Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:43, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ddiweddar fod eich Llywodraeth yn datblygu llinellau coch mewn perthynas â meysydd datganoledig nad yw'n dymuno iddynt gael eu cynnwys mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw'r llinellau coch hynny? Dywedodd wrthym hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon mynd â Llywodraeth y DU i'r llys pe bai'n ceisio gwerthu GIG Cymru fel rhan o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau yn y dyfodol. Ond fel y gwyddoch, o dan adran 82 o Ddeddf Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i weithredu cyfarwyddebau a geir o fewn cytundebau nad ydynt yn rhan o'u cymhwysedd datganoledig. A allech roi sicrwydd inni felly ynglŷn â pha gamau y gallai eich Llywodraeth eu cymryd pe bai Llywodraeth y DU yn gweithredu adran 82 er mwyn ceisio gorfodi Gweinidogion Llywodraeth Cymru i weithredu mesurau niweidiol nad ydynt yn cytuno â hwy, ac a fyddai hyn yn golygu mynd â Llywodraeth y DU i'r llys o bosibl, fel y nododd eich cyd-Aelod, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol?