri ar draws.] Rwy'n synnu na chyfeirioch chi at ddeddfwriaeth o gwbl yn eich ymateb. Oherwydd, fel y gwyddoch, mae Portiwgal wedi sefyll yn ffordd y cynnig i gyflwyno isafswm pris alcohol yma yng Nghymru—rhywbeth y pleidleisiodd y Siambr hon o blaid ei gefnogi er lles iechyd a lles dinasyddion Cymru. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod gadael yr UE yn rhoi cyfle inni fwrw ati i hybu iechyd a lles ein dinasyddion drwy gyflwyno isafswm pris alcohol, cam a gefnogwyd gan y Siambr hon? Ac a allwch ddweud wrthym pa gamau yr ydych yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol yn manteisio ar y cyfleoedd a allai ymddangos ar ôl Brexit?