Effaith Brexit ar Argaeledd Cymorth Cyfreithiol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:51, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny. Ond ers cyflwyno toriadau cymorth cyfreithiol gan Lywodraeth San Steffan dros chwe blynedd yn ôl, mae nifer y rhieni sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn awr mewn achosion gwarchodaeth plant wedi mwy na dyblu. Mae llawer o deuluoedd yn methu fforddio talu am gynrychiolaeth gyfreithiol, ac maent yn gorfod llywio materion cymhleth ar eu pen eu hunain heb unrhyw ddealltwriaeth o'r gyfraith honno. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi pwysau aruthrol ar deuluoedd ac mae ymgyrchwyr wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, fod lles pennaf plant yn cael ei wneud yn "aneglur".

Mae gan Brexit botensial i effeithio ar bob agwedd ar fywyd yn y DU, gan gynnwys fframwaith cyfreithiol y DU. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch y modd y bydd Brexit yn effeithio ar deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn y llys teulu?