Trefniadau Llywodraethu'r DU ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:56, 10 Gorffennaf 2019

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Fel y byddwch chi’n ymwybodol, gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddarn o waith y llynedd a chyhoeddodd y pwyllgor adroddiad o’r enw 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd', ac yn yr adroddiad yma argymhellwyd y dylai'r Llywydd, ar y cyd â llefaryddion a llywyddion deddfwrfeydd eraill y Deyrnas Unedig, sefydlu cynhadledd y llefaryddion gyda'r nod o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gweithio rhyng-seneddol yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas y gynhadledd yma fyddai ystyried sut i ddatblygu gweithio ar y cyd rhwng y Llywodraethau y tu fewn i'r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bod fframweithiau cywir yn cael eu datblygu yn y dyfodol. Dwi'n deall bod modelau o gynhadledd y llefaryddion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond allwch chi fel Llywodraeth ddweud wrthym ni pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael ynglŷn â'r syniad yma, a hefyd, yn dilyn ymlaen o gwestiwn cynharach oddi wrth yr Aelod dros Flaenau Gwent, ydych chi'n meddwl bod hyn yn ffordd effeithiol i sicrhau bod mecanweithiau rhyng-seneddol cywir yn cael eu sefydlu yn y dyfodol?