Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol ymgysylltu â busnesau ledled Cymru, wrth gwrs, er mwyn paratoi ar gyfer Brexit. Fe sonioch eich bod wedi bod yn siarad â rhai o'r sefydliadau allweddol ac maent o amgylch y bwrdd yn eich cyfarfodydd hefyd. Ond rwy'n pryderu'n arbennig am fusnesau bach, annibynnol nad ydynt o bosibl yn aelodau o sefydliadau fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach. Sut yr ymgysylltwch â'r mathau hynny o grwpiau nad ydynt yn perthyn i gyrff aelodaeth?