Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Wel, rwy'n mynd i ymwrthod â themtasiwn breuddwyd gwrach llefarydd yr wrthblaid yn hyn o beth. A gaf fi godi un pwynt? Mae'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a'r ymrwymiadau a wnaed yng nghyswllt hynny. Gadewch i ni fod yn glir: roedd yr hyn a ddywedodd Boris Johnson ddydd Gwener diwethaf yn warth cyfansoddiadol—y ffaith y byddai'n well defnyddio'r arian hwnnw pe bai elfen Geidwadol yn perthyn iddynt, nid elfen Llywodraeth y DU, ond elfen Geidwadol. Beth yw ystyr hynny? Os yw am i'r Ceidwadwyr reoli'r arian hwnnw, mae angen i'r Ceidwadwyr ennill etholiad yma yng Nghymru, rhywbeth nad ydych wedi'i wneud dros y 100 mlynedd diwethaf. [Torri ar draws.]