Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Wel, rwy'n ategu'r teimladau yng nghwestiwn yr Aelod. Fel y soniais ychydig funudau yn ôl, credaf y byddai'n warthus pe bai hynny'n digwydd. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ymrwymiadau, ac nid yw'n eu cyflawni. Mae Boris Johnson, drwy wneud y datganiad hwnnw, yn canu larymau, fel y mae ei chwestiwn yn awgrymu. Rydym yn gwbl glir na ddylem ddioddef cael ceiniog yn llai o'r cyllid y buom yn ei gael yma yng Nghymru, ac y dylai'r pwerau dros yr arian hwnnw gael eu harfer yma yn y Cynulliad hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, gan mai ni sydd yn y sefyllfa orau i reoli ein datblygiad economaidd yng Nghymru.