2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd Brexit yn ei chael ar y cymorth cyfreithiol fydd ar gael? OAQ54209
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darparu cymorth cyfreithiol a bu'n destun toriadau sylweddol ers cyflwyno Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Rydym yn pryderu y gallai difrod economaidd Brexit arwain at doriadau pellach, a fyddai'n rhwystro mynediad at gyfiawnder ymhellach.
Diolch ichi am hynny. Ond ers cyflwyno toriadau cymorth cyfreithiol gan Lywodraeth San Steffan dros chwe blynedd yn ôl, mae nifer y rhieni sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn awr mewn achosion gwarchodaeth plant wedi mwy na dyblu. Mae llawer o deuluoedd yn methu fforddio talu am gynrychiolaeth gyfreithiol, ac maent yn gorfod llywio materion cymhleth ar eu pen eu hunain heb unrhyw ddealltwriaeth o'r gyfraith honno. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi pwysau aruthrol ar deuluoedd ac mae ymgyrchwyr wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, fod lles pennaf plant yn cael ei wneud yn "aneglur".
Mae gan Brexit botensial i effeithio ar bob agwedd ar fywyd yn y DU, gan gynnwys fframwaith cyfreithiol y DU. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch y modd y bydd Brexit yn effeithio ar deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn y llys teulu?
Diolch i'r Aelod am daflu goleuni ar fater anodd iawn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n berffaith iawn i nodi'r perygl difrifol, yn fy marn i, y bydd yr ystod o ganlyniadau Brexit yn rhoi pwysau ar deuluoedd ar hyd a lled Cymru. O safbwynt cymorth cyfreithiol, rydym yn bryderus, yn enwedig ynghylch effaith economaidd Brexit 'dim bargen', y byddai hynny'n rhoi pwysau pellach fyth ar adnoddau cyhoeddus i ariannu cymorth cyfreithiol. Yn amlwg, gwyddom pa mor arwyddocaol yw'r toriadau wedi bod hyd yma, a byddai mwy fyth o bwysau ar y cyllidebau hynny'n drychineb.
Ond mae problem hefyd o ran y pwysau y mae'r toriadau hynny'n ei roi ar wasanaethau cyhoeddus sydd eu hunain o dan bwysau, a gallai hynny'n sicr ddwysáu yng nghyd-destun Brexit. Mae'n siarad am y llysoedd teulu yn arbennig, ac rwy'n meddwl bod angen inni gydnabod bod y pwysau ar deuluoedd yn sgil yr ansicrwydd a achosir gan Brexit hyd yn oed yn awr, ynghyd â'r posibilrwydd o golli swyddi ac yn y blaen, yn mynd i fod yn fater difrifol yn fy marn i. Mae'n un o'r pethau rydym yn eu hystyried ar hyn o bryd yn y Llywodraeth: sut y gallwn fynd i'r afael â pheth o'r pwysau y tu allan i gyd-destun cymorth cyfreithiol.
Buaswn yn dweud wrth yr Aelod hefyd, er hynny, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, byddai hynny'n rhoi'r cwestiwn ynglŷn â chydweithrediad barnwrol sifil o fewn yr UE o dan bwysau difrifol, a bu Cymdeithas y Gyfraith ac eraill yn cynghori cyfreithwyr am y camau y gallant eu cymryd yn y cyd-destun hwnnw. Cydnabyddwn y pwysau sydd ar sefydliadau i ddarparu cyngor i unigolion yn y math hwn o sefyllfa, a bydd yn gwybod, wrth gwrs, ein bod wedi darparu cyllid i nifer o sefydliadau, ac yn arbennig yng nghyd-destun Brexit, i roi cyngor cyfreithiol ynghylch statws mewnfudo, fel y gall dinasyddion yr UE fanteisio'n llawn ar eu hawliau a gwneud cais am statws sefydlog yr UE yma yng Nghymru.
Weinidog, mae Brexit yn tueddu i gynhyrchu llawer mwy o wres na golau y dyddiau hyn, gyda sïon a honiadau a gwrth-honiadau'n chwyrlïo o'n hamgylch, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio dysgu'r gwirioneddau sydd yno ar lawr gwlad. Ein cyd-Aelodau Seneddol yn San Steffan—ceir grŵp o'r enw Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol Ifanc sydd wedi mynd â thua 45 o aelodau gyda hwy, i'w cysgodi, allan ar lawr gwlad i wneud cymorth cyfreithiol, a deall yn iawn beth yw'r problemau sy'n eu hwynebu, a'r heriau o'u blaenau gyda Brexit ac i deuluoedd, ni waeth beth fydd y canlyniad. Mae aelodau'r grŵp hwnnw'n cynnwys, er enghraifft, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol sy'n gyfrifol am gymorth cyfreithiol ac Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru. A fyddech yn ystyried cefnogi'r grŵp hwn a cheisio cyflwyno menter o'r fath yma yng Nghymru o bosibl, er mwyn i ninnau hefyd allu mynd allan a dysgu'r realiti hwnnw?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw ac am y modd y'i cyflwynodd, os caf ddweud, a rhannaf ei theimlad ar ddechrau ei chwestiwn. Buaswn yn hapus iawn i edrych ar waith y grŵp hwnnw a gweld sut y gallaf gefnogi eu gwaith neu gymryd rhan yn yr hyn y maent yn ei wneud. Buaswn yn hapus iawn i edrych ar hynny, a diolch iddi am wneud yr awgrym hwnnw.