Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:34, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, o ran deddfwriaeth, credaf ei fod yn camddeall y sefyllfa. Mae ymyrraeth Portiwgal yn rhan o set o hawliau a phrosesau sy'n bodoli ar draws yr Undeb Ewropeaidd, sy'n sail i'r fframwaith deddfwriaethol yr ydym wedi bod yn gweithredu drwyddo, ac yn parhau i weithredu drwyddo fel aelod-wladwriaethau. Ac rwy'n credu ein bod yn falch o'r ffaith yn y lle hwn ein bod yn gweithredu o fewn fframwaith cyfraith Ewrop, sydd wedi datblygu rhwydwaith o hawliau dynol a mesurau diogelu i'n dinasyddion yma yng Nghymru, mesurau diogelu amgylcheddol, mesurau diogelu cymdeithasol, mesurau diogelu'r gweithlu, y byddai ei blaid ef—neu ef yn sicr—yn barod iawn i gael eu gwared, mae'n ymddangos, yn ôl y gefnogaeth y mae'n ei dangos i Brexit 'dim bargen'. Dylem fod yn falch o hynny yma, yn hytrach na'i ystyried yn fwrn. Rydym wedi gweithio'n galed iawn yn Llywodraeth Cymru, gyda llywodraethau eraill ledled y DU, i sicrhau ein bod wedi bod yn trosglwyddo corff cyfraith yr UE i mewn i gyfraith Cymru fel nad yw'r hawliau hynny'n cael eu colli wrth ymadael, oherwydd ein bod yn eu hystyried yn gaffaeliad i fywyd cyhoeddus Cymru yn hytrach na'r baich rheoleiddiol y mae'n awgrymu y byddent.