Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Rydym wedi cefnogi busnesau bach a microfusnesau drwy grant cydnerthedd Brexit ac yn darparu gwybodaeth am barodrwydd gyda busnesau a rhanddeiliaid, yn enwedig drwy ein gwefannau. Rydym yn trafod yn barhaus â sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli buddiannau a phryderon busnesau bach, y cynrychiolir nifer ohonynt ar weithgor ymadael yr UE, un o is-bwyllgorau ein cyngor datblygu economaidd.