2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael ynghylch trefniadau llywodraethu'r DU ar ôl Brexit? OAQ54196
Rwyf wedi cynnal nifer o drafodaethau yn ymwneud â threfniadau llywodraethu’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, a’r mwyaf diweddar o’r rhain oedd cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewrop) ar 28 Mehefin.
Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Fel y byddwch chi’n ymwybodol, gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddarn o waith y llynedd a chyhoeddodd y pwyllgor adroddiad o’r enw 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd', ac yn yr adroddiad yma argymhellwyd y dylai'r Llywydd, ar y cyd â llefaryddion a llywyddion deddfwrfeydd eraill y Deyrnas Unedig, sefydlu cynhadledd y llefaryddion gyda'r nod o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gweithio rhyng-seneddol yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas y gynhadledd yma fyddai ystyried sut i ddatblygu gweithio ar y cyd rhwng y Llywodraethau y tu fewn i'r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bod fframweithiau cywir yn cael eu datblygu yn y dyfodol. Dwi'n deall bod modelau o gynhadledd y llefaryddion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond allwch chi fel Llywodraeth ddweud wrthym ni pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael ynglŷn â'r syniad yma, a hefyd, yn dilyn ymlaen o gwestiwn cynharach oddi wrth yr Aelod dros Flaenau Gwent, ydych chi'n meddwl bod hyn yn ffordd effeithiol i sicrhau bod mecanweithiau rhyng-seneddol cywir yn cael eu sefydlu yn y dyfodol?
Mae'r cwestiwn yna'n gwestiwn pwysig. Mae gyda ni lot o ffordd i fynd i ddelio â'r newidiadau a ddaw yn sgil Brexit i sicrhau bod y setliad cyfansoddiadol a'r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn gweithio mewn ffyrdd gwell nag ŷn nhw nawr. Mae ein ffocws ni fel Llywodraeth wedi bod, ar y cyfan, ar sut mae'r mecanwaith rhwng y Llywodraethau yn gweithio, oherwydd dyna'n remit cyfansoddiadol ni, ond rhan hollol gynhenid o hynny yw'r broses o sut mae'r Llywodraethau yn atebol i'w deddfwrfeydd. A rhan o hynny, yn sicr, yw—ac rŷm ni wedi gweld mantais hyn yn trafodaethau—sut mae'r pwyllgorau'n benodol yn y deddfwrfeydd wedi bod yn galw am fwy o gyfleoedd i graffu a datblygu systemau a ffyrdd newydd o wneud hynny yng nghyd-destun Brexit. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith sydd ar y cyd ynglŷn â'r perthnasau rhwng y deddfwrfeydd. Mater i'r Cynulliad ac i'r Llywydd yw'r rheini yn gyfansoddiadol, ond, wrth gwrs, mae'r math yna o greadigrwydd a dychymyg ynglŷn â sut rŷm ni'n ail-ffurfio'r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn hollol graidd i system gyfansoddiadol sefydlog yn y dyfodol ar ôl Brexit.