Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mae'n siarad cyfrolau, a bod yn onest, Weinidog, y bydd y weinyddiaeth hon yma yng Nghymru yn manteisio ar bob cyfle posibl i feirniadu Llywodraeth y DU, ni waeth pa mor annheg yw'r feirniadaeth honno, ac eto rydych yn achub ar y cyfle i ganmol yr Undeb Ewropeaidd ni waeth pa mor anhaeddiannol yw'r ganmoliaeth honno o bosibl. Clywsom yr wythnos hon fod blaenoriaethau'r Blaid Lafur yng Nghymru yn glir. Yr Undeb Ewropeaidd yn gyntaf, ac undeb y Deyrnas Unedig yn olaf. Ac am nad yw'r Siambr hon yn mynd i'w glywed gan y Gweinidog Brexit, gadewch imi ddweud wrthych am y cyfleoedd a welwn, oherwydd, wrth gwrs, byddwn yn gweld y baich rheoleiddiol yn cael ei leihau, o bosibl, i lawer o fusnesau nad oes angen iddynt fasnachu dramor gydag allforion. Byddwn hefyd yn gweld rhai arbedion sylweddol i'r trethdalwr wrth gwrs. Bydd gennym y gronfa ffyniant gyffredin i gymryd lle'r cronfeydd Undeb Ewropeaidd a gollwn. Ac wrth gwrs, mae'r ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, y bydd un ohonynt yn dod yn Brif Weinidog, ill dau'n sicr na fydd Cymru'n colli'r un geiniog o gyllid Ewropeaidd o gymharu â'r arian y mae'n ei gael hyd yma.
Felly, yn hytrach na gorfod gweithredu rheolau yma yn y DU sydd o fudd i ffermwyr yn Ffrainc, pysgotwyr yng Ngwlad yr Iâ, cynhyrchwyr gwin ym Mhortiwgal, onid ydych chi'n meddwl y byddai'n well gallu cael ein rheolau ein hunain sy'n cefnogi ffermwyr yma, cynhyrchwyr bwyd a diod yma yng Nghymru? Ac a allwch egluro sut rydych yn parchu canlyniad y refferendwm, sef yr hyn yr addawoch chi ei wneud yn dilyn y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016? Fe ddywedoch chi y byddech yn parchu'r canlyniad fel Llywodraeth Cymru ac yn ceisio gweithredu'r canlyniad hwnnw. Fe safoch ar faniffesto a ddywedai y byddech yn parchu'r canlyniad. Bellach, wrth gwrs, rydych wedi camu'n ôl oddi wrth hynny, a chicio tywod i lygaid yr etholwyr, gan wrthod y penderfyniad a wnaethant i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a allwch egluro pam eich bod wedi newid eich safbwynt i'r fath raddau, a pha bryd y gwnewch chi ddihuno, wynebu'r gwirionedd, ac edrych ar Brexit fel cyfle bendigedig a gogoneddus i Gymru, nid y math o wae rydych chi'n ei ddarogan?