Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Mae'r cwestiwn yna'n gwestiwn pwysig. Mae gyda ni lot o ffordd i fynd i ddelio â'r newidiadau a ddaw yn sgil Brexit i sicrhau bod y setliad cyfansoddiadol a'r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn gweithio mewn ffyrdd gwell nag ŷn nhw nawr. Mae ein ffocws ni fel Llywodraeth wedi bod, ar y cyfan, ar sut mae'r mecanwaith rhwng y Llywodraethau yn gweithio, oherwydd dyna'n remit cyfansoddiadol ni, ond rhan hollol gynhenid o hynny yw'r broses o sut mae'r Llywodraethau yn atebol i'w deddfwrfeydd. A rhan o hynny, yn sicr, yw—ac rŷm ni wedi gweld mantais hyn yn trafodaethau—sut mae'r pwyllgorau'n benodol yn y deddfwrfeydd wedi bod yn galw am fwy o gyfleoedd i graffu a datblygu systemau a ffyrdd newydd o wneud hynny yng nghyd-destun Brexit. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith sydd ar y cyd ynglŷn â'r perthnasau rhwng y deddfwrfeydd. Mater i'r Cynulliad ac i'r Llywydd yw'r rheini yn gyfansoddiadol, ond, wrth gwrs, mae'r math yna o greadigrwydd a dychymyg ynglŷn â sut rŷm ni'n ail-ffurfio'r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn hollol graidd i system gyfansoddiadol sefydlog yn y dyfodol ar ôl Brexit.